Sut ydw i’n defnyddio Porth Canvas Data 1 mewn cyfrif?

Bydd Canvas Data 1 yn cael ei anghymeradwyo ar 31 Rhagfyr 2023. Ni fydd canllawiau Canvas Data 1 yn cael eu cynnwys yn y Gymuned o ddiwedd Mehefin 2024 ymlaen.  Dysgwch ragor am gael gafael ar ddata gan ddefnyddio Canvas Data 2.

Pan mae wedi’i alluogi ar gyfer eich cyfrif, mae Gosodiadau Cyfrif yn cynnwys dolen Porth Data Canvas. Mae’r ddolen hon yn gadael i Weinyddwr Data Canvas reoli Data Canvas.

I gael rhagor o wybodaeth am Ddata Canvas, edrychwch ar eiriadur Data Canvas.

Nodwch: Mae unrhyw weinyddwr Canvas yn eich cyfrif yn gallu gweld dolen Porth Data Canvas, ond oni bai eu bod nhw wedi cael mynediad gan Weinyddwr Data Canvas, fyddan nhw ddim yn gallu gweld cynnwys y dudalen.

Mae Porth Data Canvas yn gadael i Weinyddwr Data Canvas wneud y canlynol:

  • gweld data wedi’i allgludo’n ddiweddar
  • gweld defnyddwyr cyfredol
  • creu manylion ar gyfer mynediad API Data Canvas (yn cael ei ddefnyddio i lwytho ffeiliau fflat i lawr)

Nid yw Data Canvas yn dangos gwybodaeth cyfrif plentyn mewn cyfrif rhiant.

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Agor Porth Data Canvas

Agor Porth Data Canvas

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Porth Data Canvas (Canvas Data Portal).

Gweld Porth Data Canvas

Mae Porth Data Canvas yn gadael i chi reoli Data Canvas. Mae’r porth yn cynnwys dwy adran: y Porth Manylion [1] a’r tudalennau Dogfennau [2].

Gweld y Porth Manylion

Gweld y Porth Manylion

Yn ddiofyn, mae Porth Data Canvas yn agor i’r Porth Manylion, sy’n cynnwys holl fanylion eich cyfrif Data Canvas.

Gweld Data wedi’i Allgludo’n Ddiweddar

Yn dibynnu ar fynediad eich cyfrif, mae’r adran Data wedi’i Allgludo’n Ddiweddar yn dangos ffeiliau y mae modd eu llwytho i lawr yn ddyddiol neu misol. Dyddiad y ffeil yw pryd y gwnaeth y data orffen allgludo, nid dyddiad y data. Mae’r data mwyaf diweddar fel arfer 24-36 awr yn hŷn na’r dyddiad a roddir.

Data Hanesyddol Data Canvas

Ar ôl i Ddata Canvas gael ei alluogi ar eich cyfrif, mae cyfres o ffeiliau fflat yn ymddangos bob nos ar gyfer eich cyfrif. Mae’r ffeiliau’n cynnwys tablau sy’n cynrychioli’r holl ddata o bryd y cafodd Data Canvas ei alluogi ar y cwrs, ac eithrio ceisiadau gweld tudalen sy’n cynnwys ffeiliau cynyddol wedi’u llwytho i lawr o’r diwrnod blaenorol. I dderbyn ceisiadau gweld tudalen hanesyddol o cyn i Ddata Canvas gael ei alluogi yn y cyfrif, cysylltwch â’ch Ymgynghorydd Gweithredu. Mae’r data tabl gweld tudalen hanesyddol yn cael ei lwytho i fyny ar wahân ac mae ceisiadau fel arfer yn cael eu prosesu bob deufis.

Gweld Defnyddwyr

Mae’r adran Rheoli Defnyddiwr yn dangos gweinyddwyr sydd wedi cael mynediad at Borth Data Canvas, ynghyd â’u hawliau. Allwch chi ddim golygu hawliau ar eich cyfer eich hun.

Mae unrhyw weinyddwr sydd heb fynediad ond sydd wedi ceisio gweld y porth hefyd yn ymddangos ar y rhestr. Gallwch chi ddewis golygu gosodiadau’r defnyddiwr hwnnw a rhoi hawl mynediad ar unrhyw adeg. Dysgu sut i reoli defnyddwyr Gweinyddwr Data Canvas.

Gweld Manylion API

Gweld Manylion API

Os hoffech chi roi mynediad i ddefnyddwyr eraill neu bartneriaid trydydd parti lwytho data i lawr yn awtomatig, gallwch chi greu manylion API a’u pasio i’r defnyddwyr hynny. I greu’r manylion, cliciwch y botwm Creu Manylion (Create Credentials).

Ar ôl i’r manylion gael eu creu, bydd angen i chi eu cadw a’u trosglwyddo’n ddiogel i’r defnyddwyr neu’r partneriaid trydydd parti a fydd eu hangen. Mae’r manylion yn gallu cael eu hail-greu ar unrhyw adeg ond bydd yr hen fanylion yn cael eu hannilysu.

Dysgwch ragor am API Data Canvas yng Nghymuned Canvas.

Gweld Dogfennau

Gweld Dogfennau

I weld dogfennau Data Canvas, cliciwch ddewislen y tab Dogfennau.

Mae’r Dogfennau Sgemau yn egluro’r holl ddata tabl sy’n cael ei allgludo o Canvas.

Mae’r Dogfennau API yn dangos yr hol alwadau APU y gallwch chi eu defnyddio ar gyfer Data Canvas.