Sut ydw i’n creu trafodaeth fel addysgwr?
Fel addysgwr, gallwch greu trafodaeth ar gyfer eich cwrs. Mae'r wers hon yn amlinellu amrywiaeth o opsiynau i ddewis ohonynt er mwyn addasu trafodaeth ar gyfer eich cwrs.
Nodyn: Mae modd i drafodaethau fod wedi’u graddio neu heb eu graddio. Os yw myfyriwr yn atodi ffeil i drafodaeth heb ei graddio, yna mae maint y ffeil yn cyfrif tuag at gwota storio’r myfyriwr. Ond, dydy atodiadau sy’n cael eu hychwanegu at drafodaethau wedi’u graddio ddim yn cyfrif tuag at gwota storio myfyriwr.
Agor Trafodaethau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Trafodaethau (Discussions).
Creu Trafodaeth

Ychwanegwch deitl at eich trafodaeth yn y maes Teitl Pwnc (Topic Title) [1].
I ychwanegu cynnwys at drafodaeth, ddefnyddiwch y Golygydd Cynnwys Cyfoethog [2]. Mae’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn cynnwys cyfrif geiriau o dan gornel dde isaf y blwch testun [3].
Os hoffech chi greu trafodaeth benodol i’r adran sydd heb ei graddio, cliciwch y gwymplen Postio i (Post to) [4]. Gallwch chi ddewis un neu fwy nag un adran. I greu trafodaethau wedi’u graddio sy’n benodol i adran, defnyddiwch yr opsiynau trafodaeth.
Nodyn: Pan fydd dogfen yn cael ei llwytho i fyny i’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog o gwis, mae’r ffeil yn cael ei chadw yn y ffolder Cyfryngau wedi’u Llwytho i Fyny yn Ffeiliau’r Cwrs ac yn ddiofyn bydd wedi’i guddio. Gall myfyrwyr weld y ffeil pan fydd y cwis ar gael iddynt. Dysgu mwy am opsiynau gweld ffeiliau.
Ychwanegu Atodiad

I ychwanegu atodiad at eich trafodaeth, glicio’r botwm Dewis Ffeil (Choose File) [1].
Os yw’n ofynnol yn eich sefydliad, bydd angen i chi ddewis gosodiadau hawliau defnyddio ar gyfer eich atodiad. I olygu gosodiadau hawliau defnyddio, cliciwch yr eicon Gosod hawliau defnyddio (Set usage rights) [2].
Yn y gwymplen Hawliau Defnydddio (Usage Right) [3], dewiswch un o bum hawl defnyddio. Os ydych chi’n addysgwr ac nad ydych chi’n siŵr pa hawliau defnyddio sy’n berthnasol i’ch ffeil, gofynnwch i weinyddwyr eich sefydliad am gyngor:
- Fi sydd biau’r hawlfraint (cynnwys gwreiddiol sydd wedi’i greu gennych chi)
- Rydw i wedi cael caniatâd i ddefnyddio’r ffeil (caniatâd awdurdodedig gan yr awdur)
- Mae’r deunydd yn y parth cyhoeddus (wedi’i neilltuo’n benodol i’r parth cyhoeddus, nid oes modd ei ro o dan hawlfraint, neu nid yw wedi’i ddiogelu gan hawlfraint mwyach)
- Mae’r eithriad yn berthnasol i'r deunydd - ee defnydd teg, yr hawl i ddyfynnu, neu hawliau eraill o dan y cyfreithiau hawlfraint perthnasol (dyfyniad neu grynodeb yn cael eu defnyddio ar gyfer sylwadau, adrodd y newyddion, ymchwil, neu ddadansoddiad mewn addysg)
- Mae’r deunydd wedi'i drwyddedu o dan Creative Commons; mae’r opsiwn hwn yn golygu gosod trwydded Creative Commons benodol
Os yw’n hysbys, rhowch wybodaeth perchennog yr hawlfraint yn y maes Perchennog yr Hawlfraint (Copyright Holder) [4].
I gadw eich gosodiadau hawliau defnyddio, cliciwch y botwm Cadw (Save) [5]. Gallwch chi olygu gosodiadau hawliau defnyddio drwy glicio’r eicon Gosod hawliau defnyddio.
Ychwanegu Opsiynau Trafodaeth

Yn ddiofyn, mae trafodaethau yn cael eu creu fel trafodaethau penodol. I greu trafodaeth aml-drywydd, cliciwch y blwch ticio Caniatáu atebion aml-drywydd (Allow threaded replies) [1].
I’w gwneud yn ofynnol i ddefnyddwyr ymateb i’r drafodaeth cyn cael gweld unrhyw atebion eraill, cliciwch y blwch ticio Mae’n rhaid i ddefnyddwyr gyflwyno postiadau cyn gweld atebion [2].
I alluogi ffrwd podlediad trafodaeth, cliciwch y blwch ticio Galluogi ffrwd podlediad (Enable podcast feed) [3].
I adael i fyfyrwyr hoffi atebion trafodaeth, cliciwch y blwch ticio Caniatáu Hoffi (Allow liking) [4].
I ychwanegu trafodaeth heb ei graddio at y tasgau sydd gan fyfyriwr i’w gwneud, ticiwch y blwch Ychwanegu at y tasgau sydd gan fyfyriwr i’w gwneud (Add to student to-do) [5]. Mae’r tasgau sydd gan fyfyriwr i’w gwneud yn ymddangos yng nghalendr y cwrs, yn y Dangosfwrdd Gwedd Rhestr penodol i fyfyrwyr, ac yn rhestr tasgau i’w gwneud tudalen hafan y cwrs a thudalen hafan y safle cyfan. Mae mathau o gwisiau a fydd yn cael eu graddio i’w gweld yn y Maes Llafur, Llyfr Graddau, Calendr, a’r Rhestr o dasgau i’w gwneud.
I wneud y drafodaeth yn drafodaeth grŵp, cliciwch y blwch ticio Mae Hon yn Drafodaeth Grŵp (This is a Group Discussion) [6].
I ddarparu eich trafodaeth ar ddyddiad penodol neu yn ystod cyfnod penodol defnyddiwch y dyddiadau ar gael, i roi’r dyddiadau yn y meysydd Ar gael o a Tan [7], neu cliciwch yr eiconau calendr i ddewis dyddiadau. Os byddwch chi'n creu trafodaeth wedi’i graddio, bydd modd gosod y dyddiadau Ar gael o (Available From) a Tan (Until) yn y maes Neilltuo (Assign). Cyn y dyddiad Ar gael o (Available From), dim ond teitl y drafodaeth fydd myfyrwyr yn gallu ei weld. Ar ôl y dyddiad Tan (Until), bydd modd i fyfyrwyr weld y pwnc trafod a phob ateb ond ni fydd modd ychwanegu na golygu unrhyw atebion.
Creu Trafodaeth wedi’i Graddio

I greu trafodaeth wedi'i graddio, cliciwch y blwch ticio Wedi graddio. Os bydd yr opsiwn hwn wedi’i dewis, bydd opsiynau ychwanegol yn cael eu hychwanegu at y dudalen, lle byddwch yn gallu neilltuo trafodaeth wedi’i graddio i bawb, myfyrwyr unigol,, adrannau cwrs, neu grwpiau cwrs.
Nodyn: Os ydych chi am greu trafodaeth wedi’i graddio ac eich bod wedi ychwanegu adrannau at y maes Postio i, yna ni fydd yr opsiwn Wedi’i graddio ar gael. Rhaid i chi dynnu’r adrannau o’r maes Postio cyn dewis yr opsiwn hwn. Byddwch yn gallu ychwanegu adrannau fel rhan o’r opsiwn trafodaeth wedi’i graddio.
Cadw a Chyhoeddi

Os ydych chi’n barod i gyhoeddi eich trafodaeth, cliciwch y botwm Cadw a Chyhoeddi (Save & Publish) [1]. Os ydych chi am greu drafft o’ch trafodaeth a’i chyhoeddi rywbryd eto, cliciwch y botwm Cadw (Save) [2].

Pan fydd eich trafodaeth yn cael ei chadw ar ffurf drafft, gallwch fynd yn ôl i’r dudalen a'i chyhoeddi ar unrhyw adeg drwy glicio’r botwm Cyhoeddi (Publish) yn y rhyngwyneb Trafodaethau clasurol [1] neu’r eicon Cyhoeddi (Publish) yn y rhyngwyneb Ailddylunio Trafodaethau [2].