Sut ydw i’n creu hyperddolenni i gynnwys grŵp neu gwrs yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog fel addysgwr?
Wrth ddefnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog, gallwch chi fewnosod dolenni i gynnwys cwrs neu gynnwys grŵp. Efallai y byddwch chi’n gallu cysylltu â chynnwys mewn Tudalennau, Aseiniadau, Cwisiau, Cyhoeddiadau, Trafodaethau, a Modiwlau. Gallwch chi hefyd fewnosod dolenni, a fydd yn gweithredu fel dolenni Crwydro’r Cwrs neu ddolenni Crwydro’r Grŵp pan fyddwch chi’n clicio arnyn nhw.
I greu dolenni ar gyfer dogfennau, delweddau, neu ffeiliau cyfryngau, dysgwch sut mae ychwanegu delweddau, ffeiliau cyfryngau, a dogfennau.
Sylwch: I greu hyperddolenni i gynnwys grŵp neu ddolenni Crwydro’r Grŵp, rhaid i chi agor y Golygydd Cynnwys Cyfoethog mewn grŵp.
Agor Golygydd Cynnwys Cyfoethog
Agorwch y Golygydd Cynnwys Cyfoethog wrth greu neu olygu cyhoeddiad, aseiniad, trafodaeth, tudalen, cwis, neu faes llafur.
Sylwch: Mae’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn cefnogi bysellau hwylus. I weld y ddewislen Bysellau Hwylus, cliciwch yr eicon Bysellfwrdd neu bwyso ALT+F8 (Bysellfwrdd PC) neu Option+F8 (Bysellfwrdd Mac).
Dewis Lleoliad Dolen

I fewnosod dolen sy’n dangos enw’r eitem cynnwys cwrs neu grŵp, cliciwch i osod eich cyrchwr yn y fan yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog lle rydych chi eisiau i’r ddolen ymddangos [1].
I fewnosod hyperddolen i eitem cynnwys cwrs neu grŵp, dewiswch y testun ar gyfer eich hyperddolen [2].
Agor Dolen y Cwrs
Yn y bar offer, cliciwch yr eicon Dolenni (Links) [1] a dewiswch yr opsiwn Dolen y Cwrs (Course Link) [2].
Nodiadau:
- Gallwch chi hefyd fynd i ffeiliau’r cwrs fel delweddau, ffeiliau cyfryngau, a dogfennau [3].
- I weld yr eicon Dolenni, efallai y bydd angen i chi glicio’r eicon Opsiynau (Options) [4].
Agor Dolen Grŵp

Pan fyddwch chi’n defnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog o fewn y grwpiau, gallwch chi greu dolen i gynnwys y grŵp.
Yn y bar offer, cliciwch yr eicon Dolen (Link) [1] a dewiswch yr opsiwn Dolen Grŵp (Group Link) [2].
Nodiadau:
- Gallwch chi hefyd fynd i ffeiliau’r grŵp fel delweddau grŵp, ffeiliau cyfryngau grŵp, a dogfennau grŵp [3].
- I weld yr eicon Dolenni, efallai y bydd angen i chi glicio’r eicon Opsiynau (Options) [4].
Dewiswch Gynnwys Grŵp neu Gwrs

Defnyddiwch y ddewislen Ychwanegu i ddewis y cynnwys wedi’i gysylltu. Yn ddiofyn, mae’r gwymplen Ychwanegu (Add) yn dangos Dolenni (Links) i gael cynnwys [1]. Gallwch chi hefyd ychwanegu dolenni ffeiliau cyfryngau, delweddau, a dogfennau.
I chwilio am gynnwys grŵp neu gwrs, teipiwch o leiaf dri nod yn y maes Chwilio (Search) [2].
Mae eitemau cynnwys wedi’u grwpio yn ôl y math o gynnwys. I weld rhestr o eitemau cynnwys grŵp neu gwrs, cliciwch yr eicon saeth wrth y math o gynnwys [3]. Yna cliciwch enw’r eitem grŵp neu gwrs rydych chi eisiau ei gysylltu â’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog [4].
Nodiadau:
- Bydd y testun yn fflachio cyn troi’n hyperddolen.
- Efallai y byddwch chi’n gallu cysylltu â chynnwys cwrs neu grŵp mewn Tudalennau, Aseiniadau, Cwisiau, Cyhoeddiadau, Trafodaethau, Modiwlau ac eitemau Crwydro.
Ychwanegu Cynnwys Grŵp neu Gwrs

I ychwanegu eitem cynnwys, agorwch yr adran cynnwys [1] a chlicio’r ddolen Ychwanegu un! (Add one!) [2].
Llusgwch a Gollyngwch Ddolenni dewislen Cynnwys
Gallwch chi hefyd ddewis llusgo a gollwng dolenni cynnwys grŵp neu gwrs o’r ddewislen Ychwanegu drwy ddewis yr eitem [1] a’i lusgo a’i ollwng mewn lleoliad o’ch dewis yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog [2].
Mewnosod Dolen Crwydro'r Cwrs

Gallwch chi hefyd fewnosod dolenni Crwydro'r Cwrs o’r ddewislen Ychwanegu. Pan fydd defnyddiwr yn clicio ar ddolen Crwydro’r Cwrs sydd wedi’i mewnosod, bydd Canvas yn mynd â nhw i dudalen y nodwedd cwrs honno.
Mewnosod Dolen Crwydro’r Grŵp

Wrth greu hyperddolen mewn grŵp, gallwch chi fewnosod dolenni Crwydro’r Grŵp o’r ddewislen Ychwanegu. Pan fydd defnyddiwr yn clicio ar ddolen Crwydro’r Grŵp sydd wedi’i mewnosod, bydd Canvas yn mynd â nhw i dudalen y nodwedd grŵp honno.
Gweld Dolen

Gweld y ddolen sy’n dangos enw’r eitem cynnwys [1] neu’r testun hyperddolen [2].
Golygu Hyperddolen
I olygu dolen cynnwys, hofrwch dros y testun ar gyfer eich hyperddolen a chlicio’r ddolen Opsiynau Dolen (Link Options) [1].
Gweld y cwrs presennol sydd wedi’i gysylltu neu gynnwys grŵp [2].
I ddisodli’r ddolen cynnwys grŵp neu gwrs, rhowch o leiaf dri nod yn y maes Chwilio (Search) [3]. Neu gallwch chi ddefnyddio’r adrannau ardal nodwedd i ddod i hyd i gynnwys a’i ddisodli [4].
Cliciwch y botwm Disodli (Replace) [5].
Cadw Newidiadau

Cliciwch y botwm Cadw (Save).
Nodiadau:
- Mae’r tudalennau manylion cwisiau, tudalennau, trafodaethau, ac aseiniadau yn cynnwys botwm Cadw a Chyhoeddi (Save & Publish).
- Mae’r dudalen maes llafur yn cynnwys botwm Diweddaru Maes Llafur (Update Syllabus).
- Mae ymatebion i drafodaethau yn cynnwys botwm Postio Ymateb (Post Reply) neu Ymateb (Reply).
Gweld Cynnwys
Gweld y cynnwys I weld y cynnwys cwrs neu grŵp sydd wedi’i gysylltu, cliciwch y ddolen sydd wedi’i mewnosod [1].
Sylwch: Mae dolenni i URL allanol yn dangos eicon Agored [2].