Sut ydw i’n newid gosodiadau fy nghyfrif defnyddiwr fel addysgwr?

Yn ddibynnol ar sut cafodd eich cyfrif Canvas ei greu, efallai y byddwch yn gallu newid eich enw, eich rhagenwau, eich e-bost diofyn, eich iaith, eich cylchfa amser, a’ch cyfrinair.

  • Bydd gosod iaith o’ch dewis yn diystyru unrhyw osodiadau iaith diofyn ar draws eich sefydliad; fodd bynnag, bydd unrhyw iaith sydd wedi'i gosod ar gyfer cwrs yn diystyru eich iaith defnyddiwr.
  • Efallai y bydd eich sefydliad yn diweddaru neu’n newid eich cyfrinair gan ddefnyddio’r cyfrinair sy’n gysylltiedig â’ch manylion mewngofnodi ar gyfer Canvas.
  • Does dim modd i ddefnyddwyr sy'n gysylltiedig ag ID SIS ddileu eu cyfrif eu hunain.

Dysgu mwy am eich proffil a’ch gosodiadau defnyddiwr.

Nodyn: Efallai na fydd rhai gosodiadau ar gael i chi. Os nad ydych chi’n gallu golygu eich gosodiadau defnyddiwr, bydd angen i chi gysylltu â'ch sefydliad i newid yr wybodaeth hon.

Agor Gosodiadau Defnyddiwr

Agor Gosodiadau Defnyddiwr

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyfrif (Account) [1], yna cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings) [2].

Golygu Gosodiadau

Golygu Gosodiadau

Cliciwch y botwm Golygu Gosodiadau (Edit Settings).

Newid Gosodiadau

Newid Gosodiadau

Os yw’r nodwedd wedi’i galluogi, ewch ati i olygu’r gosodiadau priodol:

  • Enw Llawn (Full Name) [1] – yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y Llyfrau Graddau a'r tudalennau Graddau, Sgwrsio, Pobl a mewngludo SIS.
  • Enw Arddangos (Display Name) [2] – sut bydd defnyddwyr eraill yn gweld eich enw mewn Cyhoeddiadau, Cynadleddau, Sgyrsiau, a Thrafodaethau.
  • Enw Mewn Trefn (Sortable Name) [3] – yn dilyn y patrwm cyfenw, enw cyntaf yn ddiofyn, ac yn ymddangos mewn rhestrau wedi’u trefnu er mwyn i weinyddwyr allu chwilio amdano.
  • Rhagenwau (Pronouns) [4] – yn ymddangos ar ôl eich enw mewn sawl lle yn Canvas.
  • E-bost Diofyn (Default Email) [5] – mae modd ei osod pan fydd gennych chi fwy nag un cyfeiriad e-bost ar gyfer Hysbysiadau wedi’i gysylltu â'ch cyfrif.
  • Iaith (Language) [6] – gellir gosod hyn i’ch iaith gyntaf a'r iaith rydych chi’n dymuno ei defnyddio yn Canvas (nid yw’n berthnasol os bydd addysgwr yn gosod iaith benodol ar gyfer cwrs).
  • Cylchfa Amser (Time Zone) [7] – gellir gosod hyn i’ch lleoliad chi ac fe fydd yn dangos aseiniadau yn eich amser lleol.
  • Cyfrinair (Password) [8] – cyfuniad o nodau rydych chi’n eu dewis i’w defnyddio i fewngofnodi i’ch cyfrif Canvas.

Nodyn: Efallai na fydd rhai gosodiadau ar gael i chi. Os nad ydych chi’n gallu golygu eich gosodiadau defnyddiwr, bydd angen i chi gysylltu â'ch sefydliad i newid yr wybodaeth hon.

Diweddaru Gosodiadau

Diweddaru Gosodiadau

Cliciwch y botwm Diweddaru Gosodiadau (Update Settings).