Sut ydw i’n defnyddio’r Llyfr Graddau?

Mae’r Llyfr Graddau yn helpu addysgwyr i weld a rhoi graddau i fyfyrwyr yn hawdd. Yn dibynnu ar y math o ddull o ddangos Graddau, mae modd gweld graddau ar gyfer pob aseiniad fel pwyntiau, canran, cyflawn neu anghyflawn, graddfa GPA neu radd llythyren.

Dim ond aseiniadau wedi’u graddio, trafodaethau wedi’u graddio, cwisiau wedi’u graddio, ac arolygon wedi’u graddio ac sydd wedi’u cyhoeddi sydd i’w gweld yn y Llyfr Graddau. Dydy aseiniadau sydd heb gael eu graddio ddim wedi’u cynnwys.

Y dewis diofyn yn y Llyfr Graddau yw gweld pob myfyriwr ar yr un pryd, ond gallwch hefyd weld myfyrwyr yn unigol yn y Llyfr Graddau Unigol. Ond, ar hyn o bryd dydy’r Llyfr Graddau Unigol ddim yn gallu delio â’r holl osodiadau ac opsiynau o’r Llyfr Graddau.

Mae’r bysellau hwylus canlynol ar gael yn y Llyfr Graddau:

  • S: Trefnu’r grid ar y golofn sydd dan sylw ar hyn o bryd. Colofnau Enwau myfyrwyr a Nodiadau yn cael eu trefnu yn ôl yr wyddor. Colofnau eraill yn cael eu trefnu yn ôl gradd (isaf i’r uchaf).
  • M: Agor y ddewislen ar gyfer y golofn sydd dan sylw ar hyn o bryd.
  • Esc: Cau'r ddewislen ar gyfer y golofn sydd dan sylw ar hyn o bryd.
  • G: Agor tudalen Manylion yr Aseiniad ar gyfer yr aseiniad sydd dan sylw ar hyn o bryd.
  • C: Agor ardal Manylion y Radd ar gyfer yr aseiniad sydd dan sylw ar hyn o bryd.

Dysgu mwy am y Llyfr Graddau.

Sylwch: Os yw eich cwrs yn cynnwys mwy nac un graddiwr, unwaith y byddwch chi’n agor y Llyfr Graddau, cofiwch fod holl ddata’r Llyfr Graddau sy’n bodoli’n barod yn cael ei storio yn y porwr nes bod y dudalen yn cael ei hadnewyddu. Dydy graddau ddim yn cael eu diweddaru’n ddeinamig gyda newidiadau a wnaed gan raddwyr eraill yn y Llyfr Graddau neu yn SpeedGrader.

Agor Graddau

Agor Graddau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Graddau (Grades).

Gweld Llyfr Graddau

Yn y Llyfr Graddau mae opsiynau trefnu cyffredinol a gosodiadau ar gael, a gallwch eu defnyddio i roi trefn ar eich llyfr graddau [1], data myfyriwr [2] a’r data aseiniad [3].

Mae'r Llyfr Graddau yn delio â bysellau hwylus. I weld y ddewislen Bysellau Hwylus, cliciwch yr eicon Bysellfwrdd [4] neu bwyso’r bysellau Shift+Marc Cwestiwn ar yr un pryd.

Newid Gwedd y Llyfr Graddau

Gweld Dewislen Llyfr Graddau

Gallwch chi newid rhwng opsiynau gwedd llyfr graddau, os ydynt ar gael. I ddewis gwedd llyfr graddau wahanol, cliciwch ar wedd bresennol y llyfr graddau (current gradebook view) [1]. Yna, yn y ddewislen Newid Gwedd y Llyfr Graddau, dewiswch un o'r opsiynau canlynol:

  • Llyfr Graddau Traddodiadol (Traditional Gradebook) [2]: Mae’n dangos yr holl fyfyrwyr, aseiniadau a graddau. Y llyfr graddau hwn yw’r llyfr diofyn mwyaf cyffredin, ac mae’n cael ei alw’n Llyfr Graddau (Gradebook).
  • Llyfr Graddau Meistroli Dysgu (Learning Mastery Gradebook) [3]: Mae’n dangos y Llyfr Graddau Meistroli Dysgu (Learning Mastery Gradebook), sy’n asesu’r safonau deilliant sy’n cael eu defnyddio mewn cyrsiau Canvas. Mae’r llyfr graddau hwn yn opsiwn nodwedd lefel y cwrs.
  • Llyfr Graddau Unigol (Individual Gradebook) [4]: Mae’n caniatáu i chi asesu un myfyriwr ac un aseiniad ar y tro, ac mae’n gwbl addas i ddarllenwyr sgrin. Ar hyn o bryd dydy’r Wedd Unigol ddim yn gallu delio â gosodiadau ac opsiynau o’r Llyfr Graddau.
  • Hanes Llyfr Graddau (Gradebook History) [5]: Mae’n dangos y dudalen Hanes Llyfr Graddau (Gradebook History), sy’n cofnodi newidiadau diweddar i raddau yn y cwrs yn ôl myfyriwr, graddiwr, aseiniad, a dyddiad.

Gallwch newid rhwng llyfrau graddau ar unrhyw adeg.

Chwilio Myfyrwyr

Yn ddiofyn, mae’r Llyfr Graddau’n dangos pob myfyriwr gweithredol. I chwilio am fyfyrwyr yn ôl eu henw neu ID SIS, rhowch eich ymholiad chwilio yn y maes Chwilio Myfyrwyr (Search Students). Mae’r Llyfr Graddau’n hidlo canlyniadau’n awtomatig wrth i chi deipio.

Mae’r maes Chwilio Myfyrwyr yn caniatáu i enw mwy nag un myfyriwr gael ei hidlo ar yr un pryd.

Mae’r maes Chwilio Myfyrwyr hefyd yn cynnwys opsiynau Ymrestriadau Anweithredol ac Ymrestriadau sydd wedi dirwyn i ben. Os bydd yn opsiynau Ymrestriadau Anweithredol ac Ymrestriadau sydd wedi dirwyn i ben yn cael eu dewis fel hidlyddion, ni fydd ymrestriadau anweithredol ac ymrestriadau sydd wedi dirwyn i ben yn ymddangos yn y Llyfr Graddau.

Sylwch: Mae canlyniadau chwilio enwau myfyriwr yn dangos gwybodaeth eilaidd os oes mwy nag un myfyriwr gyda’r un enw yn y cwrs.

Chwilio Aseiniadau

Yn ddiofyn, mae’r Llyfr Graddau’n dangos pob aseiniad. I chwilio am aseiniadau, rhowch enw’r aseiniad yn y maes Chwilio Aseiniadau (Search Assignments). Mae’r Llyfr Graddau’n hidlo canlyniadau’n awtomatig wrth i chi deipio.

Mae’r maes Chwilio Aseiniadau’n caniatáu i enw mwy nag un aseiniad gael ei hidlo ar yr un pryd.

Mae dewis aseiniad yn dangos yr aseiniad yn y golofn sydd agosaf at enw’r myfyriwr. Os bydd mwy nag un aseiniad wedi’i ddewis, bydd y colofnau aseiniadau’n ymddangos yn groes i’r drefn y cawson nhw eu deis.

Gweld Gosodiadau Llyfr Graddau

Mae Gosodiadau’r Llyfr Graddau yn gadael i chi osod Polisïau Gwaith Hwyr, Polisi Postio Graddau, Disodli Gradd Derfynol, a Gweld Opsiynau yn llyfr graddau eich cwrs.

Gweld Polisïau Gwaith Hwyr

Gweld Polisïau Gwaith Hwyr

Mae’r tab Polisïau Gwaith Hwyr yn gadael i chi osod polisïau gwaith hwyr yn eich cwrs.

Mae’r polisi Cyflwyniad ar goll yn gadael i chi roi gradd yn awtomatig i gyflwyniadau sydd wedi’i labelu Ar goll [1]. Mae aseiniad yn cael ei labelu Ar goll pan mae’r dyddiad erbyn wedi mynd heibio ac nad yw’r aseiniad wedi cael yw'r gyflwyno.

Mae’r polisi Cyflwyniad Hwyr yn gadael i chi roi cosb benodol yn awtomatig i gyflwyniadau sydd â’r statws Hwyr [2]. Mae’r cyflwyniad yn cael ei labelu’n Hwyr pan mae’n cael ei gyflwyno ar ôl y dyddiad erbyn. Ar ben hynny, gallwch ddiffinio trothwy na fydd myfyriwr yn cael ei farcio oddi tano, ni waeth ba mor hwyr yw’r cyflwyniad pan mae’n cael ei gyflwyno.

Gweld Polisi Postio Graddau

Gweld Polisi Postio Graddau

Mae’r tab Polisi Postio Graddau yn gadael i chi newis y polisïau postio graddau ar gyfer eich cwrs.

I bostio graddau yn awtomatig a’u gwneud yn weladwy i fyfyrwyr gynted ag y cân nhw eu rhoi, dewiswch yr opsiwn Postio Graddau yn Awtomatig (Automatically Post Grades) [1]. Mae’r polisi postio wedi’i osod ar Postio Graddau yn Awtomatig yn ddiofyn.

I guddio graddau yn ddiofyn a dewis pryd i bostio graddau a’u gwneud yn weladwy i fyfyrwyr eich hun, dewiswch yr opsiwn Postio Graddau eich hun (Manually Post Grades) ]2].

Sylwch: Rhaid i raddau ar gyfer aseiniadau dienw ac aseiniadau wedi’u safoni gael eu postio eich hun. Does dim modd dad-guddio aseiniadau wedi’u safoni nes bod y graddau terfynol wedi cael eu postio.

Gweld Gosodiadau Uwch

Gweld Gosodiadau Uwch

Mae’r tab Uwch yn gadael i chi osod Disodli Gradd Derfynol yn eich cwrs. Os yw wedi’i alluogi, gallwch roi gradd ddisodli i fyfyriwr sy’n wahanol i’r radd a gafodd ei chyfrifo’n awtomatig gan Canvas.

Gweld Opsiynau Gweld Llyfr Graddau

Gweld Opsiynau Gweld Llyfr Graddau

Mae’r tab Opsiynau Gweld yn gadael i chi hidlo a threfnu’r Llyfr Graddau yn ôl sawl opsiwn gweld:

Sylwch:

  • Os nad ydy’r opsiynau Gweld rhai heb eu graddio fel 0 a Rhannu Enwau Myfyrwyr yn ymddangos yn eich Llyfr Graddio, dydy’r opsiynau hyn ddim wedi cael eu galluogi gan eich sefydliad.
  • Pan mae’r opsiwn nodwedd Disodli Gradd Derfynol (Final Grade Override) wedi’i alluogi ar gyfer y cwrs, mae’r testun yn yr adran Dangos (Show) yn dangos Cuddio’r Golofn Cyfanswm (Hide Total Column) a Disodli Colofnau (Override Columns). Os yw’r opsiwn nodwedd Disodli Gradd Derfynol wedi’i analluogi, mae’r testun yn yr adran Dangos yn dangos Cuddio’r Golofn Cyfanswm.
  • I atal myfyrwyr rhag gweld cyfanswm sgoriau, dysgwch am guddio cyfanswm y crynodebau o raddau myfyrwyr.

Gweld Hidlyddion Llyfr Graddau

Gweld Hidlyddion Llyfr Graddau

Yn y ddewislen Gosod Hidlyddion, gallwch chi greu a rheoli rhagosodiadau hidlo [1] neu hidlo colofnau yn ôl math [2] (grŵp aseiniadau, adran, modiwlau, grwpiau myfyrwyr, a chyfnod graddio, os yn berthnasol).

Gweld Opsiynau Mewngofnodi ac Allgofnodi

I reoli swp o raddau myfyrwyr yn y Llyfr Graddau, gallwch hefyd fewngludo graddau [1] ac allgludo graddau [2].

Gweld Colofn Enw’r Myfyriwr

Gweld Colofn Enw’r Myfyriwr

Mae’r golofn Enw’r Myfyriwr yn dangos enw pob myfyriwr ynghyd ag ail ID’r myfyriwr os yw wedi’i alluogi. Gallwch hofran dros bennawd y golofn a gweld y ddewislen Enw’r Myfyriwr [1], sy’n caniatáu’r opsiynau canlynol:

I weld tudalen Graddau myfyriwr, cliciwch enw’r myfyriwr [2].

Gweld Myfyriwr Prawf

Gweld Myfyriwr Prawf

Os ydych chi wedi gweld cwrs fel myfyriwr prawf, mae’r Myfyriwr Prawf (Test Student) yn dangos ar ddiwedd y Llyfr Graddau (Gradebook) a bydd wedi’i ychwanegu at bob adran yn eich cwrs. Dydy data Myfyriwr Prawf (Test Student) ddim yn cael eu hystyried yn nadansoddiad y cwrs.

Os ydych chi am dynnu’r myfyriwr prawf yn llwyr, rhaid i chi dynnu’r myfyriwr prawf o ymrestriadau’r adran yng Ngosodiadau’r Cwrs (Course Settings).

Gweld Colofn Aseiniad

Gweld Aseiniadau

Mae pob colofn yn y Llyfr Graddau yn cynrychioli aseiniad wedi’i gyhoeddi yn y dudalen Aseiniadau. Mae pob colofn yn dangos teitl yr aseiniad, cyfanswm pwyntiau, a gradd pob myfyriwr.

I weld aseiniad, cliciwch enw’r aseiniad [1].

I reoli aseiniad, hofrwch dros bennawd y golofn a chlicio’r eicon Opsiynau (Options) [2]. Yna, gwnewch unrhyw un o’r canlynol:

Mae eiconau a lliwiau’n cynrychioli statws aseiniadau a chyflwyniadau o fewn Canvas, gan gynnwys aseiniadau wedi’u gwahaniaethu, cyfnodau graddio, a Llwybrau Meistroli (Mystery Paths).

Ychwanegu Colofnau

Mae colofnau aseiniadau yn cael eu hychwanegu'n awtomatig bob tro y byddwch chi'n creu a chyhoeddi aseiniadau, trafodaethau wedi’u graddio, a chwisiau ac arolygon wedi’u graddio. Mae colofn hefyd yn cael ei hychwanegu’n awtomatig ar gyfer yr adnodd Presenoldeb (Attendance).

Gallwch ychwanegu colofn eich hun fel rhan o fewngludo graddau i’r Llyfr Graddau. Ond, mae aseiniadau sydd wedi cael eu mewngludo mewn ffeil CSV yn cael eu cyhoeddi’n awtomatig.

Os oes angen i chi greu colofn yn y Llyfr Graddau i ddefnyddio graddio eich hun, gallwch chi greu aseiniad Dim Cyflwyniad neu Ar Bapur.

Rhoi Graddau

Wrth i chi roi graddau, mae’r Llyfr Graddau (Gradebook) yn dangos targed ac amlygiad ar draws y rhes a’r golofn er mwyn cael cyfeiriad gwell.

I roi graddau, teipiwch y radd yn gymwys a’r math o aseiniad yn syth yng nghell y Llyfr Graddau [1].

Gallwch hefyd roi gradd a newid statws y cyflwyniad drwy glicio eicon Ardal Manylion y Radd (Grade Detail Tray) [2].

Gweld Ardal Manylion y Radd

Gweld Ardal Manylion y Radd

Mae Ardal Manylion y Radd yn gadael i chi roi neu olygu graddau [1], newid statws cyflwyniad [2], a gadael sylw i’r myfyriwr [3].

Gweld Grwpiau Aseiniadau a’r Golofn Cyfanswm

Mae’r grwpiau aseiniadau sydd i’w gweld yn y Llyfr Graddau yn cyfateb i’r grwpiau aseiniadau sydd wedi’u creu yn y dudalen Aseiniadau [1].

Os yw eich grwpiau aseiniadau wedi’u pwysoli mae’r radd wedi’i phwysoli i’w gweld o dan deitl y grŵp [2]. Mae pwysoliadau grwpiau aseiniadau yn cael eu hadlewyrchu yn y radd gyflawn. Mae’r radd aseiniad a enillir gan y myfyrwyr yn cael ei lluosi â phwysoliad y grŵp aseiniadau.

Mae cyfanswm graddau o grwpiau aseiniadau’n cael eu cyfrifo yn y golofn Llyfr Graddau. Gallwch hofran dros bennawd y golofn i weld dewislen y golofn Cyfanswm [4], sy’n gadael i chi drefnu yn ôl gradd a symud y golofn cyfanswm i flaen y Llyfr Graddau. Ar ben hynny, os nad yw eich grwpiau aseiniadau wedi’u pwysoli, gallwch weld y cyfansymiau fel pwyntiau yn hytrach na chanrannau.