Sut ydw i’n defnyddio’r Dudalen Mynegai Cyhoeddiadau?

Gallwch weld holl gyhoeddiadau eich cwrs yn y Dudalen Mynegai Cyhoeddiadau. Fel addysgwr, gallwch chi hefyd greu cyhoeddiadau ac addasu gosodiadau cyhoeddiadau. Os ydych chi wed galluogi Ailddylunio Cyhoeddiadau yn eich cwrs, bydd eich cyhoeddiadau yn ymddangos yn y rhyngwyneb Ailddylunio Cyhoeddiadau.

Dysgu mwy am Gyhoeddiadau.

Dysgu mwy am Ailddylunio Cyhoeddiadu.

Agor Cyhoeddiadau

Agor Cyhoeddiadau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Cyhoeddiadau (Announcements).

Gweld Tudalen Mynegai

Mae’r dudalen Mynegai Cyhoeddiadau wedi’i dylunio gyda gosodiadau cyffredinol ar frig y dudalen [1], yna'r cyhoeddiadau unigol [2].

Gweld Gosodiadau Cyffredinol

Mae gosodiadau cyffredinol yn cynnwys cwymplen i hidlo pob cyhoeddiad neu rai heb eu darllen [1] a maes chwilio ar gyfer chwilio am gyhoeddiad [2]. Gallwch chi hefyd ychwanegu cyhoeddiad newydd [3] a gweld crynodebau allanol ar gyfer cyhoeddiadau [4]. Mae crynodebau allanol yn cynnwys ychwanegu crynodeb allanol a thanysgrifio i grynodeb RSS y Cyhoeddiadau (Announcements RSS).

Gweld Cyhoeddiadau

Caiff cyhoeddiadau eu rhoi mewn trefn gronolegol o chwith, gyda’r Cyhoeddiadau diweddaraf yn ymddangos gyntaf a’r rhai hŷn yn ymddangos tuag at y gwaelod.

Mae pob cyhoeddiad yn cynnwys enw’r cyhoeddiad [1], llun proffil y defnyddiwr a bostiodd y cyhoeddiad [2], dangosydd wrth gyhoeddiadau sydd heb eu darllen [3], y dyddiad y cafodd y cyhoeddiad ei bostio [4], nifer yr atebion sydd heb eu darllen/cyfanswm yr atebion yn y cyhoeddiad [5] ac eicon opsiynau i reoli gosodiadau cyhoeddiad unigol [6].

Nodiadau:

  • Mae llun proffil sy’n dangos y llythyren U yn hytrach na llun proffil defnyddiwr yn dangos bod y cyhoeddiad wedi’i fewngludo gan ddefnyddio copi o gwrs, yr Adnodd Mewngludo Cwrs neu gwrs glasbrint. Nid yw cyhoeddiadau sydd wedi’u copïo yn cynnwys dyddiad nac amser postio chwaith.
  • Os nad oes gan ddefnyddiwr lun proffil, bydd llythrennau blaen y defnyddiwr i’w gweld yn lle llun proffil.

Rheoli Cyhoeddiadau

I weithredu mewn swp, fel cloi neu ddileu, cliciwch y blwch ticio wrth y cyhoeddiad [1]. I gloi pob cyhoeddiad sydd wedi'i ddewis er mwyn gwneud sylwadau, cliciwch y botwm Cloi (Lock) [2]. I ddileu’r holl gyhoeddiadau sydd wedi’u dewis, cliciwch y botwm Dileu (Delete) [3].

Rheoli Cyhoeddiadau Unigol

I gael gweld cyhoeddiad, cliciwch enw’r cyhoeddiad [1].

Gallwch chi hefyd ddefnyddio’r eicon opsiynau i ddileu’r cyhoeddiad [2]. Os yw eich cwrs yn caniatáu sylwadau, gallwch chi hefyd ddewis caniatáu neu beidio â chaniatáu sylwadau [3].

Gweld y Wedd Myfyrwyr

I weld y dudalen mynegai cyhoeddiadau fel myfyrier, cliciwch y botwm Gwedd Myfyriwr (Student View).

Nodyn: Os ydy’r ddolen crwydro’r cwrs ar gyfer y dudalen wedi’i hanalluogi ac wedi’i chuddio rhag myfyrwyr, ni fydd y botwm Gwedd Myfyriwr yn ymddangos.