Sut ydw i’n ychwanegu cyfarwyddyd sgorio mewn cwrs?

Os na allwch chi ddod o hyd i gyfarwyddyd sgorio rydych chi am ei ddefnyddio yn eich cwrs, gallwch chi greu cyfarwyddyd sgorio newydd. Ar ôl i chi greu cyfarwyddyd sgorio, caiff ei gadw yn eich cwrs i’w ddefnyddio yn y dyfodol. Gallwch ychwanegu’r cyfarwyddyd sgorio at aseiniad a defnyddio’r cyfarwyddyd sgorio i raddio ac i ychwanegu sylwadau. Mae modd rheoli cyfarwyddiadau sgorio sydd wedi’u creu ar y dudalen Rheoli Cyfarwyddiadau Sgorio.

Mae’r wers hon yn dangos sut mae creu cyfarwyddyd sgorio ar y dudalen Rheoli Cyfarwyddiadau Sgorio. Gallwch chi greu cyfarwyddyd sgorio’n uniongyrchol hefyd drwy ychwanegu cyfarwyddyd sgorio at aseiniad, ac mae’r broses yr un fath.

Gall meini prawf cyfarwyddyd sgorio gynnwys ystod o bwyntiau neu werth pwynt unigol.

Nodyn: Ar hyn o bryd, does dim modd aildrefnu maen prawf ar ôl iddo gael ei ychwanegu at gyfarwyddyd sgorio.

Agor Cyfarwyddiadau Sgorio

Agor Cyfarwyddiadau Sgorio

Yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs (Course Navigation), cliciwch y ddolen Cyfarwyddiadau Sgorio (Rubrics).

Ychwanegu Cyfarwyddyd Sgorio

Ychwanegu Cyfarwyddyd Sgorio

Cliciwch y botwm Ychwanegu Cyfarwyddyd Sgorio (Add Rubric).

Ychwanegu Teitl

Ychwanegu Teitl

Yn y maes Teitl (Title), ychwanegwch deitl ar gyfer y cyfarwyddyd sgorio. Mae’r teitl hwn yn nodi’r cyfarwyddyd sgorio fel y gellir ei gysylltu'n hawdd ag aseiniad, trafodaeth wedi’i graddio neu gwis.

Golygu Disgrifiad o Faen Prawf

Golygu Disgrifiad o Faen Prawf

Mae’r cyfarwyddyd sgorio yn cynnwys un cofnod maen prawf diofyn. I olygu’r disgrifiad o'r maen prawf, cliciwch yr eicon Golygu.

Nodyn: Ar hyn o bryd, does dim modd aildrefnu maen prawf ar ôl iddo gael ei ychwanegu at gyfarwyddyd sgorio. Os ydych chi am arddangos meini prawf mewn trefn benodol, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n eu creu nhw yn y drefn honno.

Rhoi Ddisgrifiadau

Rhoi Ddisgrifiadau

Rhowch ddisgrifiad byr o’r maen prawf yn y maes Disgrifiad (Description) [1]. I ychwanegu disgrifiad hirach ar gyfer y maen prawf, rhowch ddisgrifiad hirach [2]. Bydd disgrifiad hirach yn rhoi mwy o wybodaeth i’r myfyrwyr am y maen prawf. Cliciwch y botwm Diweddaru Maen Prawf (Update Criterion) [3].

Dewis Ystod

Dewis Ystod

Yn ddiofyn, mae lefelau sgôr cyfarwyddyd sgorio'n cael eu creu fel gwerthoedd pwynt unigol. Os ydych chi am greu ystod o bwyntiau yn lle hynny, cliciwch y blwch Ystod (Range) [1]. Mae ystodau’n caniatáu i chi neilltuo lefel sgôr ar gyfer ystod o opsiynau pwyntiau, yn hytrach na dim ond un gwerth pwynt.

Pan fydd wedi’i alluogi, bydd y lefel sgôr gyntaf (marciau llawn) yn dangos gwerth pwynt cyfan mewn fformat ystod [2]. Mae pob lefel sgôr yn dangos gwerth pwynt uchaf ac isaf. Ar gyfer pob lefel sgôr, caiff y gwerth mwyaf ei neilltuo fel gwerth y pwynt.

Ar wahân i ddangos gwerth yr ystod, mae ystodau maen prawf yn gweithio yn yr un ffordd â lefelau sgôr pwynt unigol. Er enghraifft, bydd ystod sy'n cynnwys uchafswm o bum pwynt ac isafswm o dri phwynt yn cael y gwerth pwynt cyflawn, sef pum pwynt.

Golygu Cyfanswm Gwerth y Pwyntiau

Golygu Cyfanswm Gwerth y Pwyntiau

Mae lefelau sgôr cyfarwyddyd sgorio yn 5 pwynt yn ddiofyn, sy'n rhoi 5 pwynt am farciau cyfarwyddyd sgorio llawn a 0 pwynt am ddim marciau cyfarwyddyd sgorio.

Os ydych chi am addasu cyfanswm gwerth pwyntiau’r maen prawf, rhowch nifer y pwyntiau yn y maes Pwyntiau (Points) [1]. Bydd y lefel sgôr gyntaf (marciau llawn) yn diweddaru i gyfanswm newydd gwerth y pwyntiau a bydd unrhyw lefelau sgôr cynyddol yn addasu fel y bo’n briodol [2].

Ychwanegu Lefelau Sgôr

Ychwanegu Lefelau Sgôr

I ychwanegu lefel sgôr newydd ar gyfer maen prawf, cliciwch yr eicon Ychwanegu.

Diweddaru Sgôr

Ychwanegu Lefelau Sgôr

Yn y ffenestr Golygu Lefel Sgôr (Edit Rating), rhowch ddisgrifiad ar gyfer lefel sgôr y maen prawf. Yn ddiofyn, mae'r maes Lefel Sgôr (Rating Score) yn dangos y gwerth pwynt sydd rhwng y ddau ystod presennol [1]. I newid gwerth y pwyntiau ar gyfer lefel y sgôr, rhowch werth newydd ar gyfer y pwyntiau yn y maes Lefel y Sgôr (Rating Score). Gall pwyntiau fod yn rhifau cyfan (1, 5, 10) neu’n rhifau degol (0.3, 0.5, 2.75). Fodd bynnag, os ydych chi’n defnyddio ystod, rhaid i werth y pwyntiau fod yn rhifau cyfan.

Yn y maes Teitl Lefel y Sgôr (Rating Title) [2], rhowch deitl ar gyfer lefel y sgôr.

Yn y maes Disgrifiad o Lefel y Sgôr (Rating Description) [3], rhowch ddisgrifiad ar gyfer lefel y sgôr.

Cliciwch y botwm Diweddaru Cyfarwyddiadau Sgorio (Update Rubric) [4].

Rheoli Maen Prawf

Rheoli Maen Prawf

I olygu lefel sgôr, cliciwch yr eicon Golygu [1]. Mae golygu gwerth lefel sgôr penodol yn effeithio ar werth pwynt cyfan y maen prawf. Os byddwch chi’n addasu gwerth pwynt lefel sgôr, bydd gwerth pob lefel sgôr yn addasu ac yn diweddaru gwerth y pwyntiau ar gyfer y maen prawf.

I ddileu lefel sgôr, cliciwch yr eicon Dileu [2]. Cofiwch nad oes modd dileu'r lefel sgôr gyntaf na'r olaf ar gyfer y maen prawf.

I ddileu’r maen prawf i gyd, cliciwch yr eicon Dileu ar y maen prawf [3].

Ychwanegu Maen Prawf

Ychwanegu Maen Prawf

I ychwanegu maen prawf arall, cliciwch y ddolen Ychwanegu Maen Prawf (Add Criterion) [1]. I greu maen prawf newydd, cliciwch yr opsiwn Maen Prawf Newydd (New Criterion) [2]. I ddyblygu maen prawf sy’n bodoli eisoes, cliciwch enw’r maen prawf rydych chi am ei ddyblygu [3].

I ddod o hyd i ddeilliant i gyd-fynd â'r cyfarwyddyd sgorio, cliciwch y ddolen Dod o Hyd i Ddeilliant (Find Outcome) [4].

Nodyn: Does dim modd golygu deilliannau'n uniongyrchol mewn cyfarwyddyd sgorio.

Creu Cyfarwyddyd Sgorio

Creu Cyfarwyddyd Sgorio

Cliciwch y botwm Creu Cyfarwyddyd Sgorio (Create Rubric).

Gweld Cyfarwyddyd Sgorio

Gweld Cyfarwyddyd Sgorio

Gweld y cyfarwyddyd sgorio newydd.

I olygu’r cyfarwyddyd sgorio, cliciwch yr eicon Golygu [1]. I ddileu’r cyfarwyddyd sgorio, cliciwch yr eicon Dileu [2].

Nodyn: Bydd dileu cyfarwyddyd sgorio yn tynnu’r cyfarwyddyd sgorio yn gyfan gwbl o’r cyfarwyddiadau sgorio sydd ar gael sydd wedi’u rhestru yn unrhyw un o’ch cyrsiau. Dodes dim modd dadwneud y broses o ddileu cyfarwyddyd sgorio.