Mae modiwlau’n cael eu defnyddio i drefnu cynnwys cwrs yn ôl wythnosau, unedau neu pa bynnag strwythur trefnu sy’n gweithio ar gyfer eich cwrs. Gyda modiwlau, rydych chi i bob pwrpas yn creu llif un cyfeiriad o’r hyn rydych chi am i’ch myfyrwyr ei wneud. Ar ôl i chi greu modiwlau, gallwch ychwanegu eitemau cynnwys,, gosod rhagofynion, ac ychwanegu gofynion.
Nodyn: Os yw Tudalen Hafan y Cwrs wedi’i gosod i fodiwlau, gellir ychwanegu a rheoli modiwlau o Dudalen Hafan y Cwrs.
Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Modiwlau (Modules).
Cliciwch y botwm Ychwanegu Modiwl (Add a Module).
Teipiwch enw yn y maes Enw Modiwl (Module Name).
Os ydych chi am gyfyngu ar y modiwl tan ddyddiad penodol, gallwch gloi’r modiwl.
Os ydych chi wedi ychwanegu o leiaf un modiwl at eich cwrs, yna gallwch ofyn am fodiwl rhagofynnol. Mae modiwl rhagofynnol yn golygu bod yn rhaid i fyfyrwyr gwblhau’r modiwlau ychwanegol cyn y cawn nhw weld y modiwl newydd.
Cliciwch y botwm Ychwanegu Modiwl (Add Module).