Sut ydw i'n ychwanegu defnyddwyr at gwrs?

Mae’n bosibl eich bod chi eisoes wedi ychwanegu ymrestriadau defnyddwyr at eich cwrs yn y Rhestr Atgoffa wrth Greu Cwrs. Fodd bynnag, gallwch wahodd defnyddwyr i ymuno â'ch cwrs unrhyw bryd os yw'r botwm Ychwanegu Pobl (Add People) ar gael ar y dudalen Pobl (People).

Os yw eich sefydliad yn defnyddio'r adnodd Mewngludo SIS (SIS Imports), does dim angen i chi ychwanegu unrhyw ddefnyddwyr sy'n rhan o gofnodion eich sefydliad ar gyfer y cwrs. Bydd eich gweinyddwr yn eu hychwanegu at y cwrs.

Gwahoddiadau Cwrs

Pan fydd ymrestriad yn cael ei ychwanegu at y cwrs â llaw, mae Canvas yn creu gwahoddiad cwrs ar ôl i’r cwrs gael ei gyhoddi. Rhaid i’r defnyddiwr dderbyn gwahoddiad y cwrs er mwyn cymryd rhan yn y cwrs. Nes bydd y defnyddiwr yn derbyn gwahoddiad y cwrs, bydd statws y defnyddiwr yn ymddangos fel ‘yn aros’. Sylwch pan fydd defnyddiwr yn cael gwahoddiad i ymrestru ar gyfer rôl bersonol, bydd y gwahoddiad yn cynnwys enw’r rôl sylfaenol.

Mewn cyfrifon Canvas, gall gweinyddwyr ganiatáu Cofrestru Agored, sy’n caniatáu i chi ychwanegu defnyddwyr at gwrs hyd yn oes os nad oes gan y defnyddwyr gyfrif Canvas eto. Bydd y defnyddiwr yn creu cyfrif wrth dderbyn gwahoddiad y cwrs. Fodd bynnag, os nad yw'r nodwedd Cofrestru Agored wedi’i galluogi, ni fydd modd ychwanegu defnyddwyr at eich cwrs oni bai fod ganddynt gyfrif Canvas eisoes.

Os yw eich sefydliad yn rhan o gyfrif ymddiriedolaeth, efallai y byddwch chi’n gweld canlyniad chwilio sy’n gysylltiedig â sefydliad arall wrth chwilio am ddefnyddiwr. Mae cyfrifon ymddiriedaeth yn caniatáu i ddefnyddwyr gael eu hychwanegu gan ddefnyddio’r un manylion adnabod ar draws mwy nag un sefydliad.

Ni fydd defnyddwyr yn cael gwahoddiad i gwrs tan ddyddiad cychwyn y cwrs. (Dyddiad y tymor yw'r dyddiad cychwyn fel arfer, oni bai fod y tymor yn cael ei ddiystyru gan ddyddiad adran neu gwrs penodol yng Ngosodiadau’r Cwrs.) Hefyd, rhaid i gyrsiau gael eu cyhoeddi cyn i fyfyrwyr gael gwahoddiadau cwrs.

Ni fydd defnyddwyr sydd wedi cael gwahoddiad i gwrs mewn rôl arsyllwr yn cael eu gwahodd oni bai nad oes ganddo gyfrif Canvas yn barod. Rhaid i Arsyllwyr sy'n ymrestru heb gyfrif Canvas greu cyfrif cyn y gallant fewngofnodi i'r cwrs.

Rolau Defnyddiwr

Wrth ychwanegu defnyddwyr at gwrs â llaw, gallwch ychwanegu defnyddiwr i unrhyw rôl sydd ar gael, gan gynnwys rolau personol fel rhai sydd wedi’u creu gan eich gweinyddwr. Os nad ydych chi’n siŵr pa hawliau sy'n cael eu caniatáu ar gyfer rôl benodol yn eich sefydliad, cysylltwch â'ch gweinyddwr Canvas.

Mae rolau cyffredinol yn cynnwys Cynorthwywyr Dysgu, Arsyllwyr a Dylunwyr:

  • Mae cynorthwywyr dysgu yn darparu cymorth yn ystod y cwrs ac mae ganddynt yr un hawliau neu rai o'r hawliau a roddir i addysgwyr.
  • Mae modd cysylltu arsyllwyr â myfyriwr a gweld cynnydd y myfyriwr yn y cwrs. Gall arsyllwyr fod yn rhieni, yn warcheidwaid a/neu’n fentoriaid.
  • Gall dylunwyr ychwanegu defnyddwyr eraill at y cwrs, gweld cynnwys y cwrs, creu trafodaethau, cyhoeddiadau, aseiniadau, cwisiau a nodweddion eraill sydd wedi’u llenwi â chynnwys. Mae’r rôl hon yn briodol ar gyfer dylunwyr addysgol, hyfforddwyr addysgol neu reolwyr rhaglenni sy'n gweithio gydag addysgwyr i ddylunio eu cyrsiau.

Mwy Nag Un Adran

Os ydych chi am ychwanegu'r un person at wahanol adrannau, gallwch chi ei ymrestru yn un adran ac yna ei ychwanegu at adrannau eraill yn ddiweddarach.

Sylwch:

  • Dydy gwahoddiadau Cwrs ddim yn cael eu hanfon nes bydd y cwrs wedi’i gyhoeddi
  • Mae modd ychwanegu ymrestriadau drwy system gwybodaeth myfyrwyr (SIS) eich sefydliad. Os yw ymrestriad yn cynnwys ID SIS, ni allwch ychwanegu ymrestriad at gwrs.
  • Mae ychwanegu defnyddwyr drwy’r botwm Ychwanegu Pobl (Add People) yn hawl cwrs. Os na allwch chi ychwanegu defnyddiwr at eich cwrs, mae eich sefydliad wedi atal y nodwedd hon.

Agor yr adnodd Pobl

Agor yr adnodd Pobl

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Pobl (People).

Ychwanegu Pobl

Ychwanegu Pobl

Cliciwch y botwm Ychwanegu Pobl (Add People).

Dewis Manylion Defnyddiwr

Rhoi Gwybodaeth am y Defnyddiwr

Yn y gwymplen Rôl (Role) [1], dewiswch rôl i’r defnyddiwr/defnyddwyr ar gyfer y cwrs, yn seiliedig ar y rolau cwrs sydd ar gael.

Yn y gwymplen Adran (Section) [2], dewiswch adran yn y cwrs ar gyfer y defnyddiwr/defnyddwyr.

Os ydych chi am gyfyngu'r defnyddwyr i ryngweithio â defnyddwyr eraill yn eu hadran yn unig, cliciwch y blwch ticio Gallu rhyngweithio â defnyddwyr eraill yn eu hadran yn unig (Can interact with users in their section only [3].

Cliciwch y botwm Nesaf (Next) [4].

Sylwch: Os ydych chi’n ychwanegu mwy nag un defnyddiwr ar yr un pryd, bydd y defnyddwyr hynny i gyd yn etifeddu'r un rôl a’r un adran.

Ychwanegu Defnyddwyr sy'n Bodoli Eisoes

Ychwanegu Defnyddwyr sy'n Bodoli Eisoes

Os yw Canvas yn dod o hyd i ddefnyddiwr sy’n bodoli eisoes, gallwch gadarnhau'r defnyddiwr cyn ychwanegu'r defnyddiwr at y cwrs [1].

Mae enw'r defnyddiwr yn ymddangos ar y dudalen ynghyd â gwybodaeth am y defnyddiwr, a gafodd ei defnyddio wrth chwilio am ddefnyddiwr. Er y gall Canvas ddangos colofnau chwilio ychwanegol, ni fydd gwybodaeth bresennol mewn cyfrif defnyddiwr yn cael ei dangos.

Pan fyddwch chi’n barod, cliciwch y botwm Ychwanegu Defnyddwyr (Add Users) [2].

Os nad yw Canvas wedi dod o hyd i’r defnyddiwr iawn, gallwch glicio y botwm Dechrau Eto (Start Over) [3].

Gweld Canlyniadau Chwilio

Gweld Enghreifftiau sy'n Cyfateb heb Ychwanegu

Os yw'r nodwedd Cofrestru Agored wedi’i hanalluogi ar gyfer eich sefydliad ac nad yw Canvas yn gallu dod o hyd i gyfatebiad ar gyfer y defnyddiwr/defnyddwyr, bydd Canvas yn rhoi gwybod i chi na chafwyd hyd i gyfatebiad.

Rhowch gynnig ar chwiliad newydd, cliciwch y botwm Yn ôl (Back).

Ychwanegu Defnyddiwr Newydd

Os yw'r nodwedd Cofrestru Agored wedi’i galluogi ar gyfer eich sefydliad ac nad yw Canvas yn gallu dod o hyd i gyfatebiad ar gyfer y defnyddiwr/defnyddwyr, gallwch ddewis ychwanegu'r defnyddiwr/defnyddwyr at eich cwrs.

Gall Canvas ofyn a ydych chi am greu cyfrif defnyddiwr newydd os nad oes gan y defnyddiwr enw defnyddiwr yng nghyfrif y cwrs, os yw cyfeiriad e-bost y defnyddiwr wedi’i gysylltu â defnyddiwr arall yn y cyfrif neu os nad yw'r sefydliad yn defnyddio proses dilysu wedi’i dirprwyo.

I ychwanegu'r holl ddefnyddwyr yn y canlyniadau chwilio, ticiwch y blwch Dewis y Cyfan (Select All) [1]. I ychwanegu defnyddiwr unigol, ticiwch y blwch wrth ymyl enw'r defnyddiwr [2].

Ychwanegu drwy Gyfeiriad E-bost

Ychwanegu drwy Gyfeiriad E-bost

Os ydych chi wedi chwilio am ddefnyddwyr mewn fformat sy’n cynnwys enw defnyddiwr, bydd unrhyw ddefnyddwyr rydych chi wedi’u dewis yn awtomatig yn cynnwys enwau’r defnyddwyr yn y rhestr ymrestriadau. Gallwch wneud addasiadau i’r enw defnyddiwr, os oes angen.

Os na chafodd enw'r defnyddiwr ei gynnwys, gallwch ddewis ychwanegu enw i gysylltu â chyfeiriad e-bost y defnyddiwr [2]. Fel arall, bydd Canvas yn defnyddio cyfeiriad e-bost y defnyddiwr fel yr enw defnyddiwr.

Cliciwch y botwm Nesaf (Next) [3].

Gweld Neges E-bost heb ei wirio

Gweld Neges E-bost heb ei wirio

Os byddwch chi’n ychwanegu defnyddiwr drwy e-bost ac nad yw ei gyfeiriad e-bost wedi cal ei wirio, efallai y byddwch chi’n gweld neges gwall. Os nad ydych chi’n gallu ychwanegu defnyddiwr gyda e-bost heb ei wirio at eich cwrs, rhaid i chi aros i’r defnyddiwr wirio eu cyfeiriad e-bost, neu ychwanegu’r defnyddiwr gan ddefnyddio ID SIS neu ID Mewngofnodi.

Ychwanegu drwy ID SIS neu ID Mewngofnodi

Ychwanegu drwy ID SIS neu ID Mewngofnodi

Os ydych chi am ychwanegu defnyddiwr gyda ID Mewngofnodi neu ID SIS, gallwch ddewis ychwanegu enw i gysylltu â'r defnyddiwr [1]. Bydd yn rhaid i chi gynnwys cyfeiriad e-bost ar gyfer y defnyddiwr hefyd [2].

Os nad ydych chi wedi rhoi enw defnyddiwr, bydd Canvas yn defnyddio cyfeiriad e-bost y defnyddiwr fel enw'r defnyddiwr.

Ar ôl i chi roi cyfeiriad e-bost, gallwch glicio y botwm Nesaf (Next) [3].

Ychwanegu Defnyddwyr

Ychwanegu Defnyddwyr

Mae angen i chi gadarnhau’r defnyddwyr rydych chi’n eu hychwanegu drwy’r dull chwilio rydych chi wedi'i ddewis. Cliciwch y botwm Ychwanegu Defnyddwyr (Add Users).

Gweld Ymrestriad Yn Aros

Gweld Ymrestriad Yn Aros

Nes bydd y defnyddiwr yn derbyn gwahoddiad y cwrs, bydd statws y defnyddiwr yn ymddangos fel ‘yn aros’. Bydd gwahoddiadau arsyllwyr yn dangos fel rhai sy’n aros dim ond os na fydd gan yr arsyllwr gyfrif Canvas eisoes.

Os ydych chi wedi ychwanegu defnyddiwr sydd heb gyfrif Canvas, gall y defnyddiwr greu cyfrif fel rhan o’r broses gwahoddiadau cwrs.

Ar ôl i’r defnyddiwr dderbyn gwahoddiad y cwrs, gallwch chi ryngweithio â'r defnyddiwr yn y cwrs. Gallwch chi anfon neges i’r defnyddiwr drwy'r nodwedd Sgyrsiau hefyd.

Os oes angen, bydd modd i chi olygu rôl defnyddiwr yn Canvas.

Sylwch: Gallai gymryd hyd at 24 awr i ddefnyddwyr gael eu gwahoddiadau. Ni fydd Canvas yn ystyried ymrestru’r defnyddiwr—ac ni fydd yn cydnabod y defnyddiwr unrhyw le yn Canvas—nes bydd y gwahoddiad wedi cael ei dderbyn. Os oes angen, bydd modd i chi ail-anfon gwahoddiadau cyrsiau.