Ar ôl i mi gyhoeddi cwis, sut alla i roi ymgeisiadau ychwanegol i fy myfyrwyr?
Gallwch chi roi mynediad i fyfyriwr unigol, mwy nag un myfyriwr, neu’r dosbarth cyfan i gael ymgeisiadau ychwanegol ar gwis. Os yw eich cwis wedi’i gloi, gallwch chi ddatgloi’r cwis eich hun ar gyfer myfyriwr, hyd yn oed os nad yw’r myfyriwr wedi cymryd y cwis eto.
Gallwch chi ychwanegu ymgeisiadau ychwanegol trwy gael gafael ar ganlyniadau cwis y myfyrwyr neu drwy safoni’r cwis.
Mae cael gafael ar Ganlyniadau Cwis Myfyrwyr yn ffordd gyflym o ganiatáu ymgais ychwanegol ar gyfer myfyriwr unigol.
Mae safoni’r cwis yn gadael i chi ganiatáu ymgeisiadau ychwanegol ar gyfer myfyrwyr unigol ac ar gyfer mwy nag un myfyriwr ar y tro. Mae’r opsiwn hwn hefyd yn gadael i chi roi ymgeisiadau ychwanegol i fyfyrwyr sydd heb gymryd y cwis eto. Ar gyfer cwisiau wedi’u hamseru, gallwch chi roi amser ychwanegol ar gyfer ymgais. Os yw eich opsiynau cwis yn gadael i fyfyrwyr weld canlyniadau dim ond unwaith ar ôl pob ymgais, gallwch chi hefyd adael i fyfyrwyr weld canlyniadau cwis unwaith yn rhagor.
Gallwch chi ddefnyddio’r opsiynau hyn i dynnu ymgeisiadau hefyd. Er enghraifft, os oes angen i chi dynnu ymgais gan fyfyriwr, gallwch chi leihau’r ymgeisiadau’n unol â hynny.
Nodiadau:
- Pan fo ymgeisiadau ychwanegol yn cael eu rhoi drwy’r opsiwn Safoni Cwis, mae Canvas yn cadw’r sgôr cwis uchaf. Gallwch chi gadw’r sgôr diweddaraf neu gyfartaledd o’r holl sgorau drwy roi mwy nag un ymgais i bob myfyriwr yn yr opsiynau sgorio cwis.
- Mae dyddiadau argaeledd y cwis dal yn berthnasol wrth safoni cwis. Os bydd y dyddiad Tan yn pasio cyn i fyfyriwr gwblhau ei ymgeisiadau ychwanegol, bydd unrhyw gwisiau sydd ar eu hanner yn cael eu cyflwyno’n awtomatig a bydd y cwis yn cau, hyd yn oes os nad yw ymgais y myfyriwr wedi dirwyn i ben.
Agor Cwisiau
Yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs, cliciwch y ddolen Cwisiau (Quizzes).
Agor Cwis
Cliciwch enw’r cwis.
Ychwanegu Ymgais Ychwanegol drwy Ganlyniadau Cwis Myfyrwyr
I ychwanegu ymgais ychwanegol ar gyfer myfyriwr unigol, cliciwch yr eicon Opsiynau [1], yna dewiswch y ddolen Dangos Canlyniadau Cwis Myfyrwyr (Show Student Quiz Results) [2].
Dewis Myfyriwr
O dan y pennyn Myfyrwyr sydd wedi cymryd y cwis, cliciwch enw’r myfyriwr.
Nodyn: I roi ymgais ychwanegol fyfyrwyr sydd heb gymryd y cwis, mae angen i chi ychwanegu ymgais drwy safoni’r cwis.
Rhoi Ymgais Ychwanegol i’r Myfyriwr hwn
Cliciwch y botwm Rhoi Ymgais Ychwanegol i’r Myfyriwr hwn (Allow this student an extra attempt). Bydd y myfyriwr yn cael ymgais ychwanegol ar gyfer y cwis yn awtomatig.
Nodyn: Mae dyddiadau argaeledd y cwis dal yn berthnasol wrth safoni cwis. Os bydd y dyddiad Tan yn pasio cyn i fyfyriwr gwblhau ei ymgeisiadau ychwanegol, bydd unrhyw gwisiau sydd ar eu hanner yn cael eu cyflwyno’n awtomatig a bydd y cwis yn cau, hyd yn oes os nad yw ymgais y myfyriwr wedi dirwyn i ben.
Ychwanegu Ymgais Ychwanegol drwy Safoni’r Cwis Hwn
I ychwanegu ymgeisiadau ar gyfer un neu ragor o fyfyrwyr, cliciwch y ddolen Safoni’r Cwis Hwn (Moderate This Quiz).
Safoni Cwis
I safoni cwis ar gyfer un myfyriwr, dewch o hyd i’r myfyriwr a chlicio’r eicon Golygu [1]. Gallwch chi hefyd hidlo myfyrwyr yn eich cwrs drwy ddefnyddio’r maes Chwilio Pobl (Search People) [2]:
Teipiwch nifer yr ymgeisiadau ychwanegol yr hoffech chi eu rhoi ‘r myfyriwr yn y maes Ymgeisiadau Ychwanegol (Extra Attempts) [1].
Os yw eich cwis wedi’i gloi oherwydd dyddiadau argaeledd, bydd angen i chi ddatgloi’r cwis ar gyfer y myfyriwr drwy glicio’r blwch ticio datgloi’r cwis eich hun ar gyfer yr ymgais nesaf (manually unlock the quiz for the next attempt) a diweddaru’r dyddiadau argaeledd ar gyfer y myfyriwr unigol neu’r dosbarth cyfan [2].
Nodiadau:
- Dim ond ar gyfer cwisiau sydd wedi gosod nifer yr ymgeisiadau a ganiateir i fyfyrwyr y mae’r maes Ymgeisiadau Ychwanegol yn ymddangos.
- Os oes angen cod mynediad ar gwis, bydd angen i fyfyrwyr roi’r cod hwnnw i ddechrau eu hymgais cwis ar ôl iddo gael ei ddatgloi.
- Mae dyddiadau argaeledd y cwis dal yn berthnasol wrth safoni cwis. Os bydd y dyddiad Tan yn pasio cyn i fyfyriwr gwblhau ei ymgeisiadau ychwanegol, bydd unrhyw gwisiau sydd ar eu hanner yn cael eu cyflwyno’n awtomatig a bydd y cwis yn cau, hyd yn oes os nad yw ymgais y myfyriwr wedi dirwyn i ben.
Addasu Opsiynau Ychwanegol
Yn dibynnu ar osodiadau eich cwis, efallai y bydd y blwch estyniad i fyfyrwyr yn cynnwys opsiynau ychwanegol.
Os oes gan y cwis derfyn amser a’ch bod chi eisiau rhoi mwy o amser, teipiwch nifer y munudau ychwanegol yn y maes Amser Ychwanegol ar Bob Ymgais (Extra Time on Every Attempt) [1]. Os nad yw’r myfyriwr wedi cymryd y cwis, bydd yr amser ychwanegol yn cael ei ychwanegu at ymgais gyntaf y myfyriwr ac ar ymgeisiadau ychwanegol. Dysgwch ragor am reoli amser ychwanegol mewn cwisiau wedi’u hamseru.
Os cafodd y cwis ei gadw gyda’r opsiwn Dim ond unwaith ar ôl pob ymgais, gallwch chi adael i’r myfyriwr weld canlyniadau’r cwis unwaith yn rhagor [2]. Mae canlyniadau’n cynnwys eu hymatebion a’r atebion cywir. Ar ôl i’r myfyriwr weld canlyniadau’r cais, bydd yr estyniad gweld canlyniadau’n cael ei ailosod a bydd y canlyniadau’n cael eu cuddio unwaith eto. Dysgu rhagor am gyfyngu canlyniadau cwis.
Nodyn: Os yw’r opsiwn Dim Ond Unwaith wedi’i ddewis a bod myfyrwyr hefyd wedi cael ymgais ychwanegol ar y cwis, bydd myfyrwyr yn gallu gweld y canlyniadau cyn iddyn nhw gymryd y cwis, yn ogystal ag ar ôl iddyn nhw orffen y cwis. Os yw myfyrwyr yn cael mwy nag un ymgais ar gwis, efallaai y byddwch chi eisiau golygu’r cwis a dewis yr opsiwn Caniatáu mwy nag un ymgais (Allow Multiple Attempts), sy’n rhoi’r opsiwn i adael i fyfyrwyr weld eu hymatebion cwis ar ôl yr ymgais olaf yn unig.
Cadw Newidiadau
Cliciwch y botwm Cadw (Save).
Safoni Cwis ar gyfer mwy nag un myfyriwr
Os ydych chi eisiau dewis mwy nag un myfyriwr, cliciwch y blwch ticio [1] wrth bob un o’u henwau. Os ydych chi eisiau dewis pob myfyriwr, cliciwch y blwch ticio ar y brig [2]/ Cliciwch y botwm Newid Estyniadau ar gyfer [#] Myfyriwr sydd wedi’u dewis (Change Extensions for [#] Selected Students) [3].
Cwblhau’r estyniadau ar gyfer y myfyrwyr y gwnaethoch chi eu dewis. Cofiwch, yn dibynu ar osodiadau eich cwis, efallai y bydd opsiynau cwis ychwanegol yn ymddangos ar gyfer pob myfyriwr sydd wedi’i ddewis.
Pan fyddwch chi wedi gorffen, cliciwch y botwm Cadw (Save).