Sut ydw i'n ychwanegu rhagofynion at fodiwl?
Pan fyddwch chi’n gosod modiwl rhagofynnol, bydd y modiwl wedi’i gloi nes bod myfyriwr wedi cwblhau’r eitemau gofynnol yn y modiwl hwnnw. Serch hynny, os nad oes gofynion, cwblhau yn y modiwl rhagofynnol, fydd modiwl ddim yn cael ei gloi wrth ychwanegu eitemau rhagofynnol a bydd y myfyrwyr yn gallu cael mynediad at y modiwl ar unrhyw adeg.
Wrth ddewis modiwl rhagofynnol, gallwch chi ddim ond dewis o fodiwlau blaenorol. Efallai y bydd angen i chi aildrefnu modiwlau i gywiro argaeledd rhagofyniad.
Nodyn: Dim ond os ydych chi wedi ychwanegu o leiaf un modiwl y gallwch chi ychwanegu rhagofynion.
Agor Modiwlau
Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Modiwlau (Modules).
Golygu Modiwl
Dewch o hyd i enw’r modiwl a chlicio’r eicon Opsiynau (Options) [1]. Dewiswch y ddolen Golygu (Edit) [2].
Ychwanegu Rhagofyniad
Cliciwch y botwm Ychwanegu Rhagofyniad (Add Prerequisite).
Gosod Rhagofyniad
Yn y gwymplen modiwlau, dewiswch y modiwl y mae’n rhaid i fyfyrwyr ei gwblhau cyn symud ymlaen.
Rheoli Rhagofynion
I ychwanegu rhagofynion eraill, cliciwch y botwm Ychwanegu Rhagofyniad (Add Prerequisite) [1]. Os ydych chi eisiau sicrhau bod myfyrwyr yn cwblhau’r modiwlau yn eu trefn, dylech chi ychwanegu rhagofynion ar gyfer pob modiwl sy’n dod cyn y modiwl hwn.
I dynnu rhagofyniad, cliciwch yr eicon Tynnu [2].
Cadw’r Modiwl
Cliciwch y botwm Cadw (Save).
Ail-gloi Modiwl
Os byddwch chi’n newid rhagofynion y mae myfyrwyr eisoes wedi’u bodloni, bydd Canvas yn gofyn a ydych chi eisiau gadael i fyfyrwyr symud ymlaen trwy’r cwrs neu ail-gloi’r modiwlau a gofyn i’r myfyrwyr gwblhau’r gofynion eto.
I ail-gloi’r modiwlau, cliciwch y botwm Ail-gloi Modiwlau (Re-Lock Modules) [1]. I adael i fyfyrwyr fwrw ymlaen heb unrhyw newidiadau cliciwch y botwm Bwrw Ymlaen (Continue) [2].