Sut ydw i’n anfon neges at ddefnyddiwr mewn cwrs yn y Blwch Derbyn fel addysgwr?

Yn yr adran Blwch Derbyn, gallwch anfon neges at un defnyddiwr neu fwy nag un defnyddiwr mewn cwrs.

Os yw eich rhestr derbynwyr yn cynnwys mwy na 100 o ddefnyddwyr, bydd eich neges yn cael ei hanfon yn awtomatig fel neges unigol at bob defnyddiwr. Byddwch chi, fel yr anfonwr, hefyd yn cael eich cynnwys yng nghyfanswm y derbynwyr.

Nodiadau:

  • Ni allwch anfon negeseuon at ddefnyddwyr mewn mwy nag un cwrs ar hyn o bryd.
  • Gallwch hefyd anfon neges atoch chi eich hun, ond dim ond yn y ffolder Negeseuon a Anfonwyd y bydd modd gweld y negeseuon hyn.
  • Bydd defnyddwyr yn ymddangos yn yr adran sgyrsiau ar ôl iddyn nhw ymrestru ar y cwrs, ac ni all defnyddwyr ymuno â chwrs oni bai ei fod wedi'i gyhoeddi.
  • Ar ôl i gwrs ddod i ben, ni fyddwch yn gallu anfon negeseuon at fyfyrwyr ar y cwrs hwnnw mwyach. Fodd bynnag, gallwch chi ymateb i negeseuon gan ddefnyddwyr sydd â rolau Athro, Cynorthwyydd Dysgu a Dylunydd mewn cyrsiau sydd wedi dirwyn i ben.

Agor Blwch Derbyn

Agor Blwch Derbyn

Yn y ddewislen Crwydro’r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Blwch Derbyn (Inbox).

Creu Neges

Cliciwch yr eicon Creu.

Dewis Cwrs

Dewis Cwrs

Yn y gwymplen Cyrsiau (Courses), dewiswch i ba gwrs rydych chi am anfon eich neges.

Ychwanegu Defnyddiwr

Ychwanegu Defnyddiwr

I ychwanegu defnyddiwr, gallwch chwilio am y defnyddiwr yn y maes At [1] neu gallwch ddefnyddio’r Llyfr Cyfeiriadau[2].

Chwilio am Ddefnyddiwr

Chwilio am Ddefnyddiwr

I chwilio am ddefnyddiwr, teipiwch enw'r defnyddiwr yn y maes At (To). Bydd Canvas yn nodi’n awtomatig yr enwau sy’n cyfateb. Os bydd mwy nag un enw yn ymddangos, defnyddiwch y bysellau saeth i ddewis enw'r defnyddiwr. Wedyn pwyswch y fysell Enter. Bydd enw’r defnyddiwr yn ymddangos yn y maes At (To), mewn lliw glas golau.

Os byddwch chi’n dewis y defnyddiwr anghywir mewn camgymeriad, pwyswch y fysell Dileu (Delete) neu’r fysell Backspace ar fysellfwrdd MAC neu PC i dynnu’r defnyddiwr.

Gallwch hefyd hofran dros enw defnyddiwr a chlicio’r x gwyn i dynnu’r defnyddiwr o’r rhestr.

Ychwanegu Mwy nag Un Defnyddiwr

Ychwanegu Mwy nag Un Defnyddiwr

I anfon neges at fwy nag un defnyddiwr, teipiwch enwau’r defnyddwyr yn y maes At (To).

Nodyn: Os oes gennych chi restr faith o dderbynwyr, dim ond pum llinell fydd y maes At (To) yn eu dangos cyn galluogi’r modd sgrolio. Os byddwch chi’n dewis y blwch ticio Anfon negeseuon unigol (Send individual messages), bydd negeseuon unigol yn cael eu creu ar gyfer pob derbynnydd.

Defnyddio’r Llyfr Cyfeiriadau

Defnyddio’r Llyfr Cyfeiriadau

I ddewis defnyddiwr o’r llyfr cyfeiriadau, cliciwch y botwm Llyfr Cyfeiriadau (Address Book) [1]. Yn y llyfr cyfeiriadau, dewch o hyd i rôl y defnyddiwr [2] ac wedyn dewis enw’r defnyddiwr [3]. Caiff yr enwau eu trefnu yn ôl cyfenw.

I fynd yn ôl at gofrestr y cwrs, defnyddiwch yr eicon saeth [4].

Nodiadau:

  • Bydd defnyddwyr sydd â rôl bersonol yn ymddangos yn y llyfr cyfeiriadau o dan y rôl a bennwyd fel y math sylfaenol ar gyfer y rôl bersonol honno.
  • Ni fydd defnyddwyr â rôl Dylunydd (neu rôl bersonol gyda Dylunydd fel y math sylfaenol) yn ymddangos yn y llyfr cyfeiriadau. Gallwch anfon neges at ddylunydd cwrs drwy deipio enw’r defnyddiwr yn y maes At (To).

Ychwanegu Mwy nag Un Defnyddiwr

Ychwanegu Mwy nag Un Defnyddiwr

I anfon neges at fwy nag un defnyddiwr yn y llyfr cyfeiriadau, pwyswch y fysell ‘command’ (Mac) neu’r fysell ‘control’ (Windows) a chlicio enw pob defnyddiwr yr hoffech chi ei ychwanegu at eich neges. Bydd pwyso’r fysell yn cadw ffenestr y gofrestr ar agor.

Anfon Neges

Anfon Neges

Yn y maes llinell pwnc (subject line) [1], rhowch linell pwnc ar gyfer eich neges.

Os ydych chi’n anfon eich neges at fwy nag un defnyddiwr, ond nad ydych am i bob defnyddiwr weld pwy arall sydd wedi'i gynnwys yn y neges, cliciwch y blwch ticio Anfon neges unigol at bob derbynnydd (Send an individual message to each recipient) [2]. Os yw’ch neges yn cynnwys dros 100 o dderbynwyr (gan eich cynnwys chi fel anfonwr), bydd y blwch ticio hwn yn cael ei ddewis yn ddiofyn.

Teipiwch eich neges yn y maes neges (message) [3]. Caiff yr holl gynnwys ei anfon mewn testun plaen. Nodwch, os byddwch chi’n cynnwys URL yn eich neges, bydd yr URL yn cael ei droi’n awtomatig yn ddolen y mae modd ei chlicio ar ôl i chi anfon y neges.

Os ydych chi am gynnwys atodiad neu ffeil cyfryngau, cliciwch yr eiconau atodiad neu ffeil cyfryngau [4].

Pan fyddwch chi wedi gorffen, cliciwch y botwm Anfon (Send) [5].