Ar ôl i mi gyhoeddi cwis wedi’i amseru, sut alla i roi amser ychwanegol i fy myfyrwyr?

Os ydych chi wedi gosod terfyn amser ar eich cwis, gallwch chi roi mynediad at amser ychwanegol. Os nad yw’r myfyriwr wedi cymryd y cwis, bydd yr amser ychwanegol yn cael ei ychwanegu at ymgais gyntaf y myfyriwr ac ar ymgeisiadau ychwanegol. Gallwch ddysgu mwy am reoli ymgeisiadau ychwanegol.

Os oes myfyriwr yn gwneud y cwis tra eich bod chi’n edrych ar y dudalen Safoni Cwis, gallwch chi ymestyn amser y cwis fel rhan o’u hymgais bresennol. Gallwch chi ddewis faint o funudau i ymestyn y cwis, a ph’un ai ydych chi eisiau ychwanegu’r munudau hynny ar yr amser cyfredol neu’r amser gorffen cyfredol (wedi’i drefnu)

Nodyn:

  • Rhaid i gwis gael ei gyhoeddi cyn y gallwch chi ei safoni. Os hoffech chi reoli’r opsiynau safoni cwis cyn gadael i fyfyrwyr gael gafael arno, gosodwch ddyddiad Ar Gael O y cwis i ddyddiad yn y dyfodol a chyhoeddi’r cwis. Ni fydd eich myfyrwyr yn derbyn hysbysiad ar gyfer cwis sydd ddim ar gael. Ar ôl i chi safoni’r amser, gallwch chi ddatgyhoeddi’r cis i gadw eich gwaith safoni. Yna, gallwch chi barhau i olygu’r cwis cyn ei gyhoeddi i’ch myfyrwyr gael gafael arno.
  • Mae dyddiadau argaeledd y cwis dal yn berthnasol wrth safoni cwis. Os bydd y dyddiad Ta yn pasio tra bo myfyrwyr yn gwneud y cwis gydag amser estynedig, bydd y cwis yn cael ei gyflwyno’n awtomatig hyd yn oed os nad yw estyniad amser y myfyriwr wedi dod i ben.
  • Yr amser hiraf y gallwch chi ymestyn ymgais bresennol yw 1440 munud (24 awr)
  • Os byddwch chi’n rhoi amser ychwanegol i fyfyriwr yn ystod cwis sydd ar ei hanner gyda dyddiad ar amser argaeledd wedi’i gosod, bydd eu hamser cyflwyno yn hwyrach na’r amser argaeledd sydd wedi’i ddewis.

Agor Cwisiau

Agor Cwisiau

Yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs, cliciwch y ddolen Cwisiau (Quizzes).

Agor Cwis

Agor Cwis

Cliciwch enw’r cwis.

Safoni’r Cwis Hwn

Safoni’r Cwis Hwn

Cliciwch y ddolen Safoni’r Cwis Hwn (Moderate This Quiz).

Safoni Cwis

I safoni cwis ar gyfer un myfyriwr, dewch o hyd i’r myfyriwr a chlicio’r eicon Golygu [1]. Gallwch chi hefyd hidlo myfyrwyr yn eich cwrs drwy ddefnyddio’r maes Chwilio Pobl (Search People) [2]:

Safoni Cwis ar gyfer mwy nag un myfyriwr

Os ydych chi eisiau dewis mwy nag un myfyriwr, cliciwch y blwch ticio [1] wrth bob un o’u henwau. Os ydych chi eisiau dewis pob myfyriwr, cliciwch y blwch ticio ar y brig [2]/ Cliciwch y botwm Newid Estyniadau ar gyfer [#] Myfyriwr sydd wedi’u dewis (Change Extensions for [#] Selected Students) [3].

Ychwanegu Amser Ychwanegol at Ymgais

Ychwanegu Amser Ychwanegol at Ymgais

Teipiech nifer y munudau yn y maes Amser Ychwanegol ar Bob Ymgais (Extra Time on Every Attempt). Dim ond mewn cyfnodau o funud y mae modd ychwanegu amser ychwanegol.

Os ydych chi’n ychwanegu amser ar gyfer mwy nag un myfyriwr, bydd y blwch estyniad myfyrwyr yn rhoi’r amser ychwanegol i bob myfyriwr sydd wedi’i ddewis.

Os nad yw’r myfyriwr wedi cymryd y cwis, bydd yr amser ychwanegol yn cael ei ychwanegu at ymgais gyntaf y myfyriwr ac ar ymgeisiadau ychwanegol. Gallwch ddysgu mwy am reoli ymgeisiadau ychwanegol.

Nodiadau:

  • Dim ond ar gyfer cwisiau gyda therfyn amser y mae’r maes Amser Ychwanegol ar Bob Ymgais (Extra Time on Every Attempt) yn ymddangos.
  • Mae dyddiadau argaeledd y cwis dal yn berthnasol wrth safoni cwis. Os bydd y dyddiad Ta yn pasio tra bo myfyrwyr yn gwneud y cwis gydag amser estynedig, bydd y cwis yn cael ei gyflwyno’n awtomatig hyd yn oed os nad yw estyniad amser y myfyriwr wedi dod i ben.

Ychwanegu Amser Ychwanegol at Ymgais Bresennol

Os oes myfyriwr yn gwneud y cwis tra eich bod chi’n edrych ar y dudalen Safoni Cwis, gallwch chi ymestyn amser y cwis fel rhan o’u hymgais bresennol.

Ar gyfer ymgeisiadau presennol, bydd yr amser sydd ar ôl yn ymddangos wrth ymyl eicon cloc.

I ymestyn yr amser ar y cwis, cliciwch yr eicon cloc.

Nodyn: Dim ond ar gyfer un ymgais cwis presennol ar y tro y gallwch chi ymestyn yn amser.

Ymestyn Amser Cwis

Ymestyn Amser Cwis

Bydd Canvas yn dangos i chi pryd y cychwynnodd y cwis, a phryd y bydd yn gorffen.

Ymestyn Amser Cwis

Yn y maes munudau [1], rhowch nifer y munudau ychwanegol rydych chi eisiau eu rhoi i fyfyriwr fel rhan o’u hymgais bresennol. Yr amser hiraf y gallwch chi ymestyn ymgais bresennol yw 1440 munud (24 awr)

Yn y gwymplen amser [2], dewiswch p’un ai ydych chi eisiau ychwanegu’r munudau hynny ar yr amser cyfredol neu’r amser gorffen cyfredol (wedi’i drefnu)

Os ydych chi eisiau gorffen y cwis mewn perthynas â’r amser presennol, dewiswch yr opsiwn nawr (now) yn y gwymplen.

  • Er enghraifft, cychwynnodd fyfyriwr gwis 20 munud am 11:30 am; bydd y cwis yn gorffen am 11:50 am. Fe wnaethoch chi safoni’r cwis hwn am 11:40, gan olygu fod 10 munud wedi mynd heibio. Ond, rydych chi eisiau i’r cwis orffen am 11:45 Gan fod yr amser presennol yn 11:40, mae angen i chi orffen y cwis mewn 5 munud. Rhowch y rhif 5 yn y maes munudau, a dewis yr opsiwn nawr (now) yn y gwymplen.

 

Os ydych chi eisiau gorffen y cwis mewn perthynas ag amser gorffen presennol y cwis, dewiswch yr opsiwn amser gorffen presennol (current end time) yn y gwymplen.

  • Er enghraifft, cychwynnodd fyfyriwr gwis 20 munud am 11:30 am; bydd y cwis yn gorffen am 11:50 am. Fe wnaethoch chi safoni’r cwis hwn am 11:30, gan olygu ei fod bron yr un pryd ag y cychwynnodd y myfyriwr y cwis, ac rydych chi eisiau ymestyn y cwis i orffen am hanner dydd. Os mai’r amser gorffen presennol yn 11:50 a’ch bod chi eisiau ei ymestyn o 10 munud, rhowch yn rhif 10 yn y maes munudau a dewis yr opsiwn amser gorffen presennol (current end time) yn y gwymplen.  

Nodyn: Mae dyddiadau argaeledd y cwis dal yn berthnasol wrth safoni cwis. Os bydd y dyddiad Ta yn pasio tra bo myfyrwyr yn gwneud y cwis gydag amser estynedig, bydd y cwis yn cael ei gyflwyno’n awtomatig hyd yn oed os nad yw estyniad amser y myfyriwr wedi dod i ben.

Ymestyn Amser

Ymestyn Amser

Cliciwch y botwm Ymestyn Amser (Extend Time).

Rhybudd Llai o Amser

Rhybudd Llai o Amser

Mae’n bosib y bydd newid yr amser mewn perthynas â’r opsiwn Nawr (Now) yn golygu y bydd gan y myfyriwr lai o amser nag oedd ar y cloc yn wreiddiol. Er enghraifft, roedd gan y myfyriwr 10 munud ar ôl pan wnaeth yr addysgwr safoni’r cwis. Mae newid yr amser i 5 munud yn golygu fod gan y myfyriwr 5 munud yn llai i wneud y cwis.  

Os ydych chi eisiau newid yr opsiwn hwn, cliciwch y botwm Canslo. Neu, cliciwch y botwm Iawn (OK).

Cadarnhau Estyniad

Cadarnhau Estyniad

Gweld estyniadau amser myfyriwr ar y dudalen Safoni Cwis.  

Nodyn: Ar ôl i chi orffen safoni cwis, gallwch chi ddatgyhoeddi’r cwis a bydd yr holl waith safoni’n cael ei gadw. Yna, gallwch chi barhau i olygu’r cwis cyn ei gyhoeddi i’ch myfyrwyr gael gafael arno.