Sut ydw i’n anfon neges at bob myfyriwr yn seiliedig ar feini prawf cwrs penodol yn yr adran Dadansoddiadau Newydd?

Wrth edrych ar weithgaredd ar-lein wythnosol yn Dadansoddiadau Newydd (New Analytics), gallwch chi anfon neges at fyfyrwyr y mae eu graddau neu gyflwyniadau ymysg tri maen prawf penodol: graffau o fewn ystod canran penodol, aseiniadau sydd ar goll, neu aseiniadau hwyr. Mae derbynwyr y neges yn cael eu poblogi’n awtomatig yn seiliedig ar feini prawf penodol yn ogystal ag unrhyw hidlyddion sydd wedi’u gosod.

Mae maen prawf dewis yn cael ei roi i berfformiad myfyrwyr ar bob aseiniad. Mae dewis myfyriwr unigol yn seiliedig ar sgorau myfyriwr a statws cyflwyno.

Mae modd gweld negeseuon wedi’u hanfon yn y ffolder Wedi Anfon yn y Blwch Derbyn Sgyrsiau. Mae negeseuon sy’n cael eu hanfon at fwy nag un myfyriwr yn cael eu hanfon fel negeseuon unigol.

Os oes angen, gallwch chi hefyd anfon neges at fyfyriwr unigol.

Sylwch:

  • Os na allwch chi weld y ddolen Dadansoddiadau Newydd yn yr adran Crwydro’r Cwrs, efallai y bydd angen i chi wneud y tab yn weladwy drwy’r tab Crwydro yng Ngosodiadau’r Cwrs. Os nad yw’r ddolen Dadansoddiadau Newydd ar gael yn y tab Crwydro, mae eich sefydliad wedi analluogi’r nodwedd hon.
  • Mae data’n cael ei adnewyddu yn yr adran Dadansoddiadau Newydd bob 24 awr. Cadarnhewch yr amser y cafodd y data ei ddiweddaru ddiwethaf yn y cwrs, oherwydd gallai’r cynnwys fod yn hen o’i gymharu â chyflwyniadau myfyrwyr a gweithgarwch diweddar ar y cwrs.
  • Nid yw myfyrwyr yn gallu gweld Dadansoddiadau Newydd.
  • Er mwyn i’r adran Dadansoddiadau Newydd ymddangos yn Canvas, efallai y bydd angen i gwcis trydydd parti gael eu galluogi yng ngosodiadau eich porwr.

Agor Cwrs

Agor Cwrs

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyrsiau (Courses) [1], yna cliciwch enw’r cwrs [2].

Agor Dadansoddiadau Newydd

I agor Dadansoddiadau Newydd, cliciwch y ddolen Dadansoddiadau Newydd (New Analytics) yn yr adran Crwydro’r Cwrs [1] neu glicio’r botwm Dadansoddiadau Newydd (New Analytics) yn Nhudalen Hafan y Cwrs [2].

Nodyn: Os na allwch chi weld y ddolen Dadansoddiadau Newydd, efallai y bydd angen i chi wneud y tab yn weladwy drwy’r tab Crwydro yng Ngosodiadau’r Cwrs.

Agor Dadansoddiadau Gradd Cwrs

I weld dadansoddiadau gradd cwrs, cliciwch y tab Gradd Cwrs (Course Grade).

Anfon Neges at Fyfyrwyr sydd

Anfon Neges at Fyfyrwyr sydd

Mae derbynwyr y neges yn cael eu poblogi’n awtomatig yn seiliedig ar feini prawf penodol yn ogystal ag unrhyw hidlyddion sydd wedi’u gosod.

Os ydych chi eisiau hidlo dadansoddiadau ar gyfer myfyriwr, adran, neu aseiniad penodol, chwiliwch am a dewis yr hidlydd rydych chi am ei ddefnyddio yn y maes Hidlydd (Filter) [1]. Yna cliciwch yr eicon Neges [2].

Dewis Maen Prawf

Mae’r ffenestr Anfon Neges at Fyfyrwyr sydd yn defnyddio’r maen prawf Ystod Sgôr yn ddiofyn [1], sy’n gadael i chi anfon negeseuon at fyfyrwyr yn seiliedig ar ystod canran gradd bresennol benodol yn y cwrs.

Mae’r maes Ystod yn pennu’r ystod canran o nodwyd [2], ac mae’r maes BCC yn dangos nifer y myfyrwyr sydd o fewn yr ystod a nodwyd [3]. Yn ddiofyn, mae’r maes Ystod yn dangos 0 i 100%, felly mae’r maes BCC yn cynnwys pob myfyriwr ar y cwrs. Yn ogystal, yn awtomatig, mae unrhyw hidlyddion yn y dudalen dadansoddiadau’n ymddangos fel y derbynydd iawn ar gyfer y neges. Os nad oes hidlyddion wedi’u gosod, mae’r neges yn ymddangos fel ei fod yn cael ei anfon i bob adran.

I ddewis ystod newydd, rhowch gaanran gradd bresennol isaf ac uchaf yn y meysydd canran [4]. Mae’r maes BCC yn dangos y nifer cyfredol o fyfyrwyr a/neu adrannau sydd â chanrannau graddau yn yr ystod a nodwyd [5].

Dewiswch Gyflwyniadau Hwyr neu Ar Goll

Nid yw’r opsiynau maen prawf Ar Goll a Hwyl yn cynnwys unrhyw feini prawf ychwanegol. Mae myfyrwyr sydd wedi’u dewis yn seiliedig ar statws cyflwyno, ac mae nifer y myfyrwyr sydd wedi’u heffeithio yn ymddangos yn y maes BCC. Eto, mae unrhyw hidlyddion sydd wedi’u cynnwys yn y dudalen dadansoddiadau hefyd yn ymddangos fel derbynwyr iawn.

Nodyn: Pan fyddwch chi’n anfon neges at fyfyriwr sydd ag aseiniad ar goll, dim ond os yw dyddiad erbyn yr aseiniad wedi bod y bydd yr adran Dadansoddiadau Newydd yn dangos myfyrwyr.

Gwirio Derbynwyr

Gwirio Derbynwyr

Ar gyfer unrhyw faen prawf, gallwch chi reoli’r defnyddwyr a bydd yn derbyn y neges, os oes angen. Cliciwch y ddolen sy’n cynnwys nifer y myfyrwyr [1], yna edrych ar y maes BCC sydd wedi’i ehangu [2].

I dynnu myfyriwr o’r neges, cliciwch eicon Tynnu y myfyriwr [3].

Ailosod Enwau

I ailosod enwau myfyrwyr yn ôl i’r rhestr a nodwyd yn wreiddiol, cliciwch y ddolen Ailosod Enwau (Reset Names).

Anfon Neges

Anfon Neges

Yn y maes Pwnc (Subject) [1], rhowch bwnc ar gyfer eich neges.

Yn y maes Neges (Message) [2], rhowch ddisgrifiad o’ch neges.

Cliciwch y botwm Anfon (Send) [3].