Sut ydw i’n pwysoli’r radd derfynol ar gyfer y cwrs ar sail grwpiau aseiniadau?

Gallwch bwysoli graddau terfynol ar sail grwpiau aseiniadau. Wrth ddewis yr opsiwn hwn, bydd pwysoliad yn cael ei neilltuo i bob grŵp aseiniadau – nid i’r aseiniadau eu hunain. Ym mhob grŵp aseiniadau, bydd y ganran yn cael ei chyfrifo drwy rannu cyfanswm y pwyntiau y mae myfyriwr wedi’u cael â chyfanswm y pwyntiau sy'n bosib ar gyfer pob aseiniad yn y grŵp hwnnw.

Er enghraifft, petai grŵp aseiniadau yn cynnwys tri aseiniad sy’n dod i 25 pwynt i gyd, a bod cyfanswm sgorau myfyriwr yn 15 pwynt, byddai’r myfyriwr yn cael 60% ar gyfer y grŵp aseiniadau (15/25). Yna, bydd y ganran hon yn cael ei lluosi â phwysoliad y grŵp dan sylw. Bydd cyfrifiad pob grŵp aseiniadau yn cael ei adio at ei gilydd i greu’r radd derfynol.

Er enghraifft, gall addysgwr greu tri grŵp aseiniadau (A, B, ac C) sydd wedi’u pwysoli ar 20%, 50% a 30% yn y drefn honno. Dyma hafaliad y sgôr gyflawn ar gyfer cwrs sydd â thri grŵp aseiniadau (canran A x pwysoliad A) + (canran B x pwysoliad B) + (canran C x pwysoliad C) = canran derfynol y cwrs. Os bydd myfyriwr yn cael sgôr o 75% yng Ngrŵp A, 98% yng Nghrŵp B, ac 87% yng Ngrŵp C, byddai’r sgôr derfynol yn cael ei chyfrifo fel hyn: (.75 x .20) + (.98 x .50) + (.87 x .30) = .901, neu 90.1%.

Bydd cyfrifiad y sgôr derfynol yn cael ei newid os nad oes eitemau wedi’u graddio mewn grŵp aseiniadau. Yn yr achos hwn, bydd yr holl grwpiau aseiniadau ag eitemau wedi’u graddio yn cael eu rhannu yn ôl eu pwysoliad cyfunol, a bydd y grwpiau aseiniadau heb eitemau wedi’u graddio yn cael eu tynnu o’r hafaliad. Petai’r enghraifft flaenorol yn cael ei haddasu er mwyn sicrhau nad yw Grŵp C yn cynnwys unrhyw gwisiau, aseiniadau na thrafodaethau heb eu graddio, dyma fyddai’r cyfrifiad ar gyfer y sgôr derfynol: [(.75 x .20) + (.98 x .50)] ÷ .70 = .9143, neu 91.43%.

Mwy nag un Cyfnod Graddio

Os yw’ch cwrs yn cynnwys Mwy nag un Cyfnod Graddio, does dim modd i chi newid pwysoliadau grŵp aseiniadau pan fydd gan y grŵp hwnnw aseiniadau mewn cyfnod graddio sydd wedi dod i ben. Hefyd, mae cyfnodau graddio wedi’u pwysoli yn gallu delio â grwpiau aseiniadau sydd wedi’u pwysoli mewn cwrs. Bydd pwysoliad grŵp aseiniadau yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gradd derfynol y cyfnod graddio, a bydd gradd derfynol pob cyfnod graddio yn cael ei hadio at ei gilydd i gyfrifo’r radd gyffredinol.

Os byddwch chi’n dewis defnyddio grwpiau aseiniadau wedi’u pwysoli, dylid creu grwpiau aseiniadau ar wahân ar gyfer pob cyfnod graddio yn y cwrs. Os yw grŵp aseiniadau yn cynnwys aseiniadau sy’n perthyn i fwy nag un cyfnod graddio gyda gwahanol ganrannau wedi’u pwysoli, mae’n bosib y bydd y graddau’n arwain at ganlyniadau anfwriadol.

Nodwch: Os bydd grŵp aseiniadau wedi’i bwysoli i sero y cant, yna ni fydd unrhyw eitem cwrs sy’n cael ei ychwanegu at y grŵp yn cyfrif tuag at y radd derfynol.

Agor Aseiniadau

Agor Aseiniadau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Aseiniadau (Assignments).

Agor Gosodiadau Pwysoliad Grwpiau Aseiniadau

Agor Gosodiadau Pwysoliad Grwpiau Aseiniadau

Cliciwch yr eicon Opsiynau Aseiniadau (Assignments Options) [1] a dewiswch yr opsiwn Pwysoliad Grwpiau Aseiniadau (Assignment Groups Weights) [2].

Pwysoli Gradd Derfynol

Pwysoli Gradd Derfynol

Cliciwch y blwch ticio Pwysoli’r radd derfynol ar sail grwpiau aseiniadau (Weight final grade based on assignment groups).

Gosod Pwysoliadau

Gosod Pwysoliadau

Rhowch y pwysoliadau canrannau ar gyfer pob Grŵp Aseiniadau (Assignment Groups) gwahanol rydych chi wedi’i greu [1]. Bydd y pwysoliadau canrannau y byddwch chi’n eu nodi yma yn pennu sut bydd Canvas yn cyfrifo’r radd derfynol ar gyfer eich cwrs. Mae modd newid y canrannau hyn ar unrhyw adeg, a bydd myfyrwyr yn cael gwybod pan fydd unrhyw newidiadau’n cael eu gwneud. Bydd y pwysoliadau’n ymddangos yn y Llyfr Graddau (Gradebook) ar gyfer myfyrwyr ac addysgwyr.

Cliciwch y botwm Cadw (Save) [2].

Nodiadau:

  • Mae pwysoliadau grŵp aseiniadau yn gallu cynnwys degolion.
  • Mae modd gosod y ganran gyflawn ar gyfer yr holl grwpiau aseiniadau uwchlaw neu o dan 100%.