Sut ydw i'n creu cwis gyda grŵp cwestiynau wedi’i gysylltu â banc cwestiynau?

Gallwch greu cwis drwy ddefnyddio Grŵp Cwestiynau sy’n gysylltiedig â Banc Cwestiynau.

Pan fyddwch chi'n cysylltu'r Banc Cwestiynau â Grŵp Cwestiynau, byddwch chi’n gweld yr holl Fanciau Cwestiynau rydych chi wedi’u creu yn yr un cwrs, a’r rheini sydd â nod tudalen mewn cyrsiau eraill lle rydych chi’n Addysgwr. Byddwch chi hefyd yn gweld Banciau Cwestiynau sydd wedi’u hychwanegu gan eich gweinyddwr at eich isgyfrif, sy’n golygu ei bod hi’n hawdd i addysgwyr sydd yn yr un adran neu raglen rannu adnoddau.

Bydd Canvas yn cynnwys y banc cwestiynau rydych chi wedi’i ddewis wrth i bob myfyriwr wneud y cwis. Bydd pob myfyriwr yn cael nifer penodol o gwestiynau wedi’u dewis ar hap o’r banc. Mae nifer y cwestiynau a gwerth pwynt pob cwestiwn yn cael eu penodi pan fydd y grŵp cwestiynau'n cael ei greu. Er enghraifft, os ydych chi am ddefnyddio cwestiynau o’r Adran Saesneg a bod gan yr adran honno 7 cwestiwn yn ei Banc Cwestiynau, ond nad ydych chi am i’r Grŵp Cwestiynau arddangos mwy na 2 gwestiwn, bydd Canvas yn dewis 2 o’r 7 cwestiwn ar hap wrth i bob myfyriwr wneud y cwis.

Os ydych chi am i’ch cwestiynau ymddangos mewn trefn benodol, dylech ychwanegu cwestiynau unigol neu ddod o hyd i gwestiynau yn hytrach na chreu grŵp cwestiynau.

Nodiadau:

  • Wrth gysylltu banc cwestiynau â chwis, rhaid i chi wneud newidiadau yn y banc cwestiynau cyn y bydd modd gwneud y cwis. Er y gallwch wneud newidiadau i’r banc cwestiynau ar ôl cyhoeddi cwis, ni fydd y myfyrwyr sydd eisoes wedi agor neu gwblhau'r cwis yn gweld y newidiadau, a gallai hynny effeithio ar eu graddau. Bydd y myfyrwyr sy'n dechrau eu cwis ar ôl i’r newidiadau gael eu gwneud yn gweld eich diweddariadau.
  • Ni fydd Cwestiynau sydd wedi’u cysylltu â Banc Cwestiynau yn gallu cael eu hailraddio oherwydd bod modd eu defnyddio mewn mwy nag un cwis.
  • Pan fo’r opsiwn nodwedd Cwisiau Newydd yn Ddiofyn wedi’i alluogi, does dim modd i chi greu Cwisiau Clasurol newydd. Ond, gallwch chi barhau i olygu, mewngludo a mudo Cwisiau Clasurol sy’n bodoli’n barod i Gwisiau Newydd.

Agor Cwisiau

Agor Cwisiau

Yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs (Course Navigation), cliciwch y ddolen Cwisiau (Quizzes).

Ychwanegu Cwis

Ychwanegu Cwis

Cliciwch y botwm Ychwanegu Cwis (Add Quiz).

Dewis Peiriant Cwis

Dewis Peiriant Cwis

Os oes gan eich cwrs New Quizzes wedi’u galluogi, rhaid i chi ddewis peiriant cwis.

I ddewis New Quizzes, cliciwch yr opsiwn New Quizzes [1].

I greu cwis clasurol, cliciwch yr opsiwn Classic Quizzes [2].

I gadw eich dewis o beiriant cwis ar gyfer y cwrs hwn, cliciwch y blwch ticio Cofio fy newis ar gyfer y cwrs hwn (Remember my choice for this course) [3].

Yna cliciwch y botwm Cyflwyno (Submit) [4].

Nodiadau:

Golygu Manylion Cwis

Yn y tab Manylion, rhowch enw eich cwis [1]. Yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog [2], cyflwynwch eich cwis gyda delweddau, fideo, samplau o hafaliadau mathemategol, neu destun wedi’i fformatio. Gallwch hyd yn oed ddefnyddio’r adnodd gwneud sylw ar gyfryngau i recordio rhagarweiniad i'r cwis.

Llenwch weddill manylion y cwis [3].

Ychwanegu Grŵp Cwestiynau Newydd

Ychwanegu Grŵp Cwestiynau Newydd

Cliciwch y tab Cwestiynau [1]. Cliciwch y botwm Grŵp Cwestiynau Newydd [2].

Creu Manylion Grŵp

Creu Manylion Grŵp

Rhowch enw i’ch grŵp cwestiynau [1]. Penderfynwch faint o gwestiynau rydych chi am i Canvas eu dewis ar hap o’r grŵp [2] a nifer y pwyntiau sy'n cael eu neilltuo ar gyfer pob cwestiwn [3].

Nid yw grwpiau cwestiynau cwis yn cael eu henwi’n awtomatig ar gyfer addysgwyr. I ychwanegu enw personol i grŵp cwestiynau eich cwis, rhowch yr enw ym maes testun y grŵp. Gall enwau personol eich helpu chi i ganfod grwpiau cwestiynau’r cwis yn haws.

Ni waeth beth yw enw’r grŵp cwestiynau, bydd y myfyrwyr bob amser yn gweld cwestiynau’r cwis mewn trefn rifol (hy Cwestiwn 1, Cwestiwn 2).

Nodyn:

  • Mae gwerthoedd pwynt cwis yn gallu delio â hyd at ddau le degol. Os byddwch chi’n rhoi mwy na dau le degol, bydd gwerth y pwynt yn cael ei dalgrynnu i’r canfed agosaf.
  • Os ydych chi’n gofyn i grŵp cwestiynau ddewis cwestiynau ar hap o’r banc cwestiynau, ni fydd y banc cwestiynau na'r cwestiynau’n cael eu cynnwys ym mhrosesau allgludo'r cwis. Bydd y ffeil QTI yn llwytho manylion y cwis i lawr, ond ni fydd unrhyw gwestiynau’n cael eu cynnwys.

Dod o hyd i Fanc Cwestiynau

Dod o hyd i Fanc Cwestiynau

Dewiswch y banc cwestiynau rydych chi am gyfeirio ato yn eich cwis [1]. Cliciwch y botwm Dewis Banc [2].

Creu Grŵp

Creu Grŵp

Dylech gadarnhau bod eich Banc Cwestiynau wedi’i gysylltu â'r grŵp cwestiynau [1]. Cliciwch y botwm Creu Grŵp [2].

Addasu Grŵp Cwestiynau

Addasu Grŵp Cwestiynau

I newid nifer y cwestiynau a fydd yn cael eu dewis o’r grŵp neu i newid y pwyntiau sydd wedi’u neilltuo, cliciwch yr eicon Golygu [1]. I ddileu’r grŵp cwestiynau, cliciwch yr eicon Dileu [2].

Cadw Cwis

Cadw Cwis

Cliciwch y botwm Cadw i gadw eich gwaith ac i weld rhagolwg o’r cwis.

Nodyn: Ni ddylech gyhoeddi eich cwis nes eich bod wedi’i gwblhau’n derfynol. Os ydych chi’n barod i gyhoeddi eich cwis a’i ddarparu i fyfyrwyr, cliciwch y botwm Cadw a Chyhoeddi (Save & Publish).

Gweld Rhagolwg a Chyhoeddi Cwis

Gweld Rhagolwg a Chyhoeddi Cwis

Cliciwch y botwm Rhagolwg [1] i weld yr hyn fydd y myfyrwyr yn ei weld wrth wneud y cwis. Os ydych chi’n fodlon ar y rhagolwg o’r cwis, cliciwch y botwm Cyhoeddi (Publish) [2].

Nodyn: Er y gallwch wneud newidiadau i’r cwis ar ôl ei gyhoeddi, ni fydd y myfyrwyr sydd eisoes wedi agor neu gwblhau’r cwis yn gweld y newidiadau, a gallai hynny effeithio ar eu graddau.