Sut ydw i’n creu aseiniad?

Gallwch greu aseiniadau ar y dudalen Aseiniadau. Gallwch greu cragen aseiniad, sef dalfan ar gyfer aseiniad o fewn grŵp aseiniadau, neu gallwch greu aseiniad cyfan gyda holl fanylion yr aseiniad.

Agor Aseiniadau

Agor Aseiniadau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Aseiniadau (Assignments).

Ychwanegu Cragen Aseiniad

Ychwanegu Cragen Aseiniad

Os ydych chi am greu dalfan ar gyfer aseiniad gyda theitl a dyddiad, gallwch greu cragen aseiniad mewn grŵp aseiniadau.

Mae grwpiau aseiniadau’n cynnwys y gwahanol fathau o aseiniadau y gallech chi fod eisiau eu cadw yn eich cwrs, fel aseiniadau, trafodaethau, cwisiau, arolygon, ac ati [1]. Os byddwch chi’n creu grwpiau aseiniadau yn eich cwrs, bydd myfyrwyr yn gallu hidlo eu tudalen aseiniadau yn ôl math o aseiniad i weld yr un grwpiau. Gallwch ddysgu sut mae ychwanegu grŵp aseiniadau.

I greu cragen aseiniad, chwiliwch am grŵp aseiniadau a chlicio’r botwm Ychwanegu Aseiniad (Add Assignment) [2]. Dim ond meysydd ar gyfer math o aseiniad, enw, dyddiad erbyn (dewisol) a phwyntiau sydd wedi’u cynnwys mewn cragen aseiniad. Gallwch ychwanegu manylion aseiniad ar unrhyw adeg drwy olygu’r aseiniad.

Ychwanegu Aseiniad

Ychwanegu Aseiniad

Os ydych chi am greu aseiniad gyda holl fanylion yr aseiniad ar yr un pryd, cliciwch y botwm Ychwanegu Aseiniad (Add Assignment).

Mae manylion yr aseiniad yn cynnwys meysydd ar gyfer y math o aseiniad, enw, disgrifiad, pwyntiau, grŵp aseiniadau (os ydych yn dymuno), dull dangos graddau, math o gyflwyniad a dyddiadau erbyn. Gallwch hefyd nodi a yw’r aseiniad yn aseiniad grŵp neu’n galw am adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr yn y wers manylion aseiniad.

Pan fyddwch chi’n ychwanegu manylion at aseiniad, gallwch hefyd neilltuo’r aseiniad i’r holl fyfyrwyr, adrannau cwrs, grwpiau cwrs, neu fyfyrwyr unigol fel rhan o’r nodwedd aseiniadau wedi’u gwahaniaethu yn Canvas.