Sut ydw i'n gweld fy hoff gyrsiau yn y Dangosfwrdd Gwedd Cardiau fel addysgwr?

Mae’r Dangosfwrdd Gwedd Cardiau yn dangos cardiau cwrs ar gyfer pob un o’ch hoff gyrsiau. Gall Cardiau Cwrs eich helpu i drefnu'ch cyrsiau drwy ychwanegu llysenw neu addasu'r lliw, a fydd yn cael ei gysoni â’r lliw sy’n ymddangos ar gyfer eich cwrs yn y Calendr. Yn dibynnu ar ddewisiadau eich sefydliad, mae'n bosib mai'r Wedd Cardiau fydd eich Dangosfwrdd diofyn.

Mae'r Dangosfwrdd Gwedd Cardiau hefyd yn cynnwys bar ochr y Dangosfwrdd, sy'n cynnwys eitemau yn eich rhestr o Dasgau i’w Gwneud a dolen i'r dudalen Graddau gyffredinol.

Mae modd i chi newid gwedd eich Dangosfwrdd unrhyw bryd gan ddefnyddio'r eicon Opsiynau'r Dangosfwrdd (Dashboard Options).

Nodyn: Os yw’ch sefydliad wedi galluogi’r Tiwtorial Creu Cwrs, bydd cardiau cwrs y Dangosfwrdd yn ymateb yn unol â lled y porwr i gyd. Yn dibynnu ar gydraniad porwr y defnyddiwr, mae cwrs y Dangosfwrdd yn dangos mwy na thri cherdyn cwrs mewn un rhes.

Gweld Cardiau Cwrs

Gweld Cardiau Cwrs

Yn ddiofyn, mae cardiau cwrs yn cael eu hychwanegu'n awtomatig gan Canvas.

Mae cyrsiau'r Dangosfwrdd yn cael eu rhoi yn nhrefn yr wyddor yn ôl enw'r cwrs a'ch rôl yn y cwrs, nid yw llysenwau a chodau cwrs yn berthnasol ar gyfer trefnu cyrsiau. Mae cyrsiau gyda rolau addysgwr yn cael eu rhestru'n gyntaf, yna rolau cynorthwyydd dysgu a rolau myfyriwr.

Gellir trefnu cardiau cwrs yn ôl cyrsiau wedi’u cyhoeddi [1] a chyrsiau heb eu cyhoeddi [2]. I gyhoeddi cwrs sydd heb ei gyhoeddi, cliciwch y botwm Cyhoeddi (Publish) [3].

Nodyn: Os ydych chi am dynnu'r gosodiad cerdyn cwrs diofyn, gallwch addasu'r rhestr cyrsiau a dewis eich hoff gyrsiau i'w dangos yn y Dangosfwrdd. Pan fyddwch chi'n hoffi o leiaf un cwrs, dim ond y cyrsiau wedi’u hoffi y bydd y Dangosfwrdd yn eu dangos. Hefyd, bydd Canvas yn parhau i hoffi ymrestriadau newydd i'r cwrs yn awtomatig.

Gweld Manylion Cerdyn

Gweld Manylion Cerdyn

Mae cardiau cwrs yn dangos trosolwg o wybodaeth cwrs gan gynnwys enw'r cwrs, cod y cwrs, a thymor [1].

Mae pob cerdyn yn cynnwys hyd at bedwar tab [2] sy'n cynrychioli pedair prif nodwedd Canvas ar gyfer gweithgarwch cwrs myfyrwyr: Aseiniadau, Cyhoeddiadau, Trafodaethau, a Ffeiliau. Mae'r tabiau hyn yn dynwared amlygrwydd a threfn yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs, er enghraifft, os yw addysgwr yn cuddio'r ddolen Cyhoeddiadau, ni fydd y tab Cyhoeddiadau yn ymddangos ar y cerdyn cwrs.

Mae eicon heb ei ddarllen yn y tab Trafodaethau neu Gyhoeddiadau yn nodi bod trafodaeth neu gyhoeddiad newydd yn y cwrs [3]. Mae nifer yr eiconau yn nodi nifer yr eitemau newydd.

Creu Llysenw

Creu Llysenw

Os yw un o'ch cyrsiau yn cynnwys enw hir neu ddryslyd, gallwch roi llysenw i'ch cwrs. Mae'r rhan fwyaf o gyrsiau yn cael eu creu gan ddefnyddio System Gwybodaeth am Fyfyriwr (SIS) sy'n creu enwau cyrsiau yn seiliedig ar dymhorau, adrannau, a rhifau adrannau, a gall cyrsiau sydd ag enwau tebyg fod yn anodd i'w gwahaniaethu.

Mae llysenwau cyrsiau yn ymddangos yn y Dangosfwrdd, Dewislen Crwydro'r Cwrs, briwsion bara cwrs, a negeseuon e-bost hysbysu.

Dydy llysenw cwrs ddim yn effeithio ar enw'r cwrs ar lefel y cyfrif neu'r cwrs; mae'n newid enw'r cwrs ar gyfer yr unigolyn a greodd y llysenw yn unig.

Os ydych chi angen gwybod enw gwreiddiol y cwrs, gallwch hofran dros y llysenw a bydd yr enw gwreiddiol yn ymddangos. Hefyd, dydy cod y cwrs ddim yn cael ei effeithio, ac mae wastad i'w weld ar gerdyn y cwrs er gwybodaeth.

Nodiadau:

  • Ar hyn o bryd nid yw'r nodwedd hon yn berthnasol i'r dudalen Graddau gyffredinol ac elfennau o far ochr y Dangosfwrdd fel y rhestr Tasgau i'w Gwneud.
  • Mae llysenwau cwrs wedi’u cyfyngu i 59 nod.

Rheoli Llysenw

Rheoli Llysenw

I ychwanegu llysenw, cliciwch yr eicon Opsiynau [1], yna rhowch yr enw yn y maes Llysenw (Nickname) [2]. Cliciwch y botwm Defnyddio (Apply) [3].

I dynnu llysenw, agorwch opsiynau'r cerdyn a thynnu'r llysenw. Bydd y maes Llysenw yn dangos enw gwreiddiol y cwrs.

Newid Lliw Cwrs

Newid Lliw Cwrs

Gall Cardiau Cwrs eich helpu i drefnu eich cyrsiau trwy addasu'r lliw, fydd yn cysoni â lliw eich cwrs yn y Calendar. I newid y lliw, cliciwch yr eicon Opsiynau [1], a dewis lliw newydd. Mae'r tic yn nodi'r lliw sydd wedi'i ddewis [2], ac mae cod lliw hex yn ymddangos yn y maes testun [3]. Os hoffech chi ddefnyddio lliw sydd ddim yn y ffenestr, gallwch roi cod hex y lliw yn syth yn y maes testun. Bydd y maes hex yn dangos eicon rhybudd os nad yw'r cod hex yn ddilys. Yn ogystal, nid yw mathau gwahanol o wyn yn dderbyniol fel lliw cwrs.

Cliciwch y botwm Defnyddio (Apply) [4]. 

Nodyn: Os byddwch chi'n newid lliw cwrs yn y Calendr, bydd y Dangosfwrdd hefyd yn cael ei ddiweddaru gyda'r lliw.

Symud Cardiau Cwrs

Aildrefnu Cardiau Cwrs

Hefyd, gallwch symud cerdyn cwrs i leoliad arall yn y Dangosfwrdd neu dynnu cerdyn oddi ar y Dangosfwrdd. Cliciwch yr eicon Opsiynau [1] a dewis y tab Symud (Move) [2]. Yn dibynnu ar leoliad y cerdyn presennol, gallwch symud y cerdyn i frig y Dangosfwrdd, o flaen neu du ôl i gerdyn penodol, neu i waelod y Dangosfwrdd [3].

Unwaith mae cerdyn dangosfwrdd wedi cael ei aildrefnu, bydd cyrsiau newydd wastad yn ymddangos ar ddiwedd yr holl gyrsiau cyfredol.

I dynnu cerdyn y cwrs oddi ar y Dangosfwrdd, cliciwch yr opsiwn Ddim yn Ffefryn (Unfavorite) [4].

Nodyn: Dim ond os ydych chi wedi dewis eich hoff gyrsiau yn barod y bydd yr opsiwn Ddim yn Ffefryn (Unfavorite) yn ymddangos.

Llusgo a Gollwng Cardiau Cwrs

Llusgo a Gollwng Cardiau Cwrs

Hefyd, gallwch lusgo a gollwng cerdyn cwrs i leoliad arall yn y Dangosfwrdd. Cliciwch ar gerdyn cwrs a'i lusgo i'r lleoliad dan sylw.

Gweld Gorchudd lliw

Mae'n bosib y bydd rhai cyrsiau yn cynnwys delwedd ar gyfer y cwrs y tu ôl i liw'r cwrs [1]. Yn ddiofyn, mae cardiau cwrs sydd â delwedd yn cynnwys gorchudd lliw. I dynnu'r gorchudd lliw o bob cerdyn cwrs sy'n cynnwys delwedd, cliciwch yr eicon Opsiynau (Options) [2] a dad-ddewis yr opsiwn Gorchudd Lliw (Color Overlay) [3].

Tynnu Gorchudd lliw

Tynnu Gorchudd lliw

Pan fydd y Gorchudd Lliw wedi'i dynnu, bydd lliw'r cwrs yn ymddangos fel cylch y tu ôl i eicon Opsiynau.