Sut ydw i’n tynnu nod tudalen o fanc cwestiynau mewn cwrs?
Gallwch chi dynnu Banciau Cwestiynau sydd â nod tudalen yn hawdd.
Agor Cwisiau

Yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs (Course Navigation), cliciwch y ddolen Cwisiau (Quizzes).
Rheoli Banciau Cwestiynau

Cliciwch yr eicon Gosodiadau [1] a chlicio'r ddolen Rheoli Banciau Cwestiynau (Manage Question Banks) [2].
Tynnu Nod Tudalen o Fanc Cwestiynau

Cliciwch yr eicon Nod Tudalen.
Gwirio Banc Cwestiynau Heb Nod Tudalen

Gwirio nad oes gan y Banc Cwestiynau nod tudalen mwyach.