Sut ydw i’n defnyddio’r Maes Llafur fel addysgwr?

Mae’r Maes Llafur yn Canvas yn ei gwneud hi’n hawdd dweud wrth eich myfyrwyr beth yn union fydd angen iddyn nhw ei wneud drwy gydol y cwrs, a hynny mewn trefn gronolegol. Hefyd, gallwch osod y maes llafur yn dudalen hafan y cwrs.

Gallwch ddewis gwneud eich maes llafur yn gyhoeddus er mwyn i bobl nad ydynt wedi ymrestru ar eich cwrs allu gweld rhagor o wybodaeth am y cwrs. Mae modd gweld maes llafur cyhoeddus fel rhan o gwrs preifat pan fyddwch chi’n anfon dolen at fyfyriwr, neu os yw'r cwrs wedi'i restru yn y mynegai o gyrsiau cyhoeddus.

Mae’r Crynodeb Cwrs yn cael ei gynhyrchu’n awtomatig yn seiliedig ar aseiniadau cwrs a digwyddiadau yng nghalendr y cwrs. Gallwch chi ddewis analluogi’r Crynodeb Cwrs. Dim ond drwy olygu neu ddileu’r aseiniadau neu’r digwyddiadau mae modd newid eitemau yn y Crynodeb Cwrs. Mae pob aseiniad (heb ei gyhoeddi ac wedi’i gyhoeddi) wedi'i restru yn y maes llafur ar gyfer addysgwyr.

Agor Maes Llafur

Agor Maes Llafur

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Maes Llafur (Syllabus).

Gweld Maes Llafur

Mae'r maes llafur yn cynnwys disgrifiad o’r maes llafur [1], y Crynodeb Cwrs [2], a’r bar ochr [3].

Gweld Disgrifiad o’r Maes Llafur

Gweld Disgrifiad o’r Maes Llafur

Yn y disgrifiad o’r maes llafur, gallwch bostio disgrifiad o'ch cwrs, cyflwyniad byr, canllawiau dosbarth, negeseuon atgoffa wythnosol, a gwybodaeth bwysig arall. Gallwch gopïo cynnwys yn syth o ddogfennau Word i'r Golygydd Cynnwys Cyfoethog, neu gallwch greu cynnwys gwreiddiol yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog.

Hefyd, gallwch greu cyswllt â'ch Maes Llafur drwy ei lwytho i fyny i Ffeiliau’r Cwrs ar ffurf PDF a phlannu’r ddogfen yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog. Bydd Canvas yn creu rhagolwg o’ch dogfen yn awtomatig fel nad oes rhaid i’ch myfyrwyr ei lwytho i lawr cyn ei ddarllen.

I olygu’r Maes Llafur, cliciwch y botwm Golygu (Edit) .

Gweld Crynodeb Cwrs

Gweld Crynodeb Cwrs

Caiff y Crynodeb Cwrs ei greu’n awtomatig ar gyfer y cwrs ac mae’n cynnwys rhestr o aseiniadau cwrs a digwyddiadau calendr cwrs. Mae eicon Aseiniadau yn dangos yr aseiniadau [1], ac mae'r eicon Calendr yn dangos y digwyddiadau [2]. Mae eitemau heb eu graddio sydd â dyddiad i’w gwneud yn dangos y dyddiad i’w gwneud [3]. Mae pob aseiniad (heb ei gyhoeddi ac wedi’i gyhoeddi) wedi'i restru yn y maes llafur ar gyfer addysgwyr, ond dim ond aseiniadau sydd wedi’u cyhoeddi y bydd myfyrwyr yn eu gweld.

Mae modd newid yr eitemau dyddiedig yn y nodweddion Aseiniadau (Assignments) a’r Calendr (Calendar), a byddan nhw’n cael eu diweddaru’n awtomatig yn y Maes Llafur.

Cliciwch y teitl i weld manylion yr aseiniad neu’r digwyddiad. Bydd unrhyw aseiniadau neu ddigwyddiadau sydd wedi mynd heibio’r dyddiad erbyn i’w gweld mewn llwyd. Mae eitemau heb ddyddiad [3] wedi’u rhestru yn nhrefn yr wyddor.

Mae’r Crynodeb Cwrs wedi’i alluogi’n ddiofyn. Dysgu sut i analluogi’r Crynodeb Cwrs.

Gweld Cylchfaoedd Amser

Gweld Cylchfaoedd Amser

Os ydych chi wedi gosod cylchfa amser benodol yn eich Gosodiadau Defnyddiwr, bydd holl ddyddiadau ac amseroedd cyrsiau yn ymddangos yn eich amser lleol, ond os byddwch chi'n hofran dros yr amser, gallwch weld dyddiad ac amser y cwrs hefyd.

Gweld Bar Ochr

Gweld Bar Ochr

Mae’r adran bar ochr yn dangos gwybodaeth am raddau a digwyddiadau cyrsiau. Mae modd golygu gwybodaeth am grŵp o aseiniadau yn y nodwedd Aseiniadau ac mae modd golygu gwybodaeth y Calendr yn y nodweddion Aseiniadau a'r Calendr. Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu hadlewyrchu yn yr adran Crynodeb Cwrs o’r Maes Llafur.

Mae’r bar ochr yn cynnwys calendr bach [1]. Bydd gan unrhyw ddyddiad sy’n cynnwys dyddiad erbyn aseiniad neu ddigwyddiad gefndir llwyd. I weld aseiniad neu ddigwyddiad cysylltiedig yn y Crynodeb Cwrs, cliciwch y dyddiad ar y calendr.

Os yw eich cwrs yn cynnwys grwpiau aseiniad wedi’u pwysoli, bydd y bar ochr yn dangos canrannau pob grŵp hefyd [2].

Gweld y Wedd Myfyrwyr

I weld y maes llafur fel myfyriwr, cliciwch y botwm Gweld fel Myfyriwr (View as Student).

Sylwch: Os ydy’r ddolen crwydro’r cwrs ar gyfer y dudalen wedi’i hanalluogi ac wedi’i chuddio rhag myfyrwyr, ni fydd y botwm Gweld fel Myfyriwr yn ymddangos.