Sut ydw i’n dewis cynnwys o ap allanol yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog fel addysgwr?

Gallwch chi ddefnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog i blannu cynnwys a dolenni o apiau allanol sydd wedi cael eu gosod yn eich cwrs. Mae sawl nodwedd yn Canvas yn cefnogi’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog, gan gynnwys Cyhoeddiadau, Aseiniadau, Trafodaethau, Tudalennau, a Chwisiau.

Mae’r opsiynau plannu a chysylltu’n amrywio yn dibynnu ar yr ap rydych chi’n ei ddefnyddio. Cyfeiriwch at ganllawiau gwerthwr yr ap am gyfarwyddiadau penodol ynglŷn â phlannu a chysylltu â chynnwys ap allanol.

Agor Golygydd Cynnwys Cyfoethog

Agor Golygydd Cynnwys Cyfoethog

Agorwch y Golygydd Cynnwys Cyfoethog wrth greu neu olygu cyhoeddiad, aseiniad, trafodaeth, tudalen, cwis, neu faes llafur.

Nodyn: Mae’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn cefnogi bysellau hwylus. I weld y ddewislen Bysellau Hwylus, cliciwch yr eicon Bysellfwrdd neu bwyso ALT+F8 (Bysellfwrdd PC) neu Option+F8 (Bysellfwrdd Mac).

Dewis Lleoliad Plannu

I blannu cynnwys ap yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog, cliciwch i osod eich cyrchwr yn y fan yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog lle rydych chi eisiau i gynnwys yr ap ymddangos [1].

I gysylltu testun â chynnwys o ap, dewiswch y testun ar gyfer y cynnwys wedi’i gysylltu [2].

Agor Apiau

Agor Apiau

Gallwch chi wedi rhestr o adnoddau allanol o’r bar dewislen. Cliciwch y ddolen Adnoddau (Tools) [1]. Crwydrwch i’r opsiynau Apiau (Aps) [2], a dewiswch yr opsiwn Gweld Pob Un (View All) [3].

Neu, gallwch chi weld eich apiau yn y bar offer. Yn y bar offer, cliciwch yr eicon Ap (App) [4].

Nodyn: I weld yr eicon Ap, efallai y bydd angen i chi glicio’r eicon Opsiynau (Options) [5].

Gweld Apiau a Ddefnyddiwyd yn Ddiweddar

Gweld Apiau a Ddefnyddiwyd yn Ddiweddar

Os ydych chi eisoes wedi defnyddio ap allanol o’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog, gallwch chi agor apiau rydych chi wedi’u defnyddio’n ddiweddar yn gyflym.

I weld apiau a ddefnyddiwyd yn ddiweddar, cliciwch yr eicon Ap (Ap) [1]. Yna dewiswch yr ap rydych chi am ei agor [2].

I weld pob ap, cliciwch y ddolen Gweld Pob Un (View All) [3].

Dewis Ap

Dewis Ap

I ddod o hyd i ap, teipiwch enw’r ap yn y maes Chwilio (Search) [1]. Mae canlyniadau chwilio’n ymddangos wrth i chi deipio.

I ddewis ap, cliciwch enw’r ap [2].

I ddarllen esboniad byr o’r ap, cliciwch y ddolen Gweld disgrifiad (View description) [3].

Gweld Cynnwys Ap

Gweld Cynnwys Ap

Defnyddiwch yr ap i chwilio am, ac i ddewis, cynnwys i’w gysylltu neu ei blannu. Mae gosodiadau ac opsiynau apiau allanol yn gallu amrywio yn ôl yr ap.

Gweld Ap wedi’i Blannu

Gallwch chi weld a rhyngweithio â chynnwys ap sydd wedi’i blannu neu ddolen ap yn dibynnu ar eich gosodiadau plannu neu gysylltu.

Gweld Cynnwys

Gweld Cynnwys

Gweld eich cynnwys Gallwch chi ryngweithio’n uniongyrchol â chynnwys ap sydd wedi’i blannu yn Canvas yn dibynnu ar osodiadau’r ap allanol.