Sut ydw i’n cyhoeddi cwrs?
Os oes gennych chi hawl cyhoeddi eich cwrs, gallwch ei gyhoeddi o’r Dangosfwrdd, bar ochr Tudalen Hafan y Cwrs, bar ochr Gosodiadau’r Cwrs, neu’r Rhestr Atgoffa wrth Greu Cwrs.
Nodiadau:
- Rhaid i chi gyhoeddi cwrs cyn bod modd i fyfyrwyr gael mynediad ato ac at gynnwys y cwrs. Does dim modd i fyfyrwyr weld cyrsiau heb eu cyhoeddi na’u cynnwys.
- Mae cyhoeddi cwrs yn hawl cwrs. Os na allwch chi gyhoeddi eich cwrs, mae eich sefydliad wedi cyfyngu'r nodwedd hon.
- Wrth gyhoeddi eich cwrs, bydd gwahoddiadau yn cael eu hanfon at unrhyw ddefnyddiwr a gafodd ei ychwanegu gan rywun i’ch cwrs. Fydd defnyddwyr sy’n cael eu hychwanegu drwy broses Mewngludo SIS (SIS import) ddim yn cael gwahoddiad.
- Fydd gwahoddiadau cwrs ddim yn cael eu hanfon nes ar ôl dyddiad dechrau'r cwrs. (Dyddiad y tymor yw'r dyddiad cychwyn fel arfer, oni bai fod y tymor yn cael ei ddiystyru gan ddyddiad adran neu gwrs penodol yng Ngosodiadau’r Cwrs.)
- Os ydych chi'n defnyddio cyfrif Free-For-Teacher, does dim modd i chi gyhoeddi cwrs nes eich bod chi wedi cadarnhau eich cyfeiriad e-bost.
- Os yw eich cwrs wedi cael ei raddio a’i fod yn cynnwys graddau, fydd dim modd i chi addasu statws cyhoeddi’r cwrs.
Cyhoeddi yn y Dangosfwrdd
Chwiliwch am yr adran Cyrsiau heb eu cyhoeddi (Unpublished Courses) yn y Dangosfwrdd (Dashboard) [1].
Dewch o hyd i'r cwrs rydych chi am ei gyhoeddi a chlicio’r botwm Cyhoeddi (Publish) [2[.
Cyhoeddi mewn Cwrs
Agor Cwrs
Yn y ddewislen Crwydro’r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyrsiau (Courses) [1]. Bydd eich cyrsiau’n cael eu trefnu yn ôl cyrsiau wedi’u cyhoeddi (published courses) [2] a chyrsiau heb eu cyhoeddi (unpublished courses) [3]. I agor cwrs sydd heb ei gyhoeddi, cliciwch enw’r cwrs [4].
Cyhoeddi Cwrs
Mae statws y cwrs i’w weld ym mar ochr Tudalen Hafan y Cwrs ac ym mar ochr Gosodiadau’r Cwrs.
I gyhoeddi eich cwrs, cliciwch y gwymplen Statws Cwrs (Course Status) [1]. Yna, cliciwch y botwm Cyhoeddi (Publish) [2].
Nodyn: Ar ddyfeisiau sydd â sgrin lai, efallai y bydd y bar ochr yn ymddangos o dan gynnwys arall y dudalen.
Gweld Cadarnhad
Bydd neges yn ymddangos ar frig eich sgrin yn cadarnhau bod eich cwrs wedi'i gyhoeddi.
Dad-gyhoeddi Cwrs
Os oes angen i chi ddad-gyhoeddi’r cwrs, cliciwch y gwymplen Statws Cwrs (Course Status) [1]. Yna, cliciwch y botwm Dad-gyhoeddi (Unpublish) [2]. Fydd myfyrwyr, sydd wedi cael gwahoddiadau cwrs yn barod, ddim yn gallu cael mynediad i'ch cwrs.
Pan fydd eich cwrs yn cynnwys gwaith wedi’i raddio, ni fydd statws y cwrs yn ymddangos yn y bar ochr mwyach, ac ni fydd modd i chi ddad-gyhoeddi’ch cwrs mwyach.