Sut ydw i’n ychwanegu ap allanol mewn cwrs?

Mae llawer o lefydd lle gallwch chi ddod o hyd i Apiau (Apps) i’w defnyddio yn eich cyrsiau. Mae modd i chi ychwanegu apiau allanol yng Nghanolfan Apiau Canvas, yn yr Edu App Center neu drwy adnoddau a ddarperir gan werthwyr.

Ar ôl eu ffurfweddu, bydd modd ychwanegu apiau allanol at Fodiwlau, dewislen Crwydro'r Cwrs, y Golygydd Cynnwys Cyfoethog ac Aseiniadau. Dylai'r ap allanol gynnwys gwybodaeth ynghylch lle mae modd gosod yr ap yn Canvas.

Dysgu mwy am Apiau Allanol.

Gweld Canolfan Apiau Canvas

Gweld Canolfan Apiau Canvas

Mae Canolfan Apiau Canvas yng Ngosodiadau’r Cwrs a’r ganolfan hon yw eich porth at adnoddau dysgu effeithiol y mae modd eu hintegreiddio’n hawdd i gyfrif neu gwrs Canvas. Mae modd gosod yr apiau hyn yn Canvas gydag un clic.

Gweld Edu App Center

Os nad yw eich sefydliad wedi ffurfweddu Canolfan Apiau Canvas, mae'r Edu App Center yn rhestru mynegai o’r holl Apiau Allanol sy’n gydnaws â Canvas ar hyn o bryd ac mae’r rhestr yn cael ei diweddaru’n rheolaidd.

Mae pob ap yn rhoi manylion y mae modd eu defnyddio i ffurfweddu apiau eich hun, drwy URL, neu drwy XML.

Defnyddio Adnoddau a Ddarperir gan Werthwyr

Defnyddio Adnoddau a Ddarperir gan Werthwyr

Mae llawer o werthwyr yn integreiddio eu hadnoddau allanol eu hunain. Bydd gan werthwyr eu tudalennau glanio eu hunain gyda chyfarwyddiadau ar ffurfweddu a defnyddio’r adnodd. Bydd rhai gwerthwyr yn darparu Common Cartridge a fydd yn mewngludo'r adnoddau i chi. Fodd bynnag, bydd yn rhaid i unrhyw ap a ddefnyddir gan werthwr gael allwedd a chyfrinach wedi’i darparu gan y gwerthwr a bydd yn rhaid iddo gael ei ffurfwedduâ llaw, drwy URL, neu drwy XML.