Sut ydw i’n rhoi ac yn golygu graddau yn y Llyfr Graddau?

Mae’n bur debyg mai’r SpeedGrader fyddwch chi’n ei ddefnyddio i roi’r graddau. Bydd y graddau’n ymddangos yn y Llyfr Graddau pan fyddwch wedi gorffen. Ond, gallwch chi roi a golygu graddau eich hun yn y Llyfr Graddau.

Mae aseiniadau yn y Llyfr Graddau’n cael eu dangos â gwerth pwynt yr aseiniad bob tro. Ond, gallwch newid yr aseiniad i ddangos graddau ar gyfer math penodol o raddio.

Hefyd, gallwch ddefnyddio ffeil CSV i fewngludo graddau.

Pan fydd sgôr aseiniad yn cael ei rhoi fel gradd llythyren yn y Llyfr Graddau, y sgôr canran ar gyfer yr aseiniad yw terfyn uchaf yr ystod sydd wedi’i neilltuo i’r radd llythyren yn y cynllun graddio. Os bydd disodli gradd olaf yn cael ei rhoi fel gradd llythyren, y sgôr canran ar gyfer yr aseiniad yw terfyn isaf yr ystod sydd wedi’i neilltuo i’r radd llythyren yn y cynllun graddio.

Er enghraifft, efallai bod cynllun graddio eich cwrs yn neilltuo ystod o 86% i 89% ar gyfer gradd llythyred B+. Byddai rhoi B+ ar gyfer aseiniad yn neilltuo canran o 89% ond byddai rhoi B+ ar gyfer disodli gradd olaf yn neilltuo canran o 86% I sicrhau bod myfyrwyr yn derbyn canran benodol ar gyfer aseiniad neu radd derfynol, rhowch sgôr yr aseiniad neu ddisodli gradd fel canran.

Nodiadau:

  • Wrth ddefnyddio aseiniadau sydd wedi’u gwahaniaethu, bydd yr aseiniad yn ymddangos fel colofn i bob myfyriwr, ond bydd celloedd y radd yn lliw llwyd i fyfyrwyr sydd ddim yn rhan o’r aseiniad neu o adran sydd yn aseiniad. Does dim modd neilltuo graddau i fyfyrwyr sydd ddim yn rhan o’r aseiniad neu adran; dydy’r aseiniadau hynny ddim yn cael eu cynnwys yn y graddau cyffredinol.
  • Os byddwch chi’n dewis peidio neilltuo myfyriwr neu adran i aseiniad sydd wedi'i wahaniaethu ac rydych chi wedi'i raddio’n flaenorol, bydd y radd a’r cyflwyniad yn cael eu tynnu o’r aseiniad. Gallwch chi adfer y cyflwyniad drwy ailneilltuo’r aseiniad i’r myfyriwr.
  • Pan mae Mwy nag un Cyfnod Graddio (Multiple Grading Periods) ar waith mewn cwrs, does dim modd i chi olygu graddau ar gyfer unrhyw aseiniad sydd ag o leiaf un myfyriwr mewn cyfnod graddio sydd wedi dod i ben.
  • Yn dibynnu ar fanylion aseiniad cwis, efallai na fydd cwisiau sydd yn werth dim pwyntiau yn ymddangos yn y Llyfr Graddau.
  • Mae tudalen Hanes Llyfr Graddau yn cofnodi pob newid mewn gradd yn y Llyfr Graddau ac mae modd eu gweld unrhyw bryd.

Agor Graddau

Agor Graddau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Graddau (Grades).

Dod o hyd i Aseiniad Myfyriwr

Dod o hyd i Aseiniad Myfyriwr

Dewch o hyd i enw’r myfyriwr a’r aseiniad ble rydych chi eisiau rhoi gradd.

Rowch Radd

Rowch Radd

Bydd graddau’n cael eu rhoi yn ôl gosodiad Dangos Gradd yr aseiniad. Mae modd rhoi graddau fel un o bum opsiwn: pwyntiau, cwblhau/heb gwblhau, gradd llythyren, canran, a GPA. Gallwch newid yr aseiniad i ddangos graddau ar gyfer math penodol o raddio.

Nodyn: Pan fyddwch chi'n cyrraedd diwedd colofn, bydd pwyso'r fysell Return neu'r fysell Enter yn mynd â chi i frig y golofn nesaf.

Rhoi Gradd Pwyntiau

Rhoi Gradd Pwyntiau

I roi gradd pwyntiau, rhowch nifer y pwyntiau yn y gell a phwyso’r fysell Return (ar fysellfwrdd Mac) neu’r fysell Enter (ar fysellfwrdd cyfrifiadur).

Rhoi Gradd wedi'i Chwblhau neu Heb ei Chwblhau

Rhoi Gradd wedi'i Chwblhau neu Heb ei Chwblhau

I roi gradd gyflawl neu anghyflawn, cliciwch y gwymplen yn y gell a dewis yr eicon rydych chi eisiau. Mae’r opsiynau graddio’n cynnwys wedi cwblhau, heb gwblhau, heb ei raddio, ac wedi’i esgusodi.

Rhowch Radd Llythyren

Rhowch Radd Llythyren

Cliciwch y gwymplen a dewiswch radd llythyren o’r ddewislen.

 

Rhowch Radd Llythyren

Gallwch hefyd roi gradd llythyren eich hun. Rhowch y llythyren sy’n cyfateb i’r raddfa lythrennau sydd wedi'i diffinio gan y cynllun graddau, a phwyso’r fysell Return (ar fysellfwrdd Mac) neu’r fysell Enter (ar fysellfwrdd cyfrifiadur).

Gweld Gwall Dilysu Gradd Llythyren

Gweld Gwall Dilysu Gradd Llythyren

Os byddwch chi’n rhoi gradd llythyren nad yw’r cynllun graddio yn gallu delio ag o, bydd y gell yn dangos eicon rhybudd gradd annilys. Bydd Canvas hefyd yn dangos neges rhybudd gradd annilys.

Rhowch Radd Canran

Rhowch Radd Canran

I roi gradd canran, rhowch y ganran yn y gell a phwyso’r fysell Return (ar fysellfwrdd Mac) neu’r fysell Enter (ar fysellfwrdd cyfrifiadur).

Rhowch Radd GPA

Rhowch Radd GPA

I roi gradd GPA, cliciwch y gwymplen a dewiswch y radd rydych chi ei heisiau o’r ddewislen.

 

Rhowch Radd GPA

Gallwch hefyd roi’r rhif sy’n cyfateb i’r raddfa GPA sydd wedi'i diffinio gan y cynllun graddau, a phwyso’r fysell Return (ar fysellfwrdd Mac) neu’r fysell Enter (ar fysellfwrdd cyfrifiadur).

Gweld Gwall Dilysu Gradd GPA

Gweld Gwall Dilysu Gradd GPA

Os byddwch chi’n rhoi gradd llythyren nad yw’r cynllun graddio yn gallu delio ag o, bydd y gell yn dangos eicon rhybudd gradd annilys. Bydd Canvas hefyd yn dangos neges rhybudd gradd annilys.

Golygu Gradd

Golygu Gradd

I olygu gradd sydd eisoes yn bodoli yn y Llyfr Graddau, cliciwch gell yr aseiniad i gael y radd.

I roi gradd newydd, rhowch y radd newydd. I ddileu’r radd, cliciwch y fysell Dileu.

I roi’r radd wedi’i golygu, pwyswch y fysell Return (ar fysellfwrdd Mac) neu’r fysell Enter (ar fysellfwrdd cyfrifiadur).

Rhoi Gradd drwy Ardal Manylion y Radd

Gweld Ardal Manylion y Radd

Gellir rhoi graddau yn Ardal Manylion y Radd yn ôl gosodiad dangos gradd yr aseiniad. I agor yr ardal, cliciwch gell aseiniad ar gyfer y myfyriwr a chlicio’r eicon Ardal Manylion y Radd (Grade Detail Tray) [1]. Yn y maes Gradd (Grade) [2], rhowch y radd ar gyfer y myfyriwr.

I symud ymlaen i’r myfyriwr nesaf, cliciwch yr eicon saeth [3].

Gweld Neges Hysbysu Gormod o Bwyntiau

Os bydd gormod o bwyntiau’n cael eu hychwanegu at radd myfyriwr, bydd Canvas yn creu neges hysbysu i roi gwybod bod y myfyriwr wedi cael gradd anarferol o uchel. Gallwch naill ai gadw neu gywiro gwerth y pwynt.

Mae gormod o bwyntiau'n gallu codi yn y sefyllfaoedd canlynol:

  • Mae’r swm a nodir yn 50% yn uwch na chyfanswm y pwyntiau sy'n bosib
  • Mae digid ychwanegol wedi'i roi (e.e. 500 yn lle 50)
  • Mae aseiniad wedi cael pwyntiau negyddol