Sut ydw i’n defnyddio Llwybrau Meistroli ym modiwlau cwrs?

Mae Llwybrau Meistroli yn gadael i chi addasu profiadau dysgu myfyrwyr ar sail perfformiad. Gallwch chi alluogi Llwybrau Meistroli i neilltuo gwaith cwrs yn awtomatig yn seiliedig ar y sgôr a gafwyd ar gyfer aseiniad blaenorol. Mae hyn yn darparu mwy nag un cyfle i ddangos a chyflawni meistrolaeth mewn cwrs.

Mae Llwybrau Meistrolaeth yn seiliedig ar aseiniadau wedi’u gwahaniaethu, sy’n gadael i weithgareddau dysgu wedi’u targedu gael eu neilltuo i wahanol ddefnyddwyr ac adrannau. Gyda Llwybrau Meistroli, mae aseiniadau’n cael eu gwahaniaethu i fyfyrwyr unigol yn awtomatig ac nid oes angen gwaith ychwanegol heb law am raddio aseiniadau myfyrwyr fel arfer. Ar ôl i’r aseiniad cychwynol gael ei raddio (gennych chi neu’n awtomatig), mae sgôr y myfyriwr yn nodi’r eitemau amodol sydd wedi’u neilltuo iddynt fel llwybr meistroli. Er enghraifft, mae llwybr meistroli’n gallu neilltuo un set o eitemau i fyfyrwyr sy’n sgorio 70% neu uwch a set arall i fyfyrwyr sy’n sgorio o dan 70%. Os bydd Myfyriwr A yn sgorio 70% neu uwch, gallan nhw gael gafael ar Dudalen 1, Tudalen 2, Aseiniad 1, ac Aseiniad 2. Gallwch chi ofyn i Fyfyriwr A ddarllen y ddwy dudalen a chwblhau o leiaf un aseiniad. Os bydd Myfyriwr B yn sgorio llai na 70%, gallan nhw gael gafael ar Dudalen 1, Tudalen 3, Tudalen 4, ac Aseiniad 1 ac Aseiniad 2. Gallwch chi ofyn i Fyfyriwr B ddarllen y tair tudalen a chwblhau’r aseiniad er mwyn cael meistrolaeth o’r pwnc.

Wrth greu Llwybrau Meistrolaeth, dylid creu aseiniadau ffynhonnell ac eitemau cwrs wedi’u gwahaniaethu, a dylai eitemau wedi’u gwahaniaethu gael eu neilltuo fel eitemau amodol cyn cyhoeddi’r cwrs.

Graddio wedi’i Bwysoli

Os byddwch chi’n defnyddio graddio wedi’i bwysoli ar eich cwrs, efallai y bydd gwaith cwrs ychwanegol yn effeithio ar gyfanswm graddau myfyriwr. Ond, mae cyfrifiadau gradd yn seiliedig ar yr aseiniadau sydd wedi’u neilltuo i, ac wedi’u cwblhau gan y myfyriwr; nid yw myfyrwyr yn cael eu cosbi am unrhyw aseiniadau sydd heb eu neilltuo iddynt. Os ydych chi’n poeni am amrywiadau gradd gyda gwerthoedd pwynt, efallai y byddwch chi eisiau adolygu’r aseiniadau amodol sydd wedi’u neilltuo i bob Llwybr Meistrolaeth a cheisio cydbwyso cyfansymiau graddio ym mhob llwybr. Neu, gallech chi werthuso cynnydd myfyrwyr ac ychwanegu myfyrwyr unigol at aseiniadau fel bo angen er mwyn iddyn nhw allu cwblhau a gwella eu gradd.

Nodiadau:

  • Gellir rheoli'r gosodiad Llwybrau Meistroli yn eich cwrs os yw'r gosodiad wedi ei alluogi gan eich sefydliad.
  • Os yw eich sefydliad yn defnyddio system gwybodaeth myfyrwyr (SIS) ac angen dyddiadau erbyn ar gyfer aseiniadau, nid yw unrhyw aseiniadau Llwybrau meistroli sydd wedi’u neilltuo i un neu ragor o fyfyrwyr yn cael eu dilysu ar hyn o bryd. Defnyddiwch yn ofalus wrth gysoni i’ch SIS.
  • Os oes gan eich cwrs nifer fawr o fyfyrwyr a/neu os oes gan Lwybr Meistrolaeth nifer fawr o eitemau amodol cysylltiedig, efallai y bydd oedi cyn i lwybr gael ei neilltuo i fyfyrwyr.
  • Nid yw Llwybrau Meistroli’n gallu delio â chysylltiadau â deilliannau ar hyn o bryd.
  • Does dim modd defnyddio eitemau modiwl Adnoddau Allanol, URLs Allanol, a Ffeiliau fel eitemau amodol mewn Llwybrau Meistroli.
  • Os byddwch chi’n dewis cynnwys tudalen mewn Llwybrau Meistroli, dim ond o’r Llwybrau Meistroli y byddwch chi’n gallu cael gafael ar y dudalen ac nid o dudalen Tudalennau’r cwrs.

Agor Modiwlau

Agor Modiwlau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Modiwlau (Modules).

Ychwanegu Modiwlau Cwrs

Ar hyn o bryd dim ond o dudalen Modiwlau’r cwrs y mae’r proses Llwybr Meistroli’n deillio Cyn y gallwch chi nodi aseiniadau ffynhonnell ac eitemau amodol ar gyfer Llwybr Meistrolaeth, dylai pob tudalen ac aseiniad cwrs gael ei ddatblygu a’i ychwanegu at Fodiwlau fel eitemau modiwl. Mae modd creu Llwybrau Meistroli o strwythurau modiwl mewn cyrsiau sydd eisoes yn bodoli neu gynnwys cwrs newydd.

Mae mewnoli eitemau modiwl yn gallu cael ei ddefnyddio i helpu i drefnu strwythur y modiwl a dangos pa eitemau ddylai fod yn eitemau amodol yn Llwybr Meistroli.

Mae modd defnyddio aseiniadau wedi’u graddio, trafodaethau wedi’u graddio, neu gwisiau wedi’u graddio fel cynnwys ffynhonnell ar gyfer Llwybr Meistrolaeth. Mae sgôr cynnwys ffynhonnell myfyriwr yn pennu pa eitemau amodol sydd wedi’u neilltuo iddyn nhw.

Mae modd nodi unrhyw eitem cwrs heb law am gwisiau ymarfer ac arolygon heb eu graddio fel eitem amodol mewn Llwybra Meistrolaeth.

Nodiadau:

  • Mewn Llwybrau Meistrolaeth, nid oes angen rhagofynion a gofynion modiwl, ond maent yn cael eu hannog arwain trefnu cwrs a llwybrau amodol.
  • Does dim modd defnyddio eitemau modiwl Adnoddau Allanol, URLs Allanol, a Ffeiliau fel eitemau amodol mewn Llwybrau Meistroli.

Caniatáu Cynnwys Tudalen

Caniatáu Cynnwys Tudalen

Oherwydd nad oes angen graddio tudalennau cynnwys, does dim modd defnyddio tudalennau cynnwys fel cynnwys ffynhonnell a dim ond fel cynnwys amodol y mae modd eu hychwanegu at Lwybr Meistrolaeth. Ond, rhaid caniatáu tudalen ar gyfer Llwybrau Meistrolaeth cyn y mae modd ei hychwanegu fel eitem amodol.

Ychwanegu Eitemau Amodol

Ychwanegu Eitemau Amodol

Mae Llwybr Meistroli’n deillio o aseiniad sydd wedi’i neilltuo i bawb, fe aseiniad cyn-prawf neu aseiniad cyflwyno.  

Mae’r dudalen ffurfweddu Llwybrau Meistroli yn gadael i chi ychwanegu eitemau cynnwys amodol at yr eitem cynnwys ffynhonnell. Mae eitemau cynnwys amodol yn cael eu dewis o’r rhestr o eitemau modiwl rydych chi eisoes wedi’u hychwanegu at y modiwl. Yna, mae’r eitemau hyn yn cael eu neilltuo i fyfyrwyr penodol drwy reolau amodol mewn tri ystod sgorio. Ar ôl i’r aseiniad cynnwys ffynhonnell gael ei raddio (gennych chi neu’n awtomatig), mae sgôr y myfyriwr yn nodi’r eitemau amodol sydd wedi’u neilltuo iddynt fel llwybr meistroli.

Neilltuo Eitemau i Lwybrau Meistroli

Neilltuo Eitemau i Lwybrau Meistroli

Yn ddiofyn, mae aseiniadau yn Canvas yn cael eu neilltuo i Bawb, sy’n golygu y bydd pob myfyriwr yn gallu gweld yr aseiniad yn eu tudalen Modiwlau. Unwaith y bydd eitemau cynnwys amodol wedi cael eu hychwanegu at Lwybr meistroli, rhaid i’r aseiniadau amodol gael eu neilltuo i Lwybrau Meistrolaeth. Mae’r aseiniad Llwybrau Meistrolaeth yn nodi’r aseiniad ar gyfer rhyddhau amodol yn unig, a bydd yr aseiniad ddim ond yn ymddangos i fyfyrwyr y mae eu sgorau cynnwys ffynhonnell yn yr ystod sy’n rhyddhau’r aseiniad amodol iddynt.

Rhyddhau Eitemau Amodol

Rhyddhau Eitemau Amodol

Pan fyddwch chi’n creu Llwybrau Meistrolaeth are gyfer eich cwrs, bydd myfyrwyr yn gweld cynnwys sydd wedi’i ychwanegu at eu tudalen Modiwlau wrth iddyn nhw fynd trwy’r cwrs. Pan fydd y cwrs yn dechrau, fyddan nhw ddim ond yn gallu gweld eitemau sydd wedi cael eu cyhoeddi a’u neilltuo i Bawb (Everyone) neu wedi cael eu neilltuo’n benodol iddyn nhw. I’r gwrthwyneb, mae cyrsiau sydd ddim yn defnyddio Llwybrau Meistroli yn dangos yr holl gynnwys yn y Modiwl, hyd yn oed os yw’r cynnwys wedi’i gloi.

Unwaith mae aseiniad ffynhonnell Llwybr Meistrolaeth wedi cael ei raddio (un ai’n awtomatig gan Canvas neu gennych chi yn SpeedGrader), bydd yr eitemau amodol yn ymddangos yn awtomatig yn nhudalen Modiwlau’r myfyriwr yn seiliedig ar ystod sgorio’r eitem ffynhonnell.

Os yw ystod sgorio aseiniad ffynhonnell Llwybr Meistrolaeth yn cynnwys opsiwn Neu (Or), rhaid i fyfyrwyr ddewis pa eitemau amodol i’w cwblhau cyn bwrw ymlaen.

Nodiadau:

  • Os byddwch chi’n gosod gofyniad bod yn rhaid i eitemau modiwl gael eu cwblhau mewn trefnu, pan fydd myfyriwr yn cwblhau Llwybr Meistrolaeth sydd angen cael ei raddio gennych chi, bydd pob eitem modiwl canlynol wedi’i gloi i’r myfyriwr nes bod y Llwybr Meistrolaeth wedi’i raddio.
  • Os byddwch chi’n ailraddio aseiniad ffynhonnell ar ôl i fyfyriwr ddewis opsiwn Llwybr Meistrolaeth, a bod yr ailraddio’n rhoi’r myfyriwr mewn ystod eitem amodol gwahanol, byddan nhw’n gorfod cwblhau’r eitemau amodol yn y Llwybr Meistrolaeth sydd wedi’i ail-neilltuo cyn symud ymlaen trwy’r cwrs.

Gweld Aseiniad Llwybr Myfyriwr

Gweld Aseiniad Llwybr Myfyriwr

Pan mae myfyriwr yn dewis eitem amodol neu mae un yn cael ei neilltuo iddo, mae’r aseiniad amodol yn ychwanegu enw’r myfyriwr yn awtomatig at yr aseiniad fel ei fod wedi’i wahaniaethu i’r myfyriwr hwnnw.

Gweld Dadansoddiad Llwybr Meistroli

Gweld Dadansoddiad Llwybr Meistroli

Ar ôl i fyfyrwyr gwblhau eitem cynnwys ffynhonnell ar gyfer Llwybr Meistrolaeth, gallwch chi weld y dadansoddiad Llwybrau Meistrolaeth. Mae pob ystod sgorio’n cynnwys dolen sy’n dangos nifer y myfyrwyr ym mhob ystod. Gallwch chi glicio enw myfyriwr yn yr ystod, gweld sgôr a chyflwyniad cynnwys ffynhonnell y myfyriwr, ac anfon neges i’r myfyriwr.