Sut ydw i’n ychwanegu cyhoeddiad mewn cwrs?

Gallwch greu cyhoeddiad i rannu gwybodaeth bwysig â’r holl ddefnyddwyr ar eich cwrs, a gyda defnyddwyr mewn rhannau o gwrs. Yn eich dewisiadau hysbysiadau, gallwch ddewis derbyn hysbysiadau am gyhoeddiadau wedi’u creu gennych chi, yn ogystal ag ymatebion i'r cyhoeddiadau rydych chi wedi'u creu.

Nodiadau:

  • Rhaid i’ch cwrs fod wedi cael ei gyhoeddi er mwyn i fyfyrwyr gael hysbysiadau am gyhoeddiadau. Os byddwch chi’n mewngludo cyhoeddiad o gwrs Canvas arall, ni fydd hysbysiadau cyhoeddiad newydd yn cael eu hanfon at ddefnyddwyr y cwrs.
  • Os bydd cyhoeddiad yn cael ei greu cyn dyddiad dechrau’r cwrs a bod y gosodiad Dim ond rhwng y dyddiadau hyn y bydd modd i fyfyrwyr gymryd rhan yn y cwrs wedi’i alluogi, ni fydd myfyrwyr yn derbyn hysbysiadau cyhoeddiadau.
  • Nid yw hysbysiadau’n cael eu hanfon ar gyfer cyhoeddiadau sydd wedi’u creu cyn i’r cwrs gael ei gyhoeddi.
  • Dydy defnyddwyr yr ap sy’n fyfyrwyr ddim yn gallu gweld cyhoeddiadau ar y dudalen hafan. Ond, maen nhw’n gallu gweld cyhoeddiadau yn adran crwydro Cyhoeddiadau’r cwrs.

Agor Cyhoeddiadau

Agor Cyhoeddiadau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Cyhoeddiadau (Announcements).

Ychwanegu Cyhoeddiad

Cliciwch y botwm Ychwanegu Cyhoeddiad (Add Announcement).

Creu Cyhoeddiad

Teipiwch deitl ar gyfer y cyhoeddiad ym maes pwnc y teitl [1] ac ychwanegu cynnwys yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog [2].

Note: Mae’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn cynnwys cyfrif geiriau o dan gornel dde isaf y blwch testun.

Dewis Adrannau

Dewis Adrannau

Bydd Canvas yn anfon eich cyhoeddiad at bob adran yn eich cwrs yn ddiofyn. I ddewis adrannau penodol ar gyfer eich cyhoeddiad, cliciwch y gwymplen Postio i (Post to) a dewis adrannau o'r rhestr.  

Note: Os nad oes gan eich cwrs adrannau, bydd Canvas yn dal i ddangos yr opsiwn Pob Adran, a bydd holl ddefnyddwyr y cwrs yn gallu gweld y cyhoeddiad.

Mae athrawon a chynorthwywyr dysgu yn cael gwybod am bob Cyhoeddiad cwrs newydd, oni bai eu bod nhw wedi’u cyfyngu o ran Adrannau.

Ychwanegu Atodiad

Ychwanegu Atodiad

I ychwanegu atodiad at eich trafodaeth, glicio’r botwm Dewis Ffeil (Choose File) [1].

Os yw’n ofynnol yn eich sefydliad, bydd angen i chi ddewis gosodiadau hawliau defnyddio ar gyfer eich atodiad. I olygu gosodiadau hawliau defnyddio, cliciwch yr eicon Gosod hawliau defnyddio (Set usage rights) [2].

Yn y gwymplen Hawliau Defnydddio (Usage Right) [3], dewiswch un o bum hawl defnyddio. Os ydych chi’n addysgwr ac nad ydych chi’n siŵr pa hawliau defnyddio sy’n berthnasol i’ch ffeil, gofynnwch i weinyddwyr eich sefydliad am gyngor:

  • Fi sydd biau’r hawlfraint (cynnwys gwreiddiol sydd wedi’i greu gennych chi)
  • Rydw i wedi cael caniatâd i ddefnyddio’r ffeil (caniatâd awdurdodedig gan yr awdur)
  • Mae’r deunydd yn y parth cyhoeddus (wedi’i neilltuo’n benodol i’r parth cyhoeddus, nid oes modd ei ro o dan hawlfraint, neu nid yw wedi’i ddiogelu gan hawlfraint mwyach)
  • Mae’r eithriad yn berthnasol i'r deunydd - ee defnydd teg, yr hawl i ddyfynnu, neu hawliau eraill o dan y cyfreithiau hawlfraint perthnasol (dyfyniad neu grynodeb yn cael eu defnyddio ar gyfer sylwadau, adrodd y newyddion, ymchwil, neu ddadansoddiad mewn addysg)
  • Mae’r deunydd wedi'i drwyddedu o dan Creative Commons; mae’r opsiwn hwn yn golygu gosod trwydded Creative Commons benodol

Os yw’n hysbys, rhowch wybodaeth perchennog yr hawlfraint yn y maes Perchennog yr Hawlfraint (Copyright Holder) [4].

I gadw eich gosodiadau hawliau defnyddio, cliciwch y botwm Cadw (Save) [5]. Gallwch chi olygu gosodiadau hawliau defnyddio drwy glicio’r eicon Gosod hawliau defnyddio.

Dewis Opsiynau

Dewis Opsiynau Cyhoeddiad

Yn yr adran Opsiynau (Options), gallwch ddewis opsiynau amrywiol ar gyfer eich cyhoeddiad. Gallwch oedi cyn postio’ch cyhoeddiad [1], ac mae hyn yn rhoi cyfle i chi amserlennu'r cyhoeddiad ar gyfer dyddiad yn y dyfodol.

Neu, gallwch ddewis gadael i ddefnyddwyr wneud sylwadau ar y cyhoeddiad [2], a mynnu bod myfyrwyr yn ymateb i bost cyn gweld atebion eraill [3].

Gallwch hefyd alluogi ffrwd podlediad - cyhoeddiad [4] a rhoi cyfle i fyfyrwyr hoffi ymatebion i gyhoeddiad [5].

Nodiadau:

  • Yn ôl rhagosodiad, dydy sylwadau ddim yn cael eu caniatáu mewn cyhoeddiadau oni bai fod tic yn y blwch Gadael i ddefnyddwyr wneud sylw.
  • Mae'r opsiwn Gadael i ddefnyddwyr wneud sylwadau yn barhaus, sy’n golygu bod yr opsiwn y byddwch chi’n ei ddewis wrth greu neu olygu cyhoeddiad yn cael ei ddefnyddio wrth i chi greu cyhoeddiad newydd yn y cwrs. Ond, dydy’r opsiwn 'Mae’n rhaid i ddefnyddwyr gyflwyno postiadau cyn gweld atebion’ ddim yn barhaus.
  • Efallai na fydd opsiynau sylwadau ar gael i chi os yw sylwadau cyhoeddiad wedi’u hanalluogi yn eich cwrs. Edrychwch ar Osodiadau eich Cwrs os na allwch chi weld y blychau ticio hyn.

Cyhoeddi Cyhoeddiad

Cyhoeddi Cyhoeddiad

Cliciwch y botwm Cyhoeddi (Publish).

Note: Oni bai eich bod yn defnyddio'r opsiwn oedi cyn postio mewn Cyhoeddiadau, unwaith y byddwch yn clicio Cyhoeddi, bydd eich cyhoeddiad yn cael ei bostio’n syth yn eich cwrs.

Gweld Cyhoeddiad

Gallwch weld y cyhoeddiad ar Dudalen Mynegai’r Cyhoeddiadau.