Sut ydw i’n defnyddio’r Dangosfwrdd fel addysgwr?

Y Dangosfwrdd yw'r peth cyntaf y byddwch yn ei weld pan fyddwch chi’n mewngofnodi i Canvas. Mae’r Dangosfwrdd yn eich helpu i weld beth sy'n digwydd yn eich holl gyrsiau presennol.

Gallwch ddychwelyd i’ch Dangosfwrdd Defnyddiwr ar unrhyw adeg drwy glicio'r ddolen Dangosfwrdd yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan.

Nodyn: Os yw’ch sefydliad wedi galluogi’r Tiwtorial Creu Cwrs, bydd y Dangosfwrdd yn ymateb yn unol â lled y porwr i gyd.

Agor Dangosfwrdd

Agor Dangosfwrdd

Yn y ddewislen Crwydro’r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Dangosfwrdd (Dashboard).

Gweld Dangosfwrdd

Y Dangosfwrdd yw eich tudalen lanio yn Canvas. Yn dibynnu ar eich sefydliad, yn ddiofyn bydd gan eich Dangosfwrdd un o ddwy wedd: Gwedd Cardiau neu Wedd Gweithgarwch Diweddar.

  • Gwedd Cardiau: yn dangos cardiau cwrs er mwyn cael mynediad cyflym at eich hoff gyrsiau (mae’r un cyrsiau i’w gweld yn y ddolen Cyrsiau yn y Ddewislen Crwydro’r Safle Cyfan)
  • Gwedd Gweithgarwch Diweddar: yn dangos yr holl weithgarwch diweddar ar gyfer pob cwrs.

Gweld Rhestr Tasgau i’w Gwneud a Bar Ochr

Gweld Rhestr Tasgau i’w Gwneud a Bar Ochr

Yn y Dangosfwrdd Gwedd Cardiau a'r Dangosfwrdd Gweithgarwch Diweddar, mae'r bar ochr yn cynnwys rhestr o Dasgau i'w Gwneud ac adrannau eraill sy’n eich helpu i wybod pa aseiniadau a digwyddiadau sydd ar y gweill ar gyfer pob un o’ch cyrsiau. Gallwch ddysgu mwy am far ochr y dangosfwrdd.

Gweld Cyhoeddiad Cyffredinol

Gweld Cyhoeddiad Cyffredinol

Efallai y bydd y Dangosfwrdd hefyd yn cynnwys cyhoeddiadau cyffredinol, sef cyhoeddiadau sy’n cael eu creu gan eich sefydliad. I dynnu’r cyhoeddiad o’ch dangosfwrdd, cliciwch yr eicon Tynnu.

Gweld Cyhoeddiad wedi’i Ddiystyru

Gweld Cyhoeddiad wedi’i Ddiystyru

Os byddwch chi’n diystyru cyhoeddiad cyffredinol, gallch chi wedi cyhoeddiadau wedi’u diystyru ar y dudalen Cyhoeddiadau Cyffredinol.

Newid Gwedd y Dangosfwrdd

Newid Gwedd y Dangosfwrdd

I newid eich Dangosfwrdd, cliciwch y ddewislen Opsiynau (Options) [1]. Gallwch chi weld y Dangosfwrdd yn Gwedd Cardiau (Card View) [2] neu Gwedd Gweithgarwch diweddar (Recent Activity View) [3]. Os ydy Canvas ar gyfer Cynradd wedi cael ei alluogi yn eich sefydliad, gallwch chi hefyd weld y Dangosfwrdd yn Gwedd Homeroom (Homeroom View) [4].