Mae Modiwlau yn rheoli holl lif eich cwrs a’i gynnwys. Fel addysgwr, gallwch ychwanegu modiwlau, ychwanegu eitemau at fodiwl, a rheoli gosodiadau modiwl. Gallwch hefyd aildrefnu'r holl fodiwlau ac eitemau modiwlau.
Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Modiwlau (Modules).
Mae’r Dudalen Mynegai Modiwlau (Modules Index) wedi’i dylunio gyda gosodiadau cyffredinol ar frig y dudalen [1], yna modiwlau unigol [2]. Mae eitemau cynnwys cwrs wedi’u gosod o fewn pob modiwl [3].
Nodyn: Mae'r Dudalen Mynegai Modiwlau yn delio â bysellau hwylus. I weld ffenestr gyda rhestr o fysellau hwylus, pwyswch y bysellau Shift+Marc Cwestiwn ar yr un pryd ar eich bysellfwrdd.
Mae’r Gosodiadau Cyffredinol yn cynnwys crebachu neu ehangu pob modiwl, gweld cynnydd myfyriwr mewn modiwl ac ychwanegu modiwlau newydd.
Nodiadau:
Yn yr adran Modiwlau (Modules), gallwch weld pob modiwl yn eich cwrs. Mae modiwlau’n cael eu trefnu yn ôl cynnydd.
Mae eitemau cynnwys pob modiwl yn cael eu cadw yn yr adran Modiwlau (Modules). Yn ddiofyn, mae modiwlau yn cael eu hehangu ac yn dangos pob eitem sydd yn y modiwl [1]. I grebachu’r modiwl, cliciwch y saeth crebachu [2].
Nodyn: Os byddwch chi’n dewis crebachu neu ehangu un neu ragor o fodiwlau, bydd y Dudalen Mynegai Modiwlau yn cofnodi cyflwr pob modiwl.
Mae pob pennawd modiwl yn cynnwys enw’r modiwl [1].
Mae’n bosib y bydd y pennawd hefyd yn cynnwys rhagofynion modiwlau [2] a gofynion modiwlau [3].
Mae’r eiconau ar y dde i enw'r modiwl yn rheoli'r modiwl cyfan. Gallwch gyhoeddi neu ddad-gyhoeddi modiwl cyfan [1] ac ychwanegu eitem cynnwys newydd at y modiwl [2].
Yn y gwymplen Opsiynau (Options) [3], gallwch olygu modiwl [4], sy’n gadael i chi ailenwi'r modiwl, cloi modiwlau,, gosod rhagofynion, a gosod gofynion modiwlau.
Gallwch hefyd symud y modiwl [5], symud eitemau modiwl [6], dileu'r modiwl [7], neu ddyblygu’r modiwl [8].
Gallwch aildrefnu modiwl drwy hofran dros y ddolen llusgo drws nesaf i enw’r modiwl a llusgo’r modiwl i’r lleoliad penodol.
Mae modd llenwi modiwlau â chynnwys amrywiol. Mae pob eitem modiwl hefyd yn cynnwys eicon o’i fath:
O fewn pob modiwl, mae eitemau cynnwys modiwl sy’n gallu dangos enw'r eitem [1], y dyddiad erbyn [2], nifer y pwyntiau [3], gofynion y modiwl [4], a statws drafft yr eitem modiwl [5]. Gall modiwl hefyd gynnwys eitemau heb eu graddio [6], fel tudalennau a thrafodaethau heb eu graddio. Os cafodd dyddiad Tasgau i’w Gwneud ei ychwanegu at eitem heb ei raddio, yna bydd y dyddiad yn ymddangos wrth yr eitem modiwl [7].
Ar gyfer pob eitem cynnwys modiwl unigol, gallwch ddefnyddio’r gwymplen opsiynau [1] i fewnoli’r eitem i hyd at 5 lefel (neu dynnu mewnoliad) [2], golygu'r eitem cynnwys [3], dyblygu'r eitem os yw’r eitem yn gallu delio â phroses ddyblygu [4], symud yr eitem [5], neu dynnu’r eitem cynnwys o'r modiwl [6].
Gallwch hefyd aildrefnu eitem modiwl drwy hofran dros y ddolen llusgo drws nesaf i enw’r eitem, a llusgo’r eitem i’r lleoliad dan sylw.
Os ydych chi’n defnyddio Llwybrau Meistroli ar eich cwrs, gallwch weld y dudalen Modiwlau a gweld pa eitemau modiwl sydd wedi eu gosod ar gyfer Llwybrau Meistroli.
Os yw eich cwrs yn cynnwys eiconau Glasbrint (Blueprint), yna mae eich cwrs yn gysylltiedig â chwrs glasbrint. Mae Cyrsiau Glasbrint yn gyrsiau sy’n cael eu rheoli fel templed a gallant gynnwys gwrthrychau wedi’u cloi ac wedi’u rheoli gan weinyddwr, dylunydd cyrsiau, neu addysgwr arall yn Canvas. Fel gyda'r eiconau cyflwr drafft, mae’r adran Modiwlau (Modules) yn dangos statws y gwrthrych fel mae’n ymddangos ar dudalen fynegai’r gwrthrych.
Bydd y tab Manylion Cwrs yng Ngosodiadau’r Cwrs yn rhoi gwybod i chi os yw eich cwrs yn gwrs glasbrint. Fel arfer, ni fydd eich cwrs yn gwrs glasbrint a dim ond cynnwys wedi’i ddatgloi fyddwch chi’n gallu ei reoli yn eich cwrs. Os yw eich cwrs yn gwrs glasbrint, gallwch gloi a chysoni cynnwys cwrs â chyrsiau cysylltiedig.