Sut ydw i’n plannu cyfryngau o ffynhonnell allanol yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog fel addysgwr?
Gallwch ddefnyddio'r Golygydd Cynnwys Cyfoethog i blannu cyfryngau fideo a sain o adnoddau allanol. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod eich cynnwys yn ddiogel cyn i chi ei blannu yn Canvas.
Mae sawl nodwedd yn Canvas yn cefnogi’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog, gan gynnwys Cyhoeddiadau, Aseiniadau, Trafodaethau, Tudalennau, Cwisiau, a Maes Llafur.
Agor Golygydd Cynnwys Cyfoethog
![Agor Golygydd Cynnwys Cyfoethog](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/003/851/899/original/4e012482-8a0d-4418-a65e-749016113ca5.png)
Agorwch y Golygydd Cynnwys Cyfoethog wrth greu neu olygu cyhoeddiad, aseiniad, trafodaeth, tudalen, cwis, neu faes llafur.
Nodyn: Mae’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn cefnogi bysellau hwylus. I weld y ddewislen Bysellau Hwylus, cliciwch yr eicon Bysellfwrdd neu bwyso ALT+F8 (Bysellfwrdd PC) neu Option+F8 (Bysellfwrdd Mac).
Agor yr Adnodd Plannu o’r Bar Offer
I blannu cyfryngau o’r bar offer, cliciwch yr eicon Plannu [1].
I weld yr eicon Plannu, efallai y bydd angen i chi glicio’r eicon Opsiynau [2].
Agor yr Adnodd Llwytho Cyfryngau i Fyny o’r Bar Dewislen
![Agor yr Adnodd Llwytho Cyfryngau i Fyny o’r Bar Dewislen](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/003/853/739/original/42a6cdcf-4e8b-4cf7-8f33-cf7c7aee4ffd.png)
Gallwch chi hefyd blannu cyfryngau gan ddefnyddio’r bar dewislen yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog. Mae’r bar dewislen yn dangos teitlau offer y Golygydd Cynnwys Cyfoethog ac efallai ei fod yn well i’r rheini sy’n defnyddio bysellau crwydro.
I blannu cyfryngau gan ddefnyddio’r bar dewislen, cliciwch y ddewislen Mewnosod (Insert) [1] a dewiswch yr opsiwn Plannu (Embed) [2].
Rhoi Cod Plannu
![Rhoi Cod Plannu](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/003/853/735/original/5ef7fbe4-be24-4e4e-84c0-22a1f471c2c7.png)
Gludwch y cod yn y maes Plannu Cod (Embed Code) [1]. Yna cliciwch y botwm Cyflwyno (Submit) [2].
Plannu Cyfryngau
![Plannu Cyfryngau](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/003/039/225/original/48e3eaa2-df83-4320-afbd-3c559ff7f8f8.png)
Cliciwch y botwm Cyflwyno (Submit).
Gweld Rhagolwg o Gyfryngau wedi’u Plannu
![Gweld Rhagolwg o’r Cyfryngau wedi Recordio](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/003/853/533/original/fe75f2c6-330e-400c-abab-1eb4ba2531db.png)
Gweld rhagolwg o’r cyfryngau rydych chi wedi’u plannu yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog.
Cadw Newidiadau
![Cadw Newidiadau](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/003/039/233/original/a0abba96-dd12-4783-a88c-45690cffc133.png)
Cliciwch y botwm Cadw (Save).
Nodiadau:
- Mae’r tudalennau manylion cwisiau, tudalennau, trafodaethau, ac aseiniadau yn cynnwys botwm Cadw a Chyhoeddi (Save & Publish).
- Mae’r dudalen maes llafur yn cynnwys botwm Diweddaru Maes Llafur (Update Syllabus).
- Mae ymatebion i drafodaethau yn cynnwys botwm Postio Ymateb (Post Reply).
Gweld Cynnwys
![Gweld Cynnwys](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/003/665/512/original/6ae028ad-1299-4a72-8441-99f1df033184.png)
Gweld y cynnwys sydd wedi’i greu yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog.