Sut ydw i’n mewngludo cwisiau o becynnau QTI?

Mae hi’n hawdd mewngludo cwisiau o raglenni sy’n creu ffeiliau QTI. Os nad yw rhaglen yn creu ffeiliau QTI, nid oes modd ei mewngludo i Canvas.

Mae modd creu ffeiliau QTI o amrywiaeth o feddalwedd a systemau rheoli dysgu gwahanol:

  • Mae cwisiau sydd wedi eu creu yn Respondus 4.0 (meddalwedd Windows) yn gallu cael eu hallgludo fel pecynnau QTI. I ddysgu sut mae defnyddio Respondus 4.0, darllenwch y canllawiau hyn i ddefnyddwyr (DOC). Mae canllaw cyflym ar gyfer Respondus 4.0 ar gael hefyd (PDF).
  • Mae cwisiau sydd wedi eu creu yn Blackboard (WebCT, Angel) yn gallu cael eu hallgludo fel pecynnau QTI.
  • Mae cwisiau sydd wedi eu creu yn Moodle yn gallu cael eu hallgludo fel pecynnau QTI. Bydd hyn yn gweithio gyda Moodle 2.0 neu gyda fersiynau hŷn. Fodd bynnag, nid yw Moodle 2.1 a fersiynau diweddarach yn allgludo pecynnau QTI mwyach.

Nodiadau:

  • Mae Canvas yn delio â fersiynau QTI 1.2 a 2.1.
  • Ni fydd prosesau mewngludo cwis yn cynnwys cwestiynau o gwisiau sy’n defnyddio cwestiynau sydd wedi eu dewis ar hap o fanciau cwestiynau.

Agor Gosodiadau

Agor Gosodiadau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings).

Mewngludo Cynnwys i Gwrs

Mewngludo Cynnwys i Gwrs

Cliciwch y botwm Mewngludo Cynnwys Cwrs (Import Course Content).

Dewis Math o Gynnwys

Dewis Math o Gynnwys

Yn y gwymplen, dewiswch yr opsiwn ffeil .zip QTI (QTI .zip file).

Dewis Ffeil

Dewis Ffeil

Cliciwch y botwm Dewis Ffeil (Choose File).

Agor Ffeil

Agor Ffeil

Dewch o hyd i’r ffeil ZIP rydych chi am ei mewngludo a chliciwch arni [1]. Cliciwch y botwm Agor (Open) [2].

Gweld Opsiynau Mewngludo

Gweld Opsiynau Mewngludo

Gallwch chi reoli opsiynau ar gyfer eich ffeil wedi’i mewngludo cyn iddi gael ei chreu.

Os yw Cwisiau Newydd wedi’i alluogi ar eich cwrs, gallwch chi newid cwisiau yn y pecyn mewngludo i fformat Cwisiau Newydd [1].

Gallwch chi hefyd ddiystyru cynnwys asesiad gydag ID sy’n cyfateb [2].

Mewngludo Cwisiau sy’n bodoli’n barod fel Cwisiau Newydd

Mewngludo cwisiau sy’n bodoli’n barod fel Cwisiau Newydd

Os yw wedi’i ganiatáu gan eich sefydliad, gallwch chi fewngluso cwisiau sy’n bodoli’n barod i Cwisiau Newydd drwy glicio’r blwch ticio Mewngludo cwisiau sy’n bodoli’n barod fel Cwisiau Newydd (Import existing quizzes as New Quizzes).

Os yw eich sefydliad yn galluogi’r nodwedd mudo cwis, bydd banciau cwestiynau sydd wedi’u cysylltu drwy grŵp cwestiynau yn Cwisiau Clasurol yn symud i Cwisiau Newydd. Os nad yw’r nodwedd mudo cwis wedi’i galluogi gan eich sefydliad, rhaid i gwestiynau o fanciau cwestiynau gael eu hychwanegu’n unigol cyn mudo i Cwisiau Newydd.

Nodiadau:

  • Dydy’r opsiwn Mewngludo Cwisiau sy’n bodoli’n barod fel New Quizzes ddim ond yn ymddangos ar gyfer cyrsiau sydd wedi galluogi New Quizzes.
  • Os ydych chi wedi galluogi Cwisiau Newydd ond nad yw’r opsiwn yn ymddangos, nid yw eich sefydliad wedi galluogi mudo Cwisiau Newydd ar ôl mewngludo.
  • Does dim modd i chi ddewis banc cwestiynau diofyn wrth ddefnyddio’r opsiwn Mewngludo cynnwys yr asesiad fel New Quizzes.
  • Nid yw Cwisiau Newydd yn cynnwys nodwedd arolwg. Felly, mae arolygon sy’n cael eu mudo o Cwisiau Clasurol yn dod drosodd fel cwisiau safonol yn Cwisiau Newydd.
  • Ar ôl mudo i Cwisiau Newydd, mae mwy nag un cwestiwn cwymplen yn ymddangos fel cwestiynau cyfatebol.
  • Mae cwestiynau Testun Dim Cwestiwn yn mudo i Cwisiau Newydd fel cwestiynau Ysgogiad. Rhaid i addysgwr ychwanegu cwestiwn er mwyn iddo gael ei ddangos mewn cwis.
  • Bydd grwpiau cwestiynau gyda chwestiynau wedi’u creu gennych chi yn mudo fel banciau eitemau yn Cwisiau Newydd.
  • Os bydd cwis yn cael ei fudo mwy nag unwaith, bydd Canvas yn defnyddio cyfuno clyfar i ddatrys y cynnwys banc cwestiynau a ddylai gael ei gadw. Mae’r broses hon yn helpu i sicrhau bod yr holl gynnwys yn cael ei gadw, er enghraifft mewn achosion pan mae mwy nag un defnyddiwr yn golygu cwis ar yr un pryd.
  • Mae modd mudo cwisiau ymarfer o Cwisiau Clasurol i Cwisiau Newydd Ar ôl mudo, yn ddiofyn, mae’r cwisiau ymarfer yn cael eu dangos fel dim pwyntiau posib ac maen nhw wedi’u cuddio o’r tudalennau Graddau a’r Llyfr Graddau.

Diystyru Cynnwys Asesiad

Diystyru Cynnwys Asesiad

I ddiystyru cynnwys yr asesiad sydd ag IDs sy'n cyfateb, ticiwch y blwch Diystyru cynnwys asesiad gydag ID sy'n cyfateb (Overwrite assessment content with matching IDs).

Mae rhai systemau’n ailddefnyddio IDs ar gyfer pob proses allgludo newydd. Felly, os ydych chi’n allgludo dau fanc cwestiynau ar wahân, bydd ganddynt yr un ID. I sicrhau na fydd data asesiad yn cael ei golli, mae Canvas yn delio â phob banc cwestiynau fel gwrthrychau ar wahân er bod ganddynt yr un ID. Wrth ddewis yr opsiwn hwn bydd y nodwedd diogelwch hon yn cael ei hanalluogi, a bydd data asesu’n gallu diystyru data presennol sydd â’r un ID.

Dewis Banc Cwestiynau

Dewis Banc Cwestiynau

Yn y gwymplen Banc Cwestiynau Diofyn (Default Question bank), dewiswch y banc Cwestiynau rydych chi am ei ddefnyddio ar gyfer eich banc cwestiynau.  

Creu Banc Cwestiynau

Creu Banc Cwestiynau

Os nad oes gennych chi fanc cwestiynau rydych chi am ei ddefnyddio, gallwch chi greu banc cwestiynau newydd. Yn y gwymplen, dewiswch yr opsiwn Creu banc cwestiynau newydd (Create new question bank).

Mewngludo Cwrs

Mewngludo Cwrs

Cliciwch y botwm Mewngludo (Import) [1].

Mae dangosydd cynnydd yn dangos y statws llwytho i fyny yn ôl canran [2].

Gweld Tasgau Presennol

Mae’r adran Tasgau Presennol (Current Jobs) yn dangos statws eich eitemau wedi’u mewngludo. Mae adroddiadau parhaus yn dangos bar cynnydd sy’n nodi’r amser sy'n weddill i orffen mewngludo.

Hefyd, bydd yr eitem sy’n cael ei mewngludo yn dangos dangosyddion statws eraill fel rhan o’r broses fewngludo. Gallwch ddysgu mwy am statws mewngludo cyrsiau.

Ar ôl i’r cwrs orffen, gallwch weld eich cwisiau drwy fynd i’r dudalen Cwisiau yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs.

Nodyn: Os ydych chi wedi mewngludo eich asesiadau i New Quizzes, yna gallwch weld eich cwisiau o’r dudalen Aseiniadau.