Sut ydw i'n ychwanegu neu’n golygu manylion mewn aseiniad?

Pan fyddwch chi’n creu aseiniad, byddwch yn ychwanegu manylion at yr aseiniad, fel y disgrifiad, mathau o ffeiliau i’w cyflwyno, a gwerth pwyntiau.

Os byddwch chi’n creu cragen aseiniad, bydd rhaid i chi olygu’r aseiniad er mwyn ychwanegu manylion yr aseiniad.

Mae gosodiadau aseiniadau yn gwybod i gofio a dangos y gosodiadau sydd wedi’u creu neu eu golygu yn aseiniad blaenorol y cwrs. Cofiwch mai dim ond i osodiadau y mae’r nodwedd hon yn berthnasol, ac nad yw’n cynnwys dyddiadau erbyn aseiniadau.

Nodiadau:

Agor Aseiniadau

Agor Aseiniadau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Aseiniadau (Assignments).

Agor Aseiniad

Agor Aseiniad

I agor aseiniad sy’n bodoli’n barod, cliciwch enw’r Aseiniad [1].

I greu aseiniad newydd, cliciwch y botwm Ychwanegu Aseiniad (Add Assignment) [2].

Golygu Aseiniad

Golygu Aseiniad

Cliciwch y botwm Golygu (Edit).

Golygu Manylion Aseiniad

Teipiwch deitl yr aseiniad yn y maes Enw’r Aseiniad (Assignment Name) [1]. Os wnaethoch chi greu eich aseiniad fel cragen aseiniad, bydd y maes hwn wedi ei lenwi i chi, ond gallwch ei newid os oes angen.

Defnyddiwch y Golygydd Cynnwys Cyfoethog i ychwanegu delweddau, testun, dolenni, hafaliadau neu fewnosod cyfryngau [2].

Nodiadau:

  • Pan mae dogfen yn cael ei llwytho i fyny i’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog Newydd o aseiniad, mae’r ffeil yn cael ei chadw i’r ffolder Cyfryngau wedi’u Llwytho i Fyny yn Ffeiliau’r cwrs ac mae’n mynd i'r statws wedi'i guddio yn ddiofyn. Gall myfyrwyr weld y ffeil pan fydd yr aseiniad ar gael iddynt. Dysgu mwy am ffeiliau ar gael.
  • Pan fydd aseiniad yn cael ei greu heb ddisgrifiad, bydd y disgrifiad o’r aseiniad yn dangos testun diofyn yn egluro na chafodd unrhyw fanylion ychwanegol eu hychwanegu ar gyfer yr aseiniad.
Neilltuo Pwyntiau a Grwpiau

Rhowch y pwyntiau ar gyfer eich aseiniad yn y maes Pwyntiau (Points) [1]. Dewiswch y Grŵp Aseiniadau ar gyfer yr aseiniad yn y gwymplen Grŵp Aseiniadau (Assignment Group) [2].

Os wnaethoch chi greu eich aseiniad fel cragen aseiniad, bydd y maes pwyntiau a’r Grŵp Aseiniadau (Assignment Group) wedi eu llenwi i chi. Gallwch olygu’r rhain os oes angen.

Nodyn: Rhaid i’r pwyntiau posib gael ei osod i rif sy’n fwy na zero ar gyfer aseiniadau sydd â chanran, pwyntiau, gradd llythyren, neu fathau graddio GPA.

Newid Pwyntiau Posib

Newid Pwyntiau Posib

Os byddwch chi’n newid y pwyntiau posib ar gyfer aseiniad gyda chyflwyniadau wedi'u graddio, a bod hwnnw’n bodoli’n barod, bydd angen i chi ailraddio’r aseiniad. Mae’r neges rhybudd hon yn berthnasol i unrhyw fath o ddull graddio gydag aseiniadau sy’n cael eu cyflwyno, gan gynnwys newid pwyntiau o neu i sero.

Dewis Math o Ddull Graddio

Dewis Math o Ddull Graddio

Yn y gwymplen Dangos Gradd fel (Display Grade as), dewiswch y dull rydych am ei ddefnyddio i raddio. Gallwch raddio eich aseiniad yn ôl canran, wedi cwblhau/heb gwblhau, pwyntiau, llythyren gradd, graddfa GPA, neu ei osod heb ei raddio.

Nodyn: Y math o ddull graddio ydy’r ffordd y bydd sgôr yr aseiniad yn cael ei dangos yn y Llyfr Graddau. Er enghraifft, mae aseiniad sydd werth 10 pwynt yn cael ei osod i ymddangos fel canran. Bydd sgôr myfyriwr sy’n cael 8/10 ar yr aseiniad yn ymddangos fel 80 yn y Llyfr Graddau. Os ydych chi’n defnyddio llythyren gradd, dysgwch sut i greu cynllun graddau a rhoi cynllun graddau ar waith ar gyfer eich aseiniad.

Dewis Math o Gyflwyniad

Dewis Math o Gyflwyniad

Yn y gwymplen Math o Gyflwyniad (Submission Type), dewiswch y math o gyflwyniad rydych am ei dderbyn ar gyfer yr aseiniad. Yn ddiofyn, bydd y math o gyflwyniad yn cael ei osod ar Ar-lein.

  • Dim Cyflwyniad (No Submission) yw pan nad ydych am i fyfyrwyr gyflwyno aseiniad yn Canvas. Mae modd defnyddio’r math hwn o aseiniad i greu colofnau ychwanegol yn y Llyfr Graddau, neu pan fyddwch chi am greu aseiniad sy’n cynnwys mwy nag un sgôr. Dydy Math o Gyflwyniad ddim yn berthnasol i aseiniadau sydd Heb eu Graddio.
  • Ar-lein (Online) yw pan rydych chi am i fyfyrwyr gyflwyno eu haseiniadau gan ddefnyddio Canvas.
  • Ar Bapur (On Paper) yw pan rydych chi am i fyfyrwyr gyflwyno aseiniad i chi, ond nid drwy Canvas. Mae’r math hwn o aseiniad yn berthnasol i gyrsiau traddodiadol wyneb yn wyneb ac i gyrsiau hybrid pan rydych chi am i’r aseiniad gael ei gyflwyno yn ystod gwers, ond eich bod am greu colofn yn Llyfr Graddau Canvas at ddibenion graddio.
  • Adnodd Allanol (External Tool) yw pan rydych chi am i fyfyrwyr gyflwyno eu haseiniadau gan ddefnyddio ap allanol (LTI) sydd wedi’i alluogi ar gyfer eich cwrs. Rhaid i chi roi URL ar gyfer yr adnodd allanol.

 

Mae gosodiadau aseiniadau yn gwybod i gofio a dangos y gosodiadau sydd wedi’u creu neu eu golygu yn aseiniad blaenorol y cwrs. Yn seiliedig ar aseiniadau blaenorol, mae’n bosib y bydd un neu ragor o’r opsiynau hyn wedi cael eu dewis i chi’n barod.

Nodyn: Bydd aseiniadau Dim Cyflwyniad (No Submission) ac Ar Bapur (On Paper) yn parhau i ymddangos ar dudalen Aseiniadau myfyrwyr. I osgoi camddealltwriaeth, y peth gorau i’w wneud yw ysgrifennu nodyn yn y disgrifiad o’r aseiniad fel bod myfyrwyr yn gwybod a oes angen gwneud cyflwyniad ai peidio, ac os oes angen, ym mha ffordd y dylen nhw ei gyflwyno.  

Dewiswch Ymgeisiau Cyflwyno

Dewiswch Ymgeisiau Cyflwyno

Os ydych chi wedi dewis y Math o Gyflwyniad Ar-lein (Online submission type), byddwch chi’n gallu cyfyngu’r ymgeisiau cyflwyno ar gyfer yr aseiniad.

Creu Aseiniad Grŵp

Creu Aseiniad Grŵp

Fel rhan o gyflwyno aseiniad, mae Canvas yn gadael i chi osod aseiniad fel aseiniad grŵp. Gallwch hefyd ddewis graddio myfyrwyr yn unigol mewn aseiniadau grŵp.

Mynnu Adolygiadau gan Gyd-fyfyrwyr

Mynnu Adolygiadau gan Gyd-fyfyrwyr

Os ydych chi am fynnu bod myfyrwyr yn adolygu gwaith ei gilydd, gallwch greu aseiniad i’w adolygu gan gyd-fyfyrwyr. Wrth wneud adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr yn ofynnol, gallwch ddewis p'un ai i neilltuo adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr eich hun neu neilltuo adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr yn awtomatig.

Caniatáu Graddau Dienw a Graddau wedi'u Safoni

Caniatáu Graddau wedi'u Safoni

Os ydych chi am osod aseiniad gydag adolygiadau ychwanegol, mae’n bosib y bydd modd i chi alluogi Graddau wedi'u Safoni, Graddio’n Ddienw, neu’r ddau. Mae Graddau wedi'u safoni yn caniatáu i fwy nag un graddiwr werthuso gwaith myfyrwyr a chreu graddau dros dro. Mae Graddio’n ddienw yn cuddio enwau myfyrwyr pan fydd graddwyr yn gweld cyflwyniadau aseiniadau yn SpeedGrader. Mae modd defnyddio opsiynau hyn gyda’i gilydd neu ar wahân.

Galluogi Anodiadau Addysgwyr Dienw

Galluogi Anodiadau Addysgwyr Dienw

Os ydych chi am asesu cyflwyniadau gyda DocViewer a gwneud pob anodiad a sylwadau mewn cyflwyniadau DocViewer yn ddienw, dewiswch y blwch ticio Anodiadau Addysgwyr Dienw (Anonymous Instructor Annotations).

Golygu Dyddiadau Erbyn a Dyddiadau Ar Gael

Golygu Dyddiadau Erbyn a Dyddiadau Ar Gael

Yn ddiofyn, bydd Canvas yn gosod dyddiadau’r aseiniad i bawb ar eich cwrs [1].

Bydd angen i chi greu dyddiad erbyn i’r aseiniad yn y maes Dyddiad Erbyn (Due Date) [2]. Bydd y dyddiad erbyn wedi’i lenwi’n barod i chi os ydych chi wedi creu cragen aseiniad, ond gallwch ei newid os oes angen. Mae gennych chi hefyd yr opsiwn i ychwanegu meysydd dyddiad ar gael [3].

I neilltuo aseiniad i fyfyriwr unigol neu adran cwrs, cliciwch y botwm Ychwanegu (Add) [4].

Nodyn: Os nad yw dyddiad yn cynnwys amser, bydd y dyddiad a restrir yn cael ei osod i ddyddiad diofyn y cwrs.

 

Cadw Aseiniad

Cadw Aseiniad

Os ydych chi am roi gwybod i ddefnyddwyr am unrhyw newidiadau sydd ar y gweill i aseiniad, cliciwch y blwch ticio Rhoi gwybod i ddefnyddwyr bod y cynnwys hwn wedi newid (Notify users that this content has changed) [1]. Cliciwch y botwm Cadw (Save) [2].

Nodiadau:

  • Os nad yw eich aseiniad wedi cael ei gyhoeddi eto, bydd yr aseiniad yn dangos y botwm Cadw a Chyhoeddi (Save & Publish). Bydd y botwm Cadw (Save) yn creu drafft o’ch aseiniad fel y gallwch ei gyhoeddi rywbryd eto.
  • Os byddwch chi’n clicio’r blwch ticio Rhoi gwybod i ddefnyddwyr bod y cynnwys hwn wedi newid, dim ond y myfyrwyr sydd wedi’u neilltuo i’r aseiniad fydd yn cael gwybod am y newidiadau.