Sut ydw i’n cynnwys cwrs yn y Mynegai Cyrsiau Cyhoeddus (Public Course Index)?
Casgliad o bob cwrs mae modd ei weld yn gyhoeddus yn eich sefydliad yw’r mynegai cyrsiau cyhoeddus. O ran y mynegai, mae’r gair cyhoeddus yn cyfeirio at y mynegai, ac nid y cyrsiau; mae cyrsiau yn y mynegai’n gallu bod yn gyrsiau cyhoeddus neu breifat. Gallwch ddysgu sut mae gweld y Mynegai Cyrsiau Cyhoeddus (Public Course Index).
Os ydych chi am gynnwys eich cwrs yn rhan o'r mynegai cyrsiau cyhoeddus, gallwch ddewis yr opsiwn gweld mynegai cyrsiau yng ngosodiadau'r cwrs. Hefyd, gallwch chi greu disgrifiad ar gyfer eich cwrs fel rhan o restr y catalog.
I gael rhagor o wybodaeth am opsiynau gweld, edrychwch ar y ddogfen adnoddau Opsiynau Gweld Cwrs Canvas (Canvas Course Visibility Options).
Sylwch:
- Ar hyn o bryd gosodiad cyfrif yw’r Mynegai Cyrsiau Cyhoeddus (Public Course Index), ac mae’n rhaid i weinyddwyr eich sefydliad alluogi hyn.
- Os yw eich cwrs wedi'i alluogi ar gyfer hunan-ymrestru, gallwch chi ychwanegu botwm Ymuno (Join) a fydd yn caniatáu i ddefnyddwyr hunan-ymrestru unrhyw bryd. Does dim rhaid i’r opsiwn hwn fod wedi'i alluogi i gynnwys cwrs yn y Mynegai Cyrsiau Cyhoeddus (Public Course Index), ond ni fydd myfyrwyr sy’n gweld y cwrs yn gallu cyfrannu at unrhyw drafodaeth, cwis, neu aseiniad oni bai eu bod wedi ymrestru.
- Os bydd cwrs yn cynnwys dyddiad gorffen, ni fydd y cwrs yn cael ei dynnu’n awtomatig o’r Mynegai Cyrsiau Cyhoeddus (Public Course Index).
Agor Gosodiadau
Yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs (Course Navigation), cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings).
Agor Manylion y Cwrs
Cliciwch y tab Manylion y Cwrs (Course Details).
Gosod Opsiynau Gweld
Yn yr opsiynau gweld, cliciwch y blwch ticio Cynnwys y cwrs hwn yn y mynegai o gyrsiau cyhoeddus (Include this course in the public course index).
Gosod Disgrifiad
Yn y maes disgrifiad, rhowch ddisgrifiad o’ch cwrs.
Diweddaru Manylion Cwrs
Cliciwch y botwm Diweddaru Manylion Cwrs (Update Course Details).