Sut ydw i’n ychwanegu dulliau cysylltu i gael hysbysiadau Canvas fel addysgwr?
Yn Canvas, gallwch ychwanegu dulliau cysylltu ar gyfer derbyn hysbysiadau. Mae dulliau cysylltu yn caniatáu i chi ddewis sut hoffech chi gael gwybod pan fydd pethau amrywiol yn digwydd o fewn cwrs. Caiff yr hysbysiadau eu rhoi ar waith ar gyfer pob cwrs yn Canvas. Mae Canvas yn gallu delio â hysbysiadau drwy e-bost, Slack a gwahanol wasanaethau ar y we.
Ar ôl i chi ychwanegu dulliau cysylltu, gallwch osod eich Gosodiadau eich hun ar gyfer Hysbysiadau er mwyn dewis pa mor aml yr hoffech chi gael gwybod am ddigwyddiadau eich cyrsiau.
Gallwch wylio fideo am Osodiadau ar gyfer Hysbysiadau.
Agor Gosodiadau Defnyddiwr
Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyfrif (Account) [1], yna cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings) [2].
Ychwanegu Ffyrdd o Gysylltu
Yn y bar ochr Ffyrdd o Gysylltu, bydd eich cyfrif yn dangos y cyfrif e-bost diofyn sydd wedi'i gysylltu â’ch cyfrif, os oes un o gwbl. Fodd bynnag, os hoffech chi ychwanegu cyfeiriad e-bost ychwanegol, cliciwch y ddolen Ychwanegu Cyfeiriad E-bost (Add Email Address) [1].
Os oes gennych chi fwy nag un cyfrif Canvas, gallwch weld yr eicon Ychwanegu (Add) [2], sy’n caniatáu i chi gyfuno’r cyfeiriad â chyfrif Canvas arall sy’n defnyddio’r un cyfeiriad e-bost.
Os hoffech chi ychwanegu Slack fel dull cysylltu, cliciwch y ddolen Ychwanegu Dull Cysylltu (Add Contact Method) [3].
Gweld Rhybuddion Cyfathrebu
Nid yw Canvas yn anfon hysbysiadau at sianeli cyfathrebu sydd wedi neidio'n ôl, sy’n golygu nad yw’r sianel yn gallu ceisio creu nac anfon hysbysiad mwyach. Gall cyfeiriadau annilys (oherwydd gwallau teipio, cyfeiriadau wedi newid, ac ati) achosi i ddull cysylltu neidio'n ôl, yn ogystal â gweinyddion wedi’u rhwystro.
Yn y Gosodiadau Defnyddiwr, efallai y bydd Canvas yn dangos yr eiconau canlynol i ddynodi statws dull cysylltu:
- Rhybudd (Warning) [1]: dynodi bod dull cysylltu wedi neidio’n ôl. I gywiro’r gwall, gallwch dynnu’r dull cysylltu o’ch proffil a’i ychwanegu eto.
- Tic (Check Mark) [2]: rhoi gwybod i chi bod cyfeiriad e-bost heb ei gadarnhau.
I ddileu dull cysylltu, cliciwch yr eicon Dileu [3].
Dolen i Wasanaethau Gwe
Mae'r adran Gwasanaethau Gwe ar eich tudalen gosodiadau wedi'i rhannu’n ddwy golofn. Mae'r gwasanaethau rydych chi eisoes wedi’u cofrestru, drwy’r adran Ffyrdd o Gysylltu (Ways to Contact) yn eich gosodiadau neu drwy Gydweithrediadau (Collaborations) ac aseiniadau fel rhan o gwrs, yn ymddangos yn y golofn chwith o dan y pennawd Gwasanaethau wedi’u Cofrestru (Registered Services) [1]. Mae’r gwasanaethau eraill sydd ar gael i gofrestru ar eu cyfer yn ymddangos yn y golofn dde o dan y pennawd Gwasanaethau Eraill (Other Services) [2].
Gallwch ddysgu sut mae ychwanegu gwasanaethau gwe yn Canvas.
Gweld Integreiddiadau Cymeradwy
Pan fyddwch yn caniatáu i integreiddiadau trydydd parti gael mynediad at eich cyfrif, bydd yr adran Integreiddiadau Cymeradwy yn ymddangos ac yn dangos yr integreiddiadau sydd wedi'u hawdurdodi. Bydd pob integreiddiad yn dangos enw’r ap, ei ddiben (os oes un wedi'i nodi), y dyddiad y cafodd yr ap ei ddefnyddio ddiwethaf, y dyddiad mae’r ap yn dod i ben, a dolen i weld rhagor o fanylion.