Sut ydw i’n dod o hyd i ddeilliant sy’n bodoli’n barod i’w ychwanegu at gwrs?

Mae’r holl Ddeilliannau sy’n cael eu hychwanegu ar lefel y cyfrif neu’r isgyfrif ar gael i chi fel addysgwr. Gallwch ganfod a mewngludo Safonau Cyfrif, sef deilliannau sydd wedi’u creu gan eich Gweinyddwr Canvas ar gyfer y sefydliad cyfan. Gallwch hefyd ganfod Safonau Taleithiau a Safonau Common Core.

Gallwch fewngludo deilliant unigol neu fewngludo grŵp deilliannau cyfan.

Mae’r wers hon yn dangos sut mae darganfod deilliant yn y wedd tudalen Deilliannau glasurol. Os ydy’r dudalen Deilliannau yn eich cwrs yn edrych yn wahanol i'r delweddau yn y wers hon, dysgwch sut mae darganfod deilliant mewn cwrs mewn cyfrif sydd wedi galluogi’r rhagolwg nodwedd Gwell Rheoli Deilliannau.

Agor Deilliannau

Agor Deilliannau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Deilliannau (Outcomes).

Dod o hyd i ddeilliant

Dod o hyd i ddeilliant

Cliciwch y botwm Canfod (Find).

Mewngludo Deilliant

Dewiswch enw grŵp deilliannau i weld y deilliannau sydd ar gael [1]. Gallwch hefyd weld grwpiau deilliannau o fewn grwpiau deilliannau eraill.

Pan fyddwch chi wedi dod o hyd i ddeilliant, cliciwch enw’r deilliant rydych am ei fewngludo [2]. Cliciwch y botwm Mewngludo (Import) [3].

Nodyn: Gallwch hefyd fewngludo grŵp deilliannau cyfan.

Gweld Deilliant

Gallwch weld y Deilliannau sydd wedi’u mewngludo.

Mae deilliannau a grwpiau deilliannau yn cael eu mewngludo i’r prif lefel deilliannau; gallwch ddysgu sut mae symud deilliannau neu grwpiau deilliannau.