Sut ydw i’n cael gafael ar docyn mynediad API Canvas Data 1 ym Mhorth Data Canvas.
Bydd Canvas Data 1 yn cael ei anghymeradwyo ar 31 Rhagfyr 2023. Ni fydd canllawiau Canvas Data 1 yn cael eu cynnwys yn y Gymuned o ddiwedd Mehefin 2024 ymlaen. Dysgwch ragor am gael gafael ar ddata gan ddefnyddio Canvas Data 2.
Mae API Data Canvas yn gadael i chi gael gwybodaeth am ffeiliau Data Canvas neu eu llwytho i lawr.
Mae unrhyw weinyddwyr Data Canvas yn gallu creu manylion API, ond mae’r manylion yn cael eu rhannu rhwng pob defnyddiwr gweinyddol yn y cyfrif hwnnw. Os hoffech chi roi mynediad i ddefnyddwyr eraill neu bartneriaid trydydd parti lwytho ffeiliau i lawr drwy’r API, gallwch chi greu manylion a’u pasio yn ddiogel i’r defnyddwyr hynny. Ond, os oes angen i chi wrthod mynediad i ddefnyddiwr, bydd angen i chi ail-greu'r manylion a dosbarthu’r manylion yn ddiogel unwaith eto.
Agor Cyfrif
Cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].
Agor Porth Data Canvas
Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Porth Data Canvas (Canvas Data Portal).
Creu Manylion
Cliciwch y botwm Creu Manylion (Create Credentials).
Copïo Manylion
Copïo’r Allwedd API a’r Gyfrinach API Os byddwch chi’n dychwelyd i’r Porth Manylion, byddwch chi’n gallu gweld yr Allwedd API ond ddim y Gyfrinach API.
Creu Manylion Newydd
Gallwch chi greu manylion newydd drwy glicio’r botwm Creu Manylion (Create Credentials). Ond, bydd creu manylion newydd yn annilysu’r hen fanylion ar gyfer pob defnyddiwr sy’n gallu cael gafael arnyn nhw.