Mae modd defnyddio cynlluniau graddau’n benodol gydag aseiniadau unigol. Mae pob aseiniad yn cynnwys maes sy’n gadael i chi ddewis sut mae’r radd yn cael ei dangos yn y Llyfr Graddau ac ar dudalen Graddau’r myfyriwr. Gallwch ddysgu sut mae galluogi cynllun graddau ar gyfer aseiniad.
Ar gyfer Cynllun Gradd Llythyren (Letter Grade Schemes), gallwch roi sgorau yn y Llyfr Graddau yn dibynnu ar y math o ddull o ddangos ar gyfer yr aseiniad:
- Ar gyfer unrhyw fath o aseiniad, gallwch chi roi graddau fel pwyntiau neu fel canran. Er enghraifft, os yw aseiniad yn werth 10 pwynt a bod y myfyriwr yn ennill 9 pwynt, gallwch roi 9 neu 90% (a fydd yn dangos y radd sydd wedi'i diffinio yn yr ystod o ganrannau).
- Pan fydd y dull o ddangos gradd aseiniad wedi’i osod yn benodol ar Radd Llythyren, gallwch chi hefyd roi gradd llythyren yn syth, fel A-.
Ar gyfer Cynlluniau Perfformiad (Performance schemes), gallwch roi sgorau yn y Llyfr Graddau yn ôl pwyntiau, canran, neu werth perfformiad. Er enghraifft, os yw aseiniad yn werth 10 pwynt a bod y myfyriwr yn ennill 9 pwynt, gallwch roi 9 neu 90% (a fydd yn dangos y perfformiad sydd wedi'i ddiffinio yn yr ystod o ganrannau). Mae modd rhoi gwerth perfformiad yn uniongyrchol hefyd.
Nodyn: Dydy cynlluniau graddau ddim yn berthnasol i golofnau Grŵp Aseiniadau yn y Llyfr Graddau.