Yn y maes Enw’r Aesiniad (Assignment Name) [1], rhowch enw eich cwis. I roi manylion cwis, rhowch yr uchafswm pwyntiau posib [2], dewiswch y grŵp aseiniadau [3], a dewiswch sut y bydd y radd yn cael ei dangos i fyfyrwyr [4].
I beidio â chynnwys y cwis hwn yn y radd derfyno, cliciwch y blwch ticio Peidio â chynnwys yr aseiniad hwn yn y radd derfynol (Do not count this assignment towards the final grade) [5].
Y pwyntiau posib a osodir ar dudalen manylion yr aseiniad yw cyfanswm y pwyntiau sy'n bosib ar gyfer y cwis. Mae'r pwyntiau a osodir fesul cwestiwn yn pennu'r pwyntiau a enillwyd ar gyfer atebion cywir. Mae pwyntiau a enillir am atebion cywir yn cael eu cyfrif a'u rhannu â chyfanswm y pwyntiau cwestiwn ar gyfer y cwis. Yna defnyddir y ganran honno i gyfrifo'r sgôr derfynol yn seiliedig ar gyfanswm y pwyntiau a osodir ar dudalen manylion yr aseiniad. Er enghraifft, os ydych chi'n gosod cyfanswm y pwyntiau ar dudalen manylion yr aseiniad i 50 ac yn creu cwis gyda 10 cwestiwn yr un gwerth 1 pwynt, mae gan y cwis gyfanswm o 10 pwynt ond mae'n werth 50 pwynt wrth ei raddio. Os yw myfyriwr yn ateb 9 cwestiwn yn gywir, ei sgôr cwis yw 90% (9/10). Ond, ei sgôr derfynol yn y Llyfr Graddau fydd 45/50 (90%).