Sut ydw i’n mewngludo graddau yn y Llyfr Graddau?

Gallwch ddefnyddio ffeil CSV i lwytho newidiadau i fyny i’r Llyfr Graddau. Gallwch lwytho gwybodaeth i fyny ar gyfer aseiniadau sydd eisoes yn bodoli, neu gallwch ddefnyddio ffeil CSV hefyd i greu aseiniadau newydd yn y Llyfr Graddau. Bydd aseiniadau newydd yn cael eu cyhoeddi’n awtomatig yn eich cwrs. Os dydych chi ddim yn gwybod sut mae cadw ffeil ar fformat CSV, edrychwch yn nogfennau'r rhaglen rydych chi’n ei defnyddio i greu eich newidiadau yn y Llyfr Graddau (e.e. Excel).

Os byddwch chi'n creu colofn ar gyfer aseiniad newydd, bydd Canvas yn gofyn sut rydych chi am fewngludo'r aseiniad. Llwytho aseiniadau newydd i fyny gyda’r gosodiadau canlynol:

  • Grŵp Aseiniadau: Aseiniadau
  • Math o gyflwyniad: Dim cyflwyniad
  • Dyddiad erbyn ar gyfer: Pawb

 Nodiadau:

  • Mae ffeil CSV Llyfr Graddau yn llwytho aseiniadau wedi’u cwblhau/heb eu cwblhau i lawr fel credyd llawn neu ddim credyd (e.e. ar gyfer aseiniad 10-pwynt, 10 neu 0). Bydd sgorau sydd â chredyd llawn neu rannol yn llwytho i fyny fel aseiniad wedi’i gwblhau; bydd sgorau aseiniad heb ei gwblhau yn llwytho i fyny fel sero.
  • Mae ffeiliau CSV sydd wedi'u llwytho i fyny yn gallu creu aseiniadau a diweddaru graddau; fyddan nhw ddim yn gallu diweddaru unrhyw ran arall o'r Llyfr Graddau, fel statws aseiniad, sylwadau, neu bolisïau postio graddau.
  • Dydy aseiniadau gradd llythyren ac aseiniadau graddfa GPA ddim yn gallu delio ag unrhyw gofnodion nad ydynt yn rhan o gynllun graddau’r aseiniad.
  • Bydd unrhyw newidiadau a wneir i golofnau nad ydynt yn ddarllen-yn-unig yn cael eu cynnwys wrth lwytho i fyny. Ond, bydd colofnau darllen-yn-unig yn cael eu hanwybyddu’n awtomatig wrth lwytho i fyny.
  • Pan fydd mwy nag un cyfnod graddio wedi’i alluogi, does dim modd i’r ffeiliau CSV sydd wedi’u llwytho i fyny greu aseiniadau newydd. Ar hyn o bryd, rhaid creu aseiniadau newydd ar ryngwyneb Canvas. Ar ben hynny, bydd ffeiliau CSV yn cael eu dilysu yn erbyn dyddiadau cau’r cyfnod graddio; does dim modd newid graddau ar gyfer unrhyw aseiniad mewn cyfnod graddio sydd wedi dod i ben.
  • Ni fydd prosesau llwytho i fyny yn adnabod enwau aseiniadau sy’n cynnwys y testun Sgôr Bresennol, Pwyntiau Presennol, Sgôr Derfynol, Pwyntiau Terfynol, neu Radd Derfynol.
  • I lwytho newidiadau i fyny i’r Llyfr Graddau gydag enw aseiniad neu fyfyriwr sydd â nodau arbennig, gwnewch yn siŵr bod y ffeil yn cael ei chadw ar ffurf UTF-8 CSV.
  • Mae ffeiliau CSV sydd wedi'u llwytho i fyny yn anwybyddu enwau colofnau sydd wedi’u dewis yn barod ynghyd â cholofnau personol sydd wedi’u cuddio a’u dileu. Mae enwau colofnau sydd wedi’u dewis yn barod yn cynnwys Myfyriwr, ID, ID Defnyddiwr SIS, ID Mewngofnodi SIS, Adran, ID Integreiddio, a Chyfrif Gwraidd.
  • Efallai y bydd newidiadau i raddau mewn cyflwyniadau Cwisiau Clasurol yn ymddangos fel pwyntiau ystumio yn SpeedGrader.

Creu Ffeil CSV

Ar gyfer ffeiliau newydd, cadwch y ffeil ar ffurf Enw-Cwrs_Graddau.csv.

Colofnau a threfn ofynnol

  • Enw’r Myfyriwr
  • ID y Myfyriwr
  • ID Defnyddiwr SIS (dim ond os ydych chi'n defnyddio SIS mae angen hwn)
  • ID Mewngofnodi SIS (dim ond os ydych chi'n defnyddio SIS mae angen hwn)
  • Adran
  • Aseiniad (gall hwn fod ar gyfer aseiniad sy'n bodoli eisoes neu aseiniad newydd; cadw IDs ar gyfer aseiniadau sy’n bodoli eisoes)

Nodyn: Os dydych chi ddim am greu ffeil CSV newydd, mae modd i chi lwytho’r CSV i lawr o Canvas, ei newid, a llwytho'r un ffeil i fyny eto, a bydd y newidiadau a wnaethoch chi yn ymddangos yn Canvas ar ôl i chi lwytho’r ffeil CSV i fyny eto.

Agor Llyfr Graddau

Agor Llyfr Graddau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Graddau (Grades).

Llwytho Sgorau i Fyny

Cliciwch y botwm Mewngludo (Import).

Dewis Ffeil

Dewis Ffeil

Cliciwch y botwm Dewis Ffeil neu Pori (yn dibynnu ar eich porwr).

Agor Ffeil

Agor Ffeil

Chwiliwch am y ffeil CSV [1], wedyn clicio'r botwm Agor [2].

Llwytho data i fyny

Llwytho data i fyny

Cliciwch y botwm Llwytho data i fyny .

Llwytho data newydd i fyny

Os byddwch chi'n ychwanegu colofn newydd at y ffeil CSV ac wedyn yn llwytho’r ffeil i fyny, bydd Canvas yn gofyn i chi beth rydych chi am ei wneud gyda’r golofn newydd. Yn y gwymplen, dewiswch yr opsiwn Aseiniad newydd [1]. Wedyn, neilltuwch nifer y pwyntiau posib [2]. Cliciwch y botwm Bwrw ymlaen [3].

Nodiadau:

  • Pan fydd mwy nag un cyfnod graddio wedi’i alluogi, does dim modd i’r ffeiliau CSV sydd wedi’u llwytho i fyny greu aseiniadau newydd.
  • Mae aseiniadau newydd sy’n cael eu creu drwy lwytho ffeil CSV i fyny yn cael eu cyhoeddi’n awtomatig ac yn cynnal polisi postio’r cwrs.

Cadw Newidiadau

Adolygwch y newidiadau sydd wedi'u gwneud i’ch Llyfr Graddau [1]. Mae unrhyw newidiadau fydd yn arwain at radd is na’r fersiwn blaenorol wedi’u hamlygu’n goch [2].

Os byddwch chi'n llwytho aseiniadau i fyny heb newidiadau i’r graddau, byddan nhw’n cael eu cuddio o’r hyn sydd wedi'i lwytho i fyny [3]

Cliciwch y botwm Cadw Newidiadau (Save Changes) [4].

Gweld Llyfr Graddau sydd wedi'i Ddiweddaru

Gweld Llyfr Graddau sydd wedi'i Ddiweddaru

Gallwch weld y data sydd wedi’i ddiweddaru yn y Llyfr Graddau.