Sut ydw i’n cloi gwrthrychau cwrs mewn cwrs glasbrint fel addysgwr?

Os ydych chi wedi ymrestru ar gwrs glasbrint fel addysgwr, gallwch gloi a datgloi gwrthrychau yn y cwrs a chysoni cynnwys ar gyfer y cwrs glasbrint. Gan ddibynnu ar ddewis eich gweinyddwr, gall gwrthrychau wedi’u cloi gynnwys priodoleddau ar gyfer cynnwys, pwyntiau, dyddiadau erbyn a dyddiadau ar gael. Gall priodoleddau fod yn berthnasol i rai mathau o wrthrychau neu i bob math ohonynt: aseiniadau, trafodaethau, tudalennau, ffeiliau a chwisiau.

Os nad ydych chi’n siŵr sut mae gwrthrychau’n cael eu diffinio ar gyfer y cwrs, gallwch weld priodoleddau wedi’u cloi drwy edrych ar wrthrych unigol. Gall gweinyddwr newid priodoleddau wedi’u cloi yn y glasbrint unrhyw bryd.

Gwrthrychau Wedi’u Cloi

Mae cloi gwrthrych mewn cwrs yn gorfodi'r priodoleddau sydd wedi’u diffinio gan eich gweinyddwr Canvas. Bydd unrhyw newid i briodoledd ar ôl hynny'n berthnasol i bob gwrthrych sydd wedi’i gloi yn y cwrs cysylltiedig. Os yw priodoledd wedi’i alluogi ar gyfer gwrthrychau wedi’u cloi yn y cwrs glasbrint, bydd unrhyw briodoleddau wedi’u cloi yn y cwrs cysylltiedig, sy’n amrywio o briodoleddau wedi’u cloi yn y cwrs glasbrint, yn arwain at newidiadau heb eu cysoni yn y cwrs glasbrint ac yn diystyru’r gwrthrychau yn y cwrs cysylltiedig.

Pan fyddwch chi’n cloi neu'n datgloi gwrthrych, bydd hynny’n newid yn syth ym mhob cwrs cysylltiedig. Fodd bynnag, bydd y newid hwn yn dal i gael ei nodi fel newid heb ei gysoni ac ni fydd yn ymddangos ar y dudalen Hanes Cysoni (Sync History) nes bod y broses cysoni wedi gorffen. Nid yw newidiadau’n cael eu hadnabod fel newidiadau heb eu cysoni nes bod y dudalen wedi’i hadnewyddu chwaith. 

Gwrthrychau wedi’u Datgloi

Gall gwrthrychau wedi’u datgloi gael eu rheoli gan addysgwr cwrs yn y cwrs cysylltiedig yn yr un modd ag unrhyw wrthrych Canvas arall. Os caiff y cwrs glasbrint ei gysoni a bod yr addysgwr wedi addasu gwrthrychau wedi’u datgloi yn y cwrs cysylltiedig, ni chaiff gwrthrychau wedi’u datgloi eu diystyru gan y newidiadau sydd wedi’u cysoni.

Mae modd cloi gwrthrychau glasbrint wedi’u datgloi unrhyw bryd. Os ydych chi’n cloi gwrthrych sydd heb ei gyhoeddi, a bod y gwrthrych hwnnw eisoes wedi’i dynnu oddi ar gwrs cysylltiedig, bydd y gwrthrych yn cael ei ddiystyru yn y cwrs cysylltiedig.

Rheoli Gwrthrychau

Mae'r erthygl hwn yn dangos sut mae cloi gwrthrych o’r dudalen Aseiniadau. Mae modd rheoli gwrthrychau ar y tudalennau Ffeiliau, Modiwlau, Tudalennau a Chwisiau hefyd.

Yn Modiwlau, dim ond eitemau modiwl unigol y bydd modd eu cloi. Caiff newidiadau i strwythur y modiwlau eu sbarduno fel rhan o broses cysoni cwrs.

Note: Ni allwch chi gloi a datgloi gwrthrychau oni bai eu bod wedi’u creu yn y cwrs glasbrint. Ni fydd unrhyw wrthrychau newydd sydd wedi’u hychwanegu at gwrs cysylltiedig gan addysgwr yn cynnwys eicon glasbrint ac ni fyddant yn gysylltiedig â'r cwrs glasbrint.  

Agor Cwrs

Agor Cwrs

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyrsiau (Courses) [1], yna cliciwch enw’r cwrs glasbrint [2].

Agor Aseiniadau

Agor Aseiniadau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Aseiniadau (Assignments).

Note: Mae modd rheoli gwrthrychau ar y tudalennau Ffeiliau, Modiwlau, Tudalennau a Chwisiau hefyd.

Gweld Statws Eicon

Gweld Eiconau Glasbrint - Tudalen Aseiniadau

Gallwch weld statws pob gwrthrych ar unrhyw dudalen Mynegai. Mae sgwariau gwyn yn dangos bod y gwrthrych wedi’i ddatgloi [1]. Mae sgwariau glas gydag eicon ar glo yn dangos bod y gwrthrych wedi’i gloi [2].

Caiff gwrthrychau eu datgloi yn ddiofyn. Gallwch newid statws gwrthrych drwy doglo’r eiconau cloi a datgloi.

Cloi Gwrthrych

Cloi Gwrthrych mewn Tudalen Mynegai

I gloi gwrthrych, cliciwch eicon datgloi y gwrthrych. Bydd y testun sydd i’w weld wrth hofran yn cadarnhau eich bod am gloi'r gwrthrych.

Datgloi Gwrthrych

Datgloi Gwrthrych yn y Dudalen Mynegai

I ddatgloi gwrthrych, cliciwch eicon cloi y gwrthrych. Bydd y testun sydd i’w weld wrth hofran yn cadarnhau eich bod am ddatgloi'r gwrthrych.

Gweld Statws mewn Gwrthrych Unigol

Bwrdd Gwaith

Ac eithrio mewn ffeiliau, gellir addasu statws glasbrint mewn gwrthrychau unigol.

Rhaid cloi neu ddatgloi ffeiliau yn y brif dudalen Ffeiliau (Files).

Cloi Gwrthrych

Cloi Gwrthrych Unigol

I gloi gwrthrych wedi’i ddatgloi, cliciwch y botwm Glasbrint (Blueprint). Bydd y botwm yn newid o lwyd i las ac yn dangos fod y gwrthrych wedi’i gloi.

Datgloi Gwrthrych

Datgloi Gwrthrych Unigol

Mae gwrthrychau unigol yn dangos y priodoleddau sydd wedi’u cloi.

I ddatgloi gwrthrych wedi’i gloi, cliciwch y botwm Wedi’i Gloi (Locked). Bydd y botwm yn newid o las i lwyd ac yn dangos fod y gwrthrych wedi’i ddatgloi. Bydd y faner priodoleddau wedi’u cloi hefyd yn cael ei thynnu oddi ar y dudalen.

Gweld Mynediad Addysgwr

Gweld Aseiniad wedi’i Gloi - Gwedd Addysgwr

Gall addysgwyr mewn cwrs cysylltiedig weld eiconau wedi’u cloi ac eiconau wedi’u datgloi ar y dudalen Mynegai. Fodd bynnag, ni allant reoli statws presennol gwrthrych.

Ar gyfer gwrthrychau sydd wedi’u cloi, mae’r dudalen unigol yn dangos y priodoleddau wedi’u cloi sydd wedi’u dewis yng Ngosodiadau’r Cwrs (Course Settings), os o gwbl. Ni all addysgwyr mewn cyrsiau cysylltiedig addasu gwrthrychau wedi’u cloi, felly ni all unrhyw briodoleddau sydd wedi’u cloi gael eu golygu.

Gweld Tudalen Olygu ar gyfer Aseiniad Wedi’i Gloi