Sut ydw i’n copïo cwrs Canvas i gragen cwrs newydd?
Os oes gennych chi hawl i greu cyrsiau Canvas, gallwch gopïo cwrs a chreu cragen cwrs newydd. Mae cyrsiau wedi’u copïo yn cael eu hychwanegu at yr un isgyfrif â’r cwrs sy’n cael ei gopïo.
Dylai cyrsiau gael eu copïo pan fyddwch chi am ddefnyddio neu newid pwrpas cynnwys sydd wedi’i greu’n barod gan gynnwys gosodiadau cwrs, maes llafur, aseiniadau, modiwlau, ffeiliau, tudalennau, trafodaethau, cwisiau, a banciau cwestiynau. Gallwch hefyd gopïo neu addasu digwyddiadau a dyddiadau erbyn yn ogystal â mudo cwisiau mewn swp o Cwisiau Clasurol i Cwisiau Newydd. Gallwch hefyd gopïo neu addasu digwyddiadau a dyddiadau erbyn. Does dim modd copïo’r holl gynnwys fel rhan o gwrs.
Pan fyddwch chi'n copïo cwrs Canvas drwy ddefnyddio'r botwm Copïo’r Cwrs Hwn (Copy this Course), byddwch yn cael eich ychwanegu at y cwrs fel addysgwr yn awtomatig.
Dysgu mwy am yr Adnodd Mewngludo Cyrsiau.
Nodiadau:
- Efallai na fydd y cynnwys i gyd yn cael ei drosglwyddo mewn prosesau mewngludo cwrs. Am ragor o fanylion, darllenwch am y mewngludo adran gynnwys yng Nghanllaw Nodweddion Sylfaenol Canvas.
- Gall mewngludo cwrs fwy nag unwaith arwain at ganlyniadau anfwriadol. Os byddwch chi’n mewngludo cynnwys i gwrs newydd, yn golygu’r cynnwys yn y cwrs newydd, ac yna’n mewngludo'r cynnwys blaenorol eto, bydd y cynnwys sydd wedi'i fewngludo yn diystyru'r cynnwys presennol.
- Os nad yw’r botwm Copïo’r Cwrs hwn (Copy this Course) yn ymddangos yng Ngosodiadau Cwrs (Course Settings) mae’r nodwedd hon wedi cael ei chyfyngu gan eich sefydliad. Ond, os oes gennych chi fynediad at gragen cwrs yn barod, gallwch gopïo cwrs drwy’r Adnodd Mewngludo Cwrs.
- Mae copïau o ffeiliau cyrsiau a chyrsiau Canvas sy’n bodoli’n barod yn cyfeirio at gwota ffeiliau gwreiddiol y cwrs Canvas ac nid ydyn yn cyfrif tuag at gwotâu ffeiliau cyrsiau.
- Os byddwch chi’n copïo’r holl gynnwys neu’n cynnwys gosodiadau cwrs yn y cynnwys sydd wedi’i ddewis, bydd y polisi postio graddau o’r cwrs gwreiddiol yn diystyru polisi postio graddau’r cwrs newydd. Ar ben hyn, bydd aseiniadau wedi’u mewngludo yn cadw eu polisi postio aseiniadau o’r cwrs gwreiddiol.
- Os nad ydych chi’n gallu dod o hyd i’ch cwrs, efallai y bydd wedi’i leoli o dan Cyrsiau yn y Ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan.
- Pan fydd cwrs sy’n cynnwys cwis newydd gyda banc eitemau yn cael ei gopïo, yna bydd y banc eitemau yn cael ei rannu â’r cwrs newydd yn awtomatig.
Agor Cwrs
Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyrsiau (Courses) [1], yna cliciwch enw’r cwrs [2].
Agor Gosodiadau
Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings).
Copïo Cynnwys Cwrs
Cliciwch y ddolen Copïo’r Cwrs hwn (Copy this Course).
Creu Manylion Cwrs
Rhowch Enw (Name) [1] a Chod Cwrs (Course Code) [2] i’r cwrs newydd. Bydd yr enw’n cael ei ddangos ar Dudalen Hafan y Cwrs ac yn yr adran Sgyrsiau. Bydd cod y cwrs yn cael ei ddangos ar frig y ddewislen Crwydro'r Cwrs ac yn y cerdyn cwrs yn y dangosfwrdd. Mae cod cwrs hefyd yn cael ei alw’n god cyfeirio neu’n enw byr.
Rhowch ddyddiad Dechrau [3] a dyddiad Gorffen [4] ar gyfer y cwrs newydd.
Nodyn: Os yw’r cwrs presennol yn cynnwys dyddiadau disodli cwrs yng Ngosodiadau’r Cwrs, yna bydd y meysydd dyddiad Dechrau a Gorffen (Start and End date) yn cynnwys y dyddiadau hynny.
Dewis Cynnwys Mudo
I fewngludo’r holl gynnwys o’r cwrs, dewiswch y botwm radio Holl Gynnwys (All Content) [1].
Os ydych chi am ddewis cynnwys penodol, cliciwch y botwm radio Dewis Cynnwys Penodol (Select specific content) [2].
Nodyn: Os byddwch chi'n dewis yr opsiwn cynnwys penodol, bydd gofyn i chi ddewis y cynnwys rydych am ei fewngludo; does dim modd canslo’r weithred hon.
Mudo cwisiau sy’n bodoli’n barod mewn swp fel Cwisiau Newydd
Os yw wedi’i ganiatáu gan eich sefydliad, gallwch chi fudo cwisiau sy’n bodoli’n barod mewn swp i Cwisiau Newydd drwy glicio’r blwch ticio Mewngludo cwisiau sy’n bodoli’n barod fel Cwisiau Newydd (Import existing quizzes as New Quizzes).
Os yw eich sefydliad yn galluogi’r nodwedd mudo cwis, bydd banciau cwestiynau sydd wedi’u cysylltu drwy grŵp cwestiynau yn Cwisiau Clasurol yn symud i Cwisiau Newydd. Os nad yw’r nodwedd mudo cwis wedi’i galluogi gan eich sefydliad, rhaid i gwestiynau o fanciau cwestiynau gael eu hychwanegu’n unigol cyn mudo i Cwisiau Newydd.
Nodiadau:
- Nid yw Cwisiau Newydd yn cynnwys nodwedd arolwg. Felly, mae arolygon sy’n cael eu mudo o Cwisiau Clasurol yn dod drosodd fel cwisiau safonol yn Cwisiau Newydd.
- Ar ôl mudo i Cwisiau Newydd, mae mwy nag un cwestiwn cwymplen yn ymddangos fel cwestiynau cyfatebol.
- Mae cwestiynau Testun Dim Cwestiwn yn mudo i Cwisiau Newydd fel cwestiynau Ysgogiad. Rhaid i addysgwr ychwanegu cwestiwn er mwyn iddo gael ei ddangos mewn cwis.
- Bydd grwpiau cwestiynau gyda chwestiynau wedi’u creu gennych chi yn mudo fel banciau eitemau yn Cwisiau Newydd.
- Os bydd cwis yn cael ei fudo mwy nag unwaith, bydd Canvas yn defnyddio cyfuno clyfar i ddatrys y cynnwys banc cwestiynau a ddylai gael ei gadw. Mae’r broses hon yn helpu i sicrhau bod yr holl gynnwys yn cael ei gadw, er enghraifft mewn achosion pan mae mwy nag un defnyddiwr yn golygu cwis ar yr un pryd.
- Mae modd mudo cwisiau ymarfer o Cwisiau Clasurol i Cwisiau Newydd Ar ôl mudo, yn ddiofyn, mae’r cwisiau ymarfer yn cael eu dangos fel dim pwyntiau posib ac maen nhw wedi’u cuddio o’r tudalennau Graddau a’r Llyfr Graddau.
Addasu Digwyddiadau a Dyddiadau Erbyn
Os ydych chi am addasu’r dyddiadau erbyn sy’n gysylltiedig â digwyddiadau ac aseiniadau cwrs, cliciwch y blwch ticio Addasu dyddiadau erbyn a digwyddiadau (Adjust events and due dates).
Copïo Gosodiadau Cwrs Glasbrint
Gallwch gopïo gosodiadau o gwrs glasbrint i gwrs glasbrint arall. Wrth gopïo gosodiadau glasbrint, mae hyn yn defnyddio'r un dewisiadau cloi gyda gwrthrychau fel y byddai’n digwydd gyda’r cwrs glasbrint gwreiddiol. I gopïo gosodiadau o gwrs glasbrint, ticiwch y blwch Copïo Gosodiadau Cwrs Glasbrint (Copy Blueprint Course Settings).
Creu Cwrs
Cliciwch y botwm Creu Cwrs (Create Course).
Gweld Tasgau Presennol
Mae’r adran Tasgau Presennol (Current Jobs) yn dangos statws eich eitemau wedi’u mewngludo. Mae adroddiadau parhaus yn dangos bar cynnydd sy’n nodi’r amser sy'n weddill i orffen mewngludo [1].
Os gwnaethoch chi benderfynu dewis cynnwys penodol yn eich cwrs, bydd y dasg bresennol yn ymddangos fel un Yn Aros am Ddewis (Waiting for Select) [2], sy’n golygu bod rhaid i chi ddewis y cynnwys rydych chi am ei fewngludo.
Hefyd, bydd yr eitem sy’n cael ei mewngludo yn dangos dangosyddion statws eraill fel rhan o’r broses fewngludo. Gallwch ddysgu mwy am statws mewngludo cyrsiau.
Gallwch weld cynnwys unrhyw brosesau mewngludo sydd wedi’u cwblhau drwy fynd i unrhyw ddolen yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs.