Sut ydw i’n golygu cyhoeddiad mewn cwrs?
Os gwnaethoch chi anghofio ychwanegu rhywbeth at eich cyhoeddiad, gallwch chi olygu ac ychwanegu rhagor o wybodaeth yn hawdd.
Os nad yw’r camau yn y wers hon yn cyd-fynd â’r hyn sydd wedi’i ddangos yn eich cwrs, dysgwch sut i ddefnyddio’r rhyngwyneb Ailddylunio Cyhoeddiadau.
Nodiadau:
- Bydd golygu cyhoeddiad yn creu hysbysiad yn y Dangosfwrdd Defnyddiwr a’r Ffrwd Gweithgarwch Cwrs. Os ydych chi eisiau i ddefnyddwyr dderbyn cyhoeddiad wedi’i olygu drwy eu gosodiadau hysbysu, bydd angen i chi greu cyhoeddiad newydd.
- Rhaid i’ch cwrs fod wedi cael ei gyhoeddi er mwyn i fyfyrwyr gael hysbysiadau am gyhoeddiadau. Nid yw myfyrwyr yn derbyn hysbysiadau cyhoeddiadau newydd ar gyfer cyhoeddiadau sydd wedi’u mewngludo o gwrs Canvas arall.
Agor Cyhoeddiadau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Cyhoeddiadau (Announcements).
Clicio Golygu

Cliciwch y botwm Golygu (Edit).
Gweld Cyhoeddiad

Gweld y cyhoeddiad.