Sut ydw i’n defnyddio’r golofn Cyfanswm yn y Llyfr Graddau?

Mae’r golofn Cyfanswm yn y Llyfr Graddau yn dangos cyfanswm yr holl aseiniadau sydd wedi’u graddio yn y cwrs, gan gynnwys aseiniadau gyda graddau wedi’u cuddio.

Gallwch chi addasu’r golofn Cyfanswm yn eich Llyfr Graddau. Gellir symud y golofn Cyfanswm i flaen y Llyfr Graddau neu ei threfnu i ddangos graddau mewn trefn esgynnol neu ddisgynnol. Gallwch chi newid graddau cyflawn eich myfyrwyr o ganran i werth pwynt yn y Llyfr Graddau. Yn ddiofyn mae graddau cyflawn yn cael eu dangos fel canran gyda dau e degol.

Sylwch:

  • Dim ond os ydych chi'n defnyddio grwpiau aseiniadau heb eu pwysoli ar eich cwrs y mae modd gweld graddau cyflawn fel gwerth pwynt. Pan fo grwpiau aseiniadau wedi’u pwysoli, nid oes modd dangos pwyntiau ar gyfer y radd gyflawn.
  • Gall gweld y golofn Cyfanswm yn y Llyfr Graddau fod wedi ei gyfyngu, os oes mwy nag un cyfnod graddio wedi’i alluogi. Mae’r nodwedd hon hefyd yn cyfyngu ar weld y radd gyflawn yn nhudalen Graddau’r myfyriwr.
  • Pan fo Mwy nag un Cyfnod Graddio wedi’i alluogi mewn cwrs a bod y cyfnodau graddio wedi’u pwysoli, nid oes modd dangos pwyntiau ar gyfer y radd gyflawn.
  • Os nad ydych chi’n gweld y golofn Cyfanswm (Total), efallai fod y golofn wedi’i chuddio. Dysgwch fwy am opsiynau gweld yn y Llyfr Graddau (Gradebook).

Agor Graddau

Agor Graddau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Graddau (Grades).

Agor Dewislen y Golofn Cyfanswm

Agor Dewislen y Golofn Cyfanswm

Hofrwch dros bennawd y golofn Cyfanswm a chlicio’r ddewislen Rhagor o Opsiynau (More Options).

Trefnu’r Golofn Cyfanswm

Trefnu’r Golofn Cyfanswm

I drefnu’r Llyfr Graddau yn ôl graddau cyflawn o’r isaf i’r uchaf neu o’r uchaf i’r isaf, cliciwch y ddolen Trefnu yn ôl (Sort by) [1], yna dewis yr opsiwn Gradd - Isaf i Uchaf (Grade - Low to High) neu Gradd - Uchaf i Isaf (Grade - High to Low) [2].

Newid i Bwyntiau

Newid i Bwyntiau

Yn ddiofyn mae graddau cyflawn yn cael eu dangos fel canran gyda dau e degol.

Os yw eich cwrs yn defnyddio grwpiau aseiniadau heb eu pwysoli, gallwch chi weld graddau cyflawn eich myfyrwyr fel pwyntiau. Cliciwch y ddolen Dangos fel Pwyntiau (Display as Points).

Gweld Rhybudd Pwyntiau

Mae Canvas yn cadarnhau eich bod chi eisiau newid i’r wedd gradd gyflawn. Os nad ydych chi eisiau gweld y neges rhybudd hon ar gyfer eich cwrs eto, cliciwch y blwch ticio Peidiwch â dangos... (Don't show...) [1].

Cliciwch y botwm Bwrw ymlaen [2].

Newid i Ganrannau

Newid i Ganrannau

Gallwch chi newid yn ôl i ganrannau drwy glicio’r eicon dewislen Cyfanswm a dewis Dangos fel Canran (Display as Percentage).

Symud y Golofn Cyfanswm

Symud y Golofn Cyfanswm

I symud y golofn Cyfanswm i flaen y Llyfr Graddau, cliciwch y ddolen Symud i’r Blaen (Move to Front).

Anfon Neges at Fyfyrwyr sydd

Anfon Neges at Fyfyrwyr sydd

I anfon neges at grŵp o fyfyrwyr yn seiliedig ar eu graddau, cliciwch y ddolen Anfon Neges at Fyfyrwyr sydd (Message Students Who).

Dewis Derbynwyr Neges

Dewiswch grŵp o ddefnyddwyr i gael y neges. Yn ddiofyn, mae’r neges hon ar gyfer myfyrwyr sydd wedi cael Cyfanswm gradd sy’n uwch na (Total grade higher than) yr Isafswm.

I anfon y neges at fyfyrwyr y mae eu cyfanswm gradd yn is na’r rhif, cliciwch y gwymplen Ar gyfer myfyrwyr sydd (For students who) [1], a dewiswch yr opsiwn Cyfanswm gradd sy’n is na (Total grade lower than).

Rhowch radd canran yn y maes Isafswm (Cutoff Value) [2].

I ddewis neu ddad-ddewis defnyddwyr gyda rôl benodol, cliciwch ar y blychau yn y maes Anfon Neges At (Send Message To) [3].

I weld, ychwanegu neu dynnu defnyddwyr penodol, cliciwch y ddolen Dangos pob derbynnydd (Show all recipients) [4].

Rhoi Cynnwys Neges

Yn ddiofyn, bydd y pwnc yn neges sy’n seiliedig ar eich dewisiadau. I olygu’r pwnc, rhowch bwnc gwahanol yn y maes Pwnc [1].

Teipiwch neges i’r myfyrwyr yn y maes Neges [2].

I atodi ffeil i’r neges, cliciwch y botwm Atodi (Attach) [3].

I greu recordiad cyfryngau neu i lwytho ffeil cyfryngau i fyny, cliciwch yr eicon Cyfryngau (Media) [4].

I anfon y neges, cliciwch y botwm Anfon (Send) [5].

Nodiadau: