Sut ydw i’n dewis cynnwys penodol fel rhan o broses fewngludo cwrs?

Wrth fewngludo cynnwys cwrs gyda’r Adnodd Mewngludo Cwrs, gallwch chi ddewis cynnwys penodol fel rhan o’r broses fewngludo. Mae’r opsiwn hwn yn gadael i chi ddewis meysydd cynnwys penodol fel aseiniadau, gosodiadau, a ffeiliau heb fewngludo’r cwrs cyfan.

Does dim modd copïo’r holl gynnwys fel rhan o gwrs.

Nodiadau:

  • Gall mewngludo cwrs fwy nag unwaith arwain at ganlyniadau anfwriadol. Os byddwch chi’n mewngludo cynnwys i gwrs newydd, yn golygu’r cynnwys yn y cwrs newydd, ac yna’n mewngludo'r cynnwys blaenorol eto, bydd y cynnwys sydd wedi'i fewngludo yn diystyru'r cynnwys presennol.
  • Os byddwch chi’n newid eich meddwl ar ôl dechrau mewngludo a’ch bod chi eisiau mewngludo holl gynnwys y cwrs, gallwch chi fewngludo’r holl gynnwys drwy ddewis pob eitem ar gyfer math o gynnwys.
  • I gael gwybodaeth am ffiniau’r Adnodd Mewngludo Cwrs, ewch i'r trosolwg o’r Adnodd Mewngludo Cwrs.

Agor Gosodiadau

Agor Gosodiadau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings).

Mewngludo Cynnwys i Gwrs

Mewngludo Cynnwys i Gwrs

Cliciwch y ddolen Mewngludo Cynnwys Cwrs (Import Course Content).

Dewis Cynnwys Penodol

Dewis Cynnwys Penodol

Yn yr adran Cynnwys, cliciwch y botwm radio Dewis Cynnwys Penodol (Select specific content).

Gweld Neges Rhybudd Mewngludo Cynnwys

Gweld Neges Rhybudd Mewngludo Cynnwys

Wrth fewngludo cynnwys, mae neges yn ymddangos yn egluro bod mewngludo’r un cynnwys cwrs neu allgludo pecyn mwy nag unwaith yn disodli unrhyw cynnwys syddd eisoes yn bodoli yn y cwrs.

Mewngludo Cwrs

Mewngludo Cwrs

Cliciwch y botwm Mewngludo (Import) [1].

Mae dangosydd cynnydd yn dangos y statws llwytho i fyny yn ôl canran [2].

Dewiswch Gynnwys

Yn yr adran Tasgan Presennol, cliciwch y botwm Dewis Cynnwys (Select Content).

Dewis Holl Gynnwys y Cwrs

Dewis Holl Gynnwys y Cwrs

Gall cynnwys fod yn eitem unigol [1] neu’n grŵp cynnwys [2]. Mae grwpiau cynnwys yn dangos nifer yr eitemau yn y grŵp. I weld cynnwys mewn grŵp, cliciwch eicon ehangu’r grŵp [3].

I fewngludo’r holl gynnwys ar gyfer math o gynnwys, cliciwch y blwch ticio wrth enw’r cynnwys [4]. Os yw’r math o gynnwys yn grŵp, mae Canvas yn dewis yr holl yn y grŵp yn awtomatig.

Dewis Cynnwys Grŵp Penodol

I fewngludo dim ond rhai eitemau o grŵp cynnwys, ehangwch y grŵp a dewis yr eitemau penodol i’w mewngludo [1]. Mae Canvas yn rhoi dash ym mlwch ticio’r grŵp cynnwys [2], gan nodi nad yw’r holl eitemau wedi’u dewis yn y grŵp.

Dewis Cynnwy Thin Common Cartridge

Dewis Cynnwy Thin Common Cartridge

Os gwnaethoch chi fewngludo ffeil Thin Common Cartridge (mewngludo Common Cartridge), mae’r math yma o ffeil yn cael ei mewngludo’r uniongyrchol fel cynnwys modiwl. Mae modd ehangu’r strwythur i weld cynllun wedi’i nythu sy’n efelychu’r strwythur cynnwys Dysgu sut i ddewis cynnwys gyda ffeiliau Thin Common Cartridge.

Dewiswch Gynnwys

Dewiswch Gynnwys

Cliciwch y botwm Dewis Cynnwys (Select Content) [2].

Gweld Tasgau Presennol

Mae’r adroddiadau yn dangos bar dewislen gyda'r amser sy'n weddill i orffen mewngludo. Gallwch weld cynnwys unrhyw brosesau mewngludo sydd wedi’u cwblhau drwy fynd i unrhyw ddolen yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs.

Hefyd, bydd yr eitem sy’n cael ei mewngludo yn dangos gwallau fel rhan o’r statws mewngludo. Gallwch ddysgu mwy am statws mewngludo cyrsiau.