Sut ydw i’n creu cwis gyda grŵp cwestiynau er mwyn trefnu cwestiynau cwis ar hap?

Gallwch greu cwis drwy ddefnyddio grŵp cwestiynau. Mae grwpiau cwestiynau'n eich galluogi chi i osod nifer o gwestiynau mewn grŵp i’r myfyrwyr eu hateb. Gallwch ddewis nifer y cwestiynau y dylid eu hateb o’r grŵp yn ogystal â dewis faint o bwyntiau sydd i gael eu neilltuo ar gyfer pob cwestiwn. Pan fyddwch chi’n creu grŵp cwestiynau, bydd y cwestiynau’n cael eu trefnu ar hap mewn cwis.

Mae sawl ffordd y gallwch chi ychwanegu cwestiynau at eich grŵp cwestiynau:

  • Cysylltu â banc cwestiynau i gynnwys yr holl gwestiynau mewn banc cwestiynau
  • Ychwanegu cwestiwn unigol i greu eich cwestiynau eich hun o’r dechrau
  • Dod o hyd i gwestiynau i gynnwys cwestiynau penodol o fanc cwestiynau

Nodiadau:

  • Os ydych chi am i'ch cwestiynau ymddangos mewn trefn benodol, peidiwch â gosod cwestiynau cwis mewn grŵp cwestiynau.
  • Pan mae’r opsiwn nodwedd Analluogi Creu Cwisiau Clasurol wedi’i alluogi, does dim modd i chi greu Cwisiau Clasurol newydd. Ond, gallwch chi barhau i olygu, mewngludo a mudo Cwisiau Clasurol sy’n bodoli’n barod i Gwisiau Newydd.

Agor Cwisiau

Agor Cwisiau

Yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs (Course Navigation), cliciwch y ddolen Cwisiau (Quizzes).

Ychwanegu Cwis

Ychwanegu Cwis

Cliciwch y botwm Ychwanegu Cwis (Add Quiz).

Dewis Peiriant Cwis

Dewis Peiriant Cwis

Os oes gan eich cwrs New Quizzes wedi’u galluogi, rhaid i chi ddewis peiriant cwis.

Cliciwch yr opsiwn Cwisiau Clasurol (Classic Quizzes) [1].

Yna cliciwch y botwm Cyflwyno (Submit) [2].

Nodyn: 

Golygu Manylion Cwis

Yn y tab Manylion, rhowch enw eich cwis [1]. Yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog [2], cyflwynwch eich cwis gyda delweddau, fideo, samplau o hafaliadau mathemategol, neu destun wedi’i fformatio. Gallwch hyd yn oed ddefnyddio’r adnodd gwneud sylw ar gyfryngau i recordio rhagarweiniad i'r cwis.

Llenwch weddill manylion y cwis [3].

Ychwanegu Grŵp Cwestiynau Newydd

Ychwanegu Grŵp Cwestiynau Newydd

Cliciwch y tab Cwestiynau [1]. Cliciwch y botwm Grŵp Cwestiynau Newydd [2].

Creu Manylion Grŵp

Creu Manylion Grŵp

Rhowch enw i’ch grŵp cwestiynau [1]. Nid yw grwpiau cwestiynau cwis yn cael eu henwi’n awtomatig ar gyfer addysgwyr. I ychwanegu enw personol i grŵp cwestiynau eich cwis, rhowch yr enw ym maes testun y grŵp. Gall enwau personol eich helpu chi i ganfod grwpiau cwestiynau’r cwis yn haws.

Ni waeth beth yw enw’r grŵp cwestiynau, bydd y myfyrwyr bob amser yn gweld cwestiynau’r cwis mewn trefn rifol (hy Cwestiwn 1, Cwestiwn 2).

Penderfynwch faint o gwestiynau rydych chi am i Canvas eu dewis ar hap o’r grŵp [2] a nifer y pwyntiau sy'n cael eu neilltuo ar gyfer pob cwestiwn [3].

Nodyn: Mae gwerthoedd pwynt cwis yn gallu delio â hyd at ddau le degol. Os byddwch chi’n rhoi mwy na dau le degol, bydd gwerth y pwynt yn cael ei dalgrynnu i’r canfed agosaf.

Creu Grŵp

Creu Grŵp

Cliciwch y botwm Creu Grŵp (Create Group).

Ychwanegu Cwestiwn Unigol at Grŵp

Ychwanegu Cwestiwn Unigol at Grŵp

I ychwanegu cwestiynau unigol at y grŵp, cliciwch yr eicon Ychwanegu.

Dod o Hyd i Gwestiynau o Fanc Cwestiynau

Dod o Hyd i Gwestiynau o Fanc Cwestiynau

Hefyd, gallwch ddod o hyd i gwestiynau o fanc cwestiynau sydd eisoes yn bodoli a’u hychwangu at y grŵp cwestiynau.

Addasu Grŵp Cwestiynau

Addasu Grŵp Cwestiynau

I newid nifer y cwestiynau a fydd yn cael eu dewis o’r grŵp neu i newid y pwyntiau sydd wedi’u neilltuo, cliciwch yr eicon Golygu [1]. I ddileu’r grŵp cwestiynau, cliciwch yr eicon Dileu [2].

Nodyn: Nid yw newidiadau i grwpiau cwestiynau yn cael eu cadw nes bod y cwis yn cael ei gadw.

Gweld Neges Rhybudd Grŵp Cwestiynau

Wrth greu grŵp cwestiynau o fewn y cwis, efallai y byddwch chi’n gweld neges rhybudd yn nodi bod y grŵp cwestiynau yn mynd i ddewis mwy o gwestiynau nac sydd ar gael. Gallwch chi ychwanegu rhagor o gwestiynau at y banc cwestiynau rydych chi’n tynnu cwestiynau ohono neu ychwanegu cwestiynau unigol nes bod nifer y cwestiynau yn fwy neu’n hafal â nifer y cwestiynau sy’n cael eu dewis.

Nodyn: Bydd y neges hon yn aros ar y sgrin nes eich bod chi wedi cadw’r cwis.

Cadw Cwis

Cadw Cwis

Cliciwch y botwm Cadw i gadw eich gwaith ac i weld rhagolwg o’r cwis.

Nodyn: Ni ddylech gyhoeddi eich cwis nes eich bod wedi’i gwblhau’n derfynol. Os ydych chi’n barod i gyhoeddi eich cwis a’i ddarparu i fyfyrwyr, cliciwch y botwm Cadw a Chyhoeddi (Save & Publish).

Cyhoeddi Cwis

Cyhoeddi Cwis

I gyhoeddi’r cwis, cliciwch y botwm Cyhoeddi (Publish) [1].

I neilltuo’r cwis i bawb, adran o gwrs, neu fyfyriwr unigol, cliciwch y botwm Rhoi I (Assign To) [2].

Nodyn: Er y gallwch wneud newidiadau i’r cwis ar ôl ei gyhoeddi, ni fydd y myfyrwyr sydd eisoes wedi agor neu gwblhau’r cwis yn gweld y newidiadau, a gallai hynny effeithio ar eu graddau.