Sut ydw i'n creu rheolau ar gyfer grŵp aseiniadau?

Ar ôl i chi ychwanegu aseiniadau at eich grŵp aseiniadau, gallwch greu rheolau ar gyfer y grŵp aseiniadau i gyd. Mae rheolau grŵp aseiniadau yn penderfynu sut mae Canvas yn delio ag unrhyw eithriadau rydych chi am eu creu ar gyfer cyfrifo graddau. Mae modd i grwpiau aseiniadau fod wedi’u pwysoli neu heb eu pwysoli.

Wrth ddefnyddio’r rheol sgôr isaf neu uchaf, rhaid i grŵp aseiniadau gynnwys o leiaf un sgôr, ynghyd â nifer y sgorau sydd wedi cael eu gollwng a nifer yr aseiniadau na ddylent gael eu gollwng. Er enghraifft, os oes gennych chi reol ar gyfer gollwng 3 sgôr ac un aseiniad na ddylid byth ei ollwng, byddech chi angen pum sgôr myfyriwr yn y grŵp aseiniadau er mwyn gollwng y 3 sgôr isaf neu uchaf.

Mae Canvas yn ystyried sut mae’r rheol yn effeithio’n negyddol neu’n gadarnhaol ar sgôr gyffredinol y myfyrwyr. Bydd rheol i ollwng y sgôr isaf yn tynnu’r sgôr aseiniad o gyfrifiad canran grŵp myfyriwr a fydd yn arwain at y sgôr orau bosib i’r grŵp hwnnw. Bydd rheol i ollwng y sgôr uchaf yn tynnu’r sgôr aseiniad o gyfrifiad canran grŵp myfyriwr a fydd yn arwain at y sgôr isaf bosib i’r grŵp hwnnw. Mae gollwng y sgôr isaf a’r sgôr uchaf yn tynnu unrhyw sgorau ymylol ac yn cyfrifo gradd myfyrwyr yn seiliedig ar y sgorau canol sy'n weddill.

Mae gollwng sgorau yn seiliedig ar yr effaith ar gyfanswm pwyntiau’r grŵp aseiniadau hwnnw. Mewn rhai achosion, gall gwerth y pwynt fod yn bwysicach na’r ganran wrth benderfynu pa aseiniad i’w ollwng. Er enghraifft, os yw myfyriwr yn cael 100% ar aseiniad 50 pwynt, 65% ar aseiniad 100 pwynt, a 50% ar aseiniad 24 pwynt, sgôr gyflawn y myfyriwr yw 127 allan o 174 o bwyntiau, neu 73% ar gyfer y grŵp aseiniadau. Os yw addysgwr yn gosod rheol i ollwng yr aseiniad â'r sgôr isaf yn y grŵp aseiniadau, bydd Canvas yn gollwng y sgôr sy’n rhoi gwell sgôr gyflawn i’r myfyriwr ar gyfer y grŵp. Er mai’r sgôr o 50% ydy’r ganran isaf, bydd yr aseiniad gyda’r sgôr o 65% yn cael ei ollwng, gan roi sgôr o 62 allan o 74 o bwyntiau i’r myfyriwr, neu 84% ar gyfer y grŵp aseiniadau.

Mwy nag un Cyfnod Graddio

Os yw eich cwrs yn cynnwys Mwy nag un Cyfnod Graddio, does dim modd i chi newid rheolau grŵp aseiniadau unwaith mae gan grŵp aseiniadau mewn cyfnod graddio sydd wedi dod i ben.

Yn ogystal, os yw grŵp aseiniadau yn cynnwys aseiniadau sy’n syrthio i fwy nag un cyfnod graddio, efallai y bydd graddau yn arwain at ganlyniadau anfwriadol wrth gyfrifo rheolau grŵp aseiniadau.

Agor Aseiniadau

Agor Aseiniadau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Aseiniadau (Assignments).

Golygu Grŵp Aseiniadau

Golygu Grŵp Aseiniadau

Cliciwch y gwymplen Opsiynau (Options) ar gyfer y Grŵp Aseiniadau [1]. Cliciwch y ddolen Golygu (Edit) [2].

Creu Rheolau

Creu Rheolau

Ar gyfer pob Grŵp Aseiniadau, gallwch greu un o dair rheol raddio:

  • Gollwng (anwybyddu) y x sgôr isaf gan bob myfyriwr [1].
  • Gollwng (anwybyddu) y x sgôr uchaf gan bob myfyriwr [2].
  • Peidio byth â gollwng aseiniad penodol [3].

Gollwng Sgôr Isaf

Gollwng Sgôr Isaf

I ollwng nifer penodol o sgorau isaf, rhowch y rhif yn y maes Sgorau Isaf (Lowest Scores). Gallwch ddefnyddio'r saethau i addasu'r rhif.

Gollwng Sgôr Uchaf

Gollwng Sgôr Uchaf

I ollwng nifer penodol o sgorau uchaf, rhowch y rhif yn y maes Sgorau Uchaf (Highest Scores). Gallwch ddefnyddio'r saethau i addasu'r rhif.

Peidio Byth â Gollwng Aseiniad

Peidio Byth â Gollwng Aseiniad

I ddweud wrth Canvas i beidio byth â gollwng aseiniad penodol, cliciwch y ddolen Ychwanegu aseiniad (Add an assignment).

Dewis Aseiniad

Dewis Aseiniad

Yn y gwymplen Aseiniadau (Assignment) [1], dewiswch enw'r aseiniad yn y Grŵp Aseiniadau na ddylai fyth gael ei ollwng.

I ddewis aseiniad arall, cliciwch y ddolen Ychwanegu aseiniad arall (Add another assignment) [2].

Cadw Rheolau

Cadw Rheolau

Ar ôl i chi orffen ychwanegu rheolau, cliciwch y botwm Cadw (Save).

Gweld Rheolau Grŵp Aseiniadau

Gweld Rheolau Grŵp Aseiniadau

Ym mar offer y Grŵp Aseiniadau, bydd Canvas yn dangos sawl rheol sydd wedi’i neilltuo i’r grŵp [1]. Gallwch hofran dros y ddolen i weld y rheolau [2].