Sut ydw i’n defnyddio’r adran Ffeiliau (Files) fel addysgwr?

Fel addysgwr, mae’r adran Ffeiliau (Files) yn gadael i chi storio ffeiliau ac aseiniadau o fewn Canvas. Gallwch lwytho un ffeil neu fwy nag un ffeil i fyny, gweld manylion am eich ffeiliau, gweld rhagolwg o ffeiliau, cyhoeddi a dad-gyhoeddi ffeiliau, gosod hawliau defnyddio, a chyfyngu ar fynediad at ffeiliau. Oherwydd cynllun yr adran Ffeiliau (Files), mae’n gallu addasu i raddfa'r porwr. Mae ffenestr crwydro’r ffolder, ffeiliau, a hyd yn oed enwau ffeil yn addasu i led ffenestr y porwr.

Cwota Ffeiliau

Mae gennych chi fynediad at ffeiliau (dogfennau, delweddau, cyfryngau, ac ati) mewn tair ardal nodwedd wahanol:

Gweld Ffeiliau

Mae’r swyddogaethau sylfaenol o fewn yr adran Ffeiliau (Files) yr un fath yn lleoliad pob ffeil, ond gall rhai nodweddion fod yn wahanol yn dibynnu ar yr ardal nodwedd.

Er hwylustod mae’r panel ar y chwith [1] yn dangos pob ffolder. Bydd rhai ffolderi wedi’u lleoli o fewn ffolderi eraill. Cliciwch y saeth drws nesaf i enw’r ffolder i ehangu pob ffolder.

Cliciwch enw ffolder. Mae holl gynnwys y ffolder rydych chi'n edrych arni i’w weld yn y panel ar y dde [2]. Gallwch hefyd glicio enw ffolderi yn y panel ar y dde i weld cynnwys ffolder.

Rheoli Ffeiliau

Yn dibynnu ar adran y ffeil, mae’n bosib y bydd ffeiliau’n cynnwys nifer o opsiynau i reoli ffeiliau:

Chwilio am ffeiliau (Search for files) [1]. Mae modd chwilio’r adran ffeiliau’n llawn gydag enw ffeil.

Ychwanegu ffolder [2]. Ychwanegwch ffolder newydd at yr adran Ffeiliau er mwyn storio ffeiliau. Mae modd i ffolderi gynnwys ffolderi eraill hefyd.

Llwytho ffeil i fyny [3]. Llwythwch ffeil i fyny i Ffeiliau.

Ar gyfer cyrsiau a grwpiau sy’n defnyddio hawliau defnyddio, gosodwch yr hawl defnyddio (hawlfraint) ar gyfer ffeil [4]. Rhaid i chi osod hawl defnyddiwr ar gyfer ffeil cyn y gellir ei chyhoeddi. Mae eicon rhybudd i’w weld ar ffeiliau sydd ddim yn cynnwys hawliau defnyddio.

Newid cyflwr y ffeil [5]. Mae modd cyhoeddi, dad-gyhoeddi neu gynnwys statws cyfyngedig ar ffeiliau.

Rheoli Ffeiliau wedi’u dewis

I ddewis ffeil, cliciwch enw’r ffeil. Gallwch hefyd ddewis mwy nag un ffeil ar y tro drwy ddal y fysell command (MAC) neu’r fysell control (PC).

Ar ôl i ffeil gael ei dewis, bydd yr adran Ffeiliau yn dangos y bar offer ffeiliau ar frig y ffenestr. Yn dibynnu ar adran y ffeiliau, mae’n bosib y bydd y bar offer yn cynnwys nifer o opsiynau i reoli ffeil(iau) sydd wedi’u dewis:

  • Gweld rhagolwg o’r ffeil [1]
  • Rheoli ffeil i gyfyngu ar fynediad [2]
  • Llwytho’r ffeil i lawr [3] (wrth ddewis mwy nag un ffeil, mae opsiwn yn ymddangos i lwytho i lawr fel ffeil zip)
  • Symud y ffeil [4]
  • Rheoli Hawliau Defnyddio ar gyfer y ffeil [5]
  • Dileu’r ffeil [6]

 Gallwch hefyd reoli rhai neu’r holl opsiynau ar gyfer ffeil benodol o fewn dewislen Opsiynau (Options) y ffeil [7].

Gweld Cwrs Glasbrint

Gweld Cwrs Glasbrint

Os yw eich cwrs yn cynnwys eiconau Glasbrint (Blueprint), yna mae eich cwrs yn gysylltiedig â chwrs glasbrint. Mae Cyrsiau Glasbrint yn gyrsiau sy’n cael eu rheoli fel templed a gallant gynnwys gwrthrychau wedi’u cloi ac wedi’u rheoli gan weinyddwr, dylunydd cyrsiau, neu addysgwr arall yn Canvas.

Bydd y tab Manylion Cwrs yng Ngosodiadau’r Cwrs yn rhoi gwybod i chi os yw eich cwrs yn gwrs glasbrint. Fel arfer, ni fydd eich cwrs yn gwrs glasbrint a dim ond cynnwys wedi’i ddatgloi fyddwch chi’n gallu ei reoli yn eich cwrs. Os yw eich cwrs yn gwrs glasbrint, gallwch gloi a chysoni cynnwys cwrs â chyrsiau cysylltiedig.