Sut ydw i’n creu deilliant ar gyfer cwrs?

Os na allwch chi ddod o hyd i ddeilliant i’w ddefnyddio yn eich cwrs, gallwch greu deilliant newydd.

Mae modd cynnwys deilliannau mewn cyfarwyddiadau sgorio ar gyfer aseiniadau fel ffordd hawdd o asesu meistrolaeth ar ddeilliannau dysgu. Pan fyddwch chi’n creu deilliant dysgu, dylech hefyd ddiffinio maen prawf y gellir ei ddefnyddio wrth greu cyfarwyddiadau sgorio ar gyfer aseiniadau. Diffiniwch gynifer o golofnau cyfarwyddyd sgorio ag y bo angen arnoch, a phennu trothwy pwyntiau a gaiff ei ddefnyddio i ddiffinio meistrolaeth o’r deilliant hwn.

Gwylio fideo am Ddeilliannau neu ddysgu mwy am Ddeilliannau.

Mae’r wers hon yn dangos sut mae creu deilliannau yn y wedd tudalen Deilliannau glasurol. Os ydy’r dudalen Deilliannau yn eich cwrs yn edrych yn wahanol i'r delweddau yn y wers hon, dysgwch sut mae creu deilliant mewn cwrs mewn cyfrif sydd wedi galluogi’r opsiwn nodwedd Gwell Rheoli Deilliannau.

Agor Deilliannau

Agor Deilliannau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Deilliannau (Outcomes).

Ychwanegu deilliant

Ychwanegu deilliant

Cliciwch y botwm Deilliant Newydd (New Outcome).

Creu Deilliant

Creu Deilliant

Rhowch enw i’r deilliant yn y maes Enw’r deilliant hwn (Name this outcome) [1]. Dyma yw enw swyddogol y deilliant a fydd hefyd yn ymddangos yn y Llyfr Graddau Meistroli Dysgu.

Os byddwch chi’n gadael i fyfyrwyr weld sgorau Meistroli Dysgu (Learning Mastery) ar y dudalen Graddau, byddan nhw’n gweld enw’r deilliant. Fodd bynnag, efallai eich bod chi am greu enw cyfarwydd a phersonol eich hun. I greu enw cyfarwydd ar gyfer gwedd myfyrwyr, rhowch enw yn y maes Enw cyfarwydd (dewisol) (Friendly name (optional)) [2].  

Mae modd i chi roi disgrifiad yn y maes Golygydd Cynnwys Cyfoethog hefyd [3].

Ychwanegu Sgorau Maen Prawf

Ychwanegu Sgorau Maen Prawf

Cliciwch yr eicon Golygu (Edit) [1] i olygu sgôr y maen prawf. Mae modd i chi newid yr enw presennol (os ydych chi’n dymuno) ar gyfer y maen prawf yn y maes Enw'r Maen Prawf (Criterion Name) [2]. Gallwch osod gwerth pwynt y maen prawf drwy deipio yn y maes Pwyntiau (Points) [3].

I gadw'r maen prawf, cliciwch y botwm Iawn (OK) [4]. I ddileu'r maen prawf yn gyfan gwbl, cliciwch y botwm Dileu (Delete) [5].

I ychwanegu sgorau maen prawf ychwanegol, cliciwch y ddolen Mewnosod (Insert) [6].

Nodyn: Os na allwch chi olygu meini prawf ar gyfer eich deilliant, mae eich sefydliad wedi galluogi graddfeydd meistroli ar draws y cwrs.

Gosod Meistrolaeth a Dull Cyfrifo

Gosod Meistrolaeth a Dull Cyfrifo

Gallwch osod gwerth pwynt y feistrolaeth yn y maes Meistrolaeth yn (Mastery at) [1]. Mae’r maes hwn yn dangos nifer y pwyntiau y mae’n rhaid eu hennill ar gyfer meistrolaeth yn ôl y sgorau maen prawf.

Yn y gwymplen Dull Cyfrifo (Calculation Method) [2], dewiswch y dull cyfrifo ar gyfer y deilliant. Yn ddiofyn, mae deilliannau newydd yn cael eu cyfrifo ar sail Cyfartaledd wedi’i Bwysoli yn rhyngwyneb Canvas.

Cliciwch y botwm Cadw (Save) [3].

Dewis Dull Cyfrifo

Gallwch osod un o’r dulliau cyfrifo canlynol: Cyfartaledd wedi’i Bwysoli, Cyfartaledd sy’n rhoi mwy o bwyslais ar waith diweddar, n Sawl Gwaith, Sgôr Fwyaf Diweddar a Sgôr Uchaf.

Cyfartaledd wedi’i Bwysoli: Dewiswch yr opsiwn hwn i gael cyfartaledd o sgorau eitemau asesu, gan roi mwy o bwyslais ar yr eitem asesu a olygwyd ddiwethaf. Bydd y cyfrifiad Cyfartaledd wedi’i Bwysoli yn rhannu’r ganran rhwng yr eitem asesu a olygwyd ddiwethaf a chyfartaledd o’r holl eitemau asesu blaenorol. Er enghraifft, gallwch osod yr aseiniad a olygwyd ddiwethaf i gael ei bwysoli ar 40% o’r cyfanswm, ac eitemau blaenorol i gael eu pwysoli ar 60% o’r cyfanswm.

Rhowch ganran rhwng 1% a 99% ar gyfer pwysoliad yr eitem ddiweddaraf. Bydd y swm sydd ar ôl yn cael ei ddefnyddio i bwysoli sgorau blaenorol. Bydd rhaniad y ganran yn cael ei osod ar 65/35 yn ddiofyn. Bydd y cyfartaledd yn cael ei dalgrynnu i’r ddau ddegolyn nesaf. Os mai dim ond un canlyniad sydd, yr un sgôr hwnnw fydd yn ymddangos.

Cyfartaledd Sy’n Rhoi Mwy o Bwyslais ar Waith Diweddar: Dewiswch yr opsiwn hwn i gael cyfartaledd o sgorau eitemau asesu, gan roi mwy o bwyslais ar yr eitem asesu a olygwyd ddiwethaf. Bydd y cyfrifiad Cyfartaledd Sy’n Rhoi Mwy o Bwyslais ar Waith Diweddar yn rhannu’r ganran rhwng yr eitem asesu a olygwyd ddiwethaf a chyfartaledd o’r holl eitemau asesu blaenorol. Er enghraifft, gallwch osod yr aseiniad a olygwyd ddiwethaf i gael ei bwysoli ar 40% o’r cyfanswm, ac eitemau blaenorol i gael eu pwysoli ar 60% o’r cyfanswm.

Rhowch ganran rhwng 50% a 99% ar gyfer pwysoliad yr eitem ddiweddaraf. Bydd y swm sydd ar ôl yn cael ei ddefnyddio i bwysoli sgorau blaenorol. Bydd rhaniad y ganran yn cael ei osod ar 65/35 yn ddiofyn. Bydd y cyfartaledd yn cael ei dalgrynnu i’r ddau ddegolyn nesaf. Os mai dim ond un canlyniad sydd, yr un sgôr hwnnw fydd yn ymddangos.

n Sawl Gwaith: Dewiswch yr opsiwn hwn i bennu sawl gwaith y bydd yn rhaid i fyfyriwr gyrraedd neu ragori ar lefel meistroli ar gyfer nifer penodol o eitemau cysylltiedig. Dydy sgorau sydd ddim yn cyrraedd y lefel meistroli ddim yn cael eu defnyddio yn y cyfrifiad. Gallwch nodi rhwng 1 a 10 eitem sy'n ofynnol ar gyfer meistrolaeth.

Sgôr Fwyaf Diweddar: Dewiswch yr opsiwn hwn i ddewis y sgôr diweddaraf o blith yr holl eitemau asesu bob amser.

Sgôr Uchaf: Dewiswch yr opsiwn hwn i ddewis y sgôr uchaf o blith yr holl eitemau asesu bob amser.

Nodyn: Os na allwch chi olygu dulliau cyfrifo ar gyfer eich deilliant, mae eich sefydliad wedi galluogi dulliau cyfrifo deilliannau ar draws y cwrs.

Gweld Deilliant

Gweld y deilliant sydd wedi’i greu.