Sut ydw i’n defnyddio’r Dudalen Mynegai Cynadleddau?

Mae’r Dudalen Mynegai Cynadleddau yn gadael i chi weld pob cynhadledd sy’n rhan o gwrs. Fel addysgwr, gallwch greu cynadleddau newydd, dechrau cynadleddau a rheoli cynadleddau sydd wedi dirwyn i ben. Os yw eich sefydliad wedi uwchraddio i haen premiwm Cynadleddau Canvas (Canvas Conferences), gallwch weld ystadegau'r gynhadledd.

Dysgu mwy am Gynadleddau.

Nodiadau:

  • Mae creu cynhadledd yn un o hawliau cwrs. Os nad oes modd i chi greu cynhadledd, mae eich sefydliad wedi cyfyngu’r nodwedd hon.
  • I gael rhagor o wybodaeth am opsiynau gwe-gynadledda yn Canvas, ewch i weld yr Adnoddau Gwe-gynadledda.
  • Mae’r ddolen Crwydro'r Cwrs ar gyfer eich adnodd gwe-gynadledda yn adlewyrchu enw’r adnodd gwe-gynadledda. Efallai y bydd y ddolen yn ymddangos fel BigBlueButton, Adobe Connect, neu enw’r adnodd gwe-gynadledda mae eich sefydliad yn ei ddefnyddio.

Agor Cynadleddau

Agor Cynadleddau

Yn Crwydro'r Cwrs, cliciwch y ddolen ar gyfer eich adnodd gwe-gynadledda. Mae enw’r ddolen yn adlewyrchu’r adnodd cynadledda sy’n cael ei ddefnyddio gan eich sefydliad.

Gweld Cynadleddau

Gweld Cynadleddau

Mae cynadleddau’n cael eu rhannu’n ddwy ran: Cynadleddau Newydd [1] a Chynadleddau wedi Dirwyn i Ben [2]. Bydd enw’r gynhadledd [3] a’r disgrifiad [4] yn ymddangos yn y ddwy ran bob amser.

Os yw myfyriwr wedi cael gwahoddiad i ymuno â chynhadledd, bydd y myfyriwr yn gallu gweld y gynhadledd ar y dudalen Cynadleddau.

 

Rheoli Cynhadledd

Pan fo mynychwyr yn cael eu tynnu o gwrs, neu’n cael eu hychwanegu ato, mae addysgwyr yn gallu cysoni’r mynychwyr gyda’r gynhadledd newydd [1]. Pan fyddwch chi’n clicio ar yr opsiwn Cysoni Mynychwyr (Sync Attendees) bydd holl fynychwyr y cwrs yn cael eu hychwanegu at y gynhadledd newydd.

Gallwch chi hefyd ddefnyddio’r gwymplen opsiynau i olygu [2] neu ddileu y gynhadledd [3].

Gweld Cynhadledd sydd ar waith

Gweld Cynhadledd sydd ar waith

Fel safonwr, fe allwch chi ddechrau cynadleddau newydd [1]. Pan fydd y gynhadledd wedi dechrau, rhoddir y statws ar waith [2] i'r gynhadledd. Bydd y rheini sydd wedi cael gwahoddiad i'r gynhadledd yn gallu ymuno ar yr amod bod y botwm Ymuno (Join) ar gael [3].

Gweld Cynadleddau sydd wedi Dirwyn i Ben

Gweld Cynadleddau sydd wedi Dirwyn i Ben

Mae cynadleddau sydd wedi dirwyn i ben i’w gweld yn yr adran Cynadleddau wedi Dirwyn i Ben (Concluded Conferences). Bydd teitl, dyddiad a disgrifiad o’r gynhadledd yn ymddangos ar gyfer pob cynhadledd sydd wedi dirwyn i ben.

Gweld Cynhadledd sydd wedi’i Recordio

Gweld Cynhadledd sydd wedi’i Recordio

Mae cynadleddau sydd wedi dirwyn i ben ac oedd yn galluogi recordio yn dangos yr eicon Saeth (Arrow) [1].

I weld y recordiad a manylion ychwanegol, cliciwch enw’r gynhadledd [2].

Agor Recordiad

Agor Recordiad

I ailchwarae'r gynhadledd, cliciwch ddolen Fideo neu Cyflwyniad (Presentation) [1]. Gallwch hefyd weld hyd y recordiad o'r gynhadledd [2].

Fydd dolen fformat y recordiad ddim yn ymddangos nes bydd y gynhadledd wedi’i rendro i gael ei chwarae. Gall y broses rendro gymryd peth amser i’w chwblhau. Os oedd eich cynhadledd yn cynnwys capsiynau caeedig, bydd botwm CC yn ymddangos ar far chwarae’r fideo er mwyn gallu gweld y capsiynau sydd ar gael.

I ddileu eich recordiad, cliciwch y botwm Dileu (Delete) [3].

Nodyn: Ar gyfer pob cyfrif Cynhadledd sylfaenol, caiff recordiadau eu dileu’n awtomatig 7 diwrnod ar ôl i’r gynhadledd ddod i ben.

Agor Nodiadau

Agor Nodiadau

Os oedd eich cynhadledd yn cynnwys nodiadau wedi’u rhannu, gallwch weld y nodiadau drwy glicio'r ddolen Nodiadau (Notes). Bydd y nodiadau wedi’u rhannu yn ymddangos mewn tab pori newydd, lle mae modd eu gweld a'u copïo.

Nodyn: Dydy nodiadau ddim ond ar gael ar gyfer cynadleddau sydd wedi'u recordio.

Agor Ystadegau

Agor Ystadegau

Os yw eich sefydliad wedi uwchraddio i haen premiwm Cynadleddau Canvas (Canvas Conferences), gallwch weld ystadegau'r gynhadledd drwy glicio’r ddolen Ystadegau (Statistics).

Gweld Ystadegau

Mae ystadegau’n cynnwys metrigau am gyfranogiad myfyriwr yn y sesiwn sydd wedi’i recordio, fel hyd amser yn y sesiwn [1], nifer y safonwyr a chyfranogwyr [2], a nifer y myfyrwyr a oedd wedi siarad, anfon neges, defnyddio emoji, neu godi dwylo yn ystod y gynhadledd [3]. Mae metrigau hefyd yn cynnwys ymateb pob myfyriwr i bolau piniwn [4].

I lwytho ystadegau ar ffurf ffeil CSV, cliciwch y botwm Llwytho CSV i Lawr (Download CSV) [5].