Sut ydw i’n ychwanegu llun proffil yn fy nghyfrif defnyddiwr fel addysgwr?

Os yw’ch sefydliad wedi galluogi lluniau proffil, gallwch ychwanegu a newid lluniau proffil yn eich cyfrif. Os nad ydych chi’n gweld llun dros dro yn eich gosodiadau defnyddiwr, nid yw’ch sefydliad wedi galluogi’r nodwedd hon.

Mae tair ffordd o ddewis llun proffil i’w ddefnyddio ym mhob rhan o Canvas:

  • Llwytho Llun i Fyny (Upload a Picture) oddi ar eich cyfrifiadur
  • Tynnu Llun (Take a Picture) gan ddefnyddio camera eich cyfrifiadur (does dim modd gwneud hyn os ydych chi’n defnyddio Safari neu Internet Explorer)
  • Mewngludo o gyfrif Gravatar sy’n bodoli’n barod (efallai y bydd eich sefydliad wedi cyfyngu ar y nodwedd hon, ac mai dim ond delweddau sy’n gwbl addas y mae modd eu defnyddio)

Awgrymiadau ar gyfer lluniau proffil:

  • Dewiswch lun addas i’ch cynrychioli eich hun. Mae gan eich sefydliad hawl i ddileu lluniau nad ydynt yn briodol ar gyfer yr ystafell ddosbarth.
  • Dylai'r delweddau fod ar ffurf sgwâr er mwyn sicrhau na fydd maint y llun yn cael ei newid a’i fod yn edrych yn iawn.
  • Gellir defnyddio unrhyw fath o ffeil (.jpg, .png, .gif) o unrhyw faint, cyn belled â bod gennych chi le i storio’r ffeil yn eich ffeiliau personol. Mae Canvas yn argymell bod eich llun proffil mor fach â phosib.
  • Caiff eich cwota ffeiliau personol ei roi ar waith pan fyddwch yn llwytho llun proffil i fyny. Os nad oes gennych chi ddigon o le i'w storio yn eich ffeiliau personol, ni fyddwch yn gallu llwytho’r llun proffil i fyny. Gallwch greu mwy o le drwy gael gwared â rhai o’r ffeiliau yn eich ffeiliau personol.

Agor Gosodiadau Defnyddiwr

Agor Gosodiadau Defnyddiwr

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyfrif (Account) [1], yna cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings) [2].

Agor Llun Proffil

Agor Llun Proffil

Cliciwch yr eicon llun proffil.

Nodyn: Os nad ydych chi’n gweld eicon llun proffil dros dro, nid yw’ch sefydliad yn caniatáu i chi ychwanegu na newid eich llun proffil.

Llwytho llun i fyny

Llwytho llun i fyny

I lwytho ffeil llun proffil newydd i fyny, cliciwch y gwymplen Opsiynau Llun (Picture Options) a dewiswch yr opsiwn Llwytho llwytho llun i fyny (Upload a Picture) [1]. Yna cliciwch y ddolen dewiswch lun (choose a picture) [2]. Gallwch hefyd lusgo llun o'ch bwrdd gwaith a'i ollwng yn y ffenestr.

Dewis Llun Proffil

Dewis Llun Proffil

Dewch o hyd i'r ddelwedd rydych chi am ei llwytho i fyny a chlicio’r botwm Agor (Open) neu Pori (Browse).

Tocio neu Ailfeintio Llun

Tocio neu Ailfeintio Llun

I docio eich delwydd, dewiswch y dolenni dewis [1]. I ailganoli'r ddelwedd, hofrwch y cyrchwr dros y ddelwedd, yna clicio a llusgo'r dewisydd cylch i leoliad newydd [2].

Pan fyddwch chi wedi gorffen, cliciwch y botwm Cadw (Save) [3].

Sylwch: Mae Canvas yn storio copi yn awtomatig o'r llun proffil sydd wedi'i gadw yn eich ffeiliau personol. Pan rydych chi’n cadw llun newydd yn eich proffil, mae’r llun newydd yn disodli ffeil eich hen lun yn eich ffeiliau personol.

Tynnu Llun

Tynnu Llun

I dynnu llun i’w ddefnyddio fel eich llun proffil, cliciwch y gwymplen Opsiynau Llun (Picture Options) a dewiswch yr opsiwn Tynnu Llun (Take a Picture) [1]. Yna cliciwch y botwm Tynnu Llun (Take Picture) [2].

Nodyn: Yn ddibynnol ar eich porwr, efallai y bydd angen i chi ganiatáu i Canvas gael mynediad at eich camera. Does dim modd defnyddio'r opsiwn Tynnu Llun os ydych chi’n defnyddio Safari neu Internet Explorer.

Cadw Llun

Cadw Llun

I dynnu llun arall, cliciwch y botwm Rhoi cynnig arall arni (Retry) [1]. Pan fyddwch chi wedi gorffen, cliciwch y botwm Cadw (Save) [2].

Mewngludo o Gravatar

Mewngludo o Gravatar

Os yw eich sefydliad yn caniatáu i chi ddefnyddio Gravatars a bod gennych chi gyfrif Gravatar, gallwch fewngludo Gravatar sy'n bodoli eisoes i'w ddefnyddio fel eich llun proffil.

Cliciwch y gwymplen Opsiynau Proffil (Profile Options) a dewis yr opsiwn O Gravatar (From Gravatar) [1]. Rhowch eich cyfeiriad e-bost Gravatar yn y maes a ddarperir [2]. Cliciwch y botwm Rhagolwg (Preview) i weld eich Gravatar [3]. Pan fyddwch chi wedi gorffen, cliciwch y botwm Cadw (Save) [4].

Sylwch: Cyn ychwanegu llun yn eich cyfrif Gravatar, rhaid i’r llun gael ei asesu. Sylwch mai dim ond llun Gravatar gradd G y gallwch chi ei ddefnyddio fel llun proffil Canvas.

Gweld Llun Proffil

Gweld Llun Proffil

Y llun proffil rydych chi wedi'i ddewis fydd yn ymddangos yn hytrach na’r llun proffil dros dro.

Dileu Llun Proffil

Mae lluniau proffil wedi’u cysylltu â’ch ffeiliau personol, felly gallwch eu dileu’n hawdd er mwyn cael gwared â hen luniau proffil.

Sylwch: Does dim modd dileu delweddau Gravatar o’ch cyfrif drwy eich ffeiliau personol. Fodd bynnag, gallwch chi disodli delweddau Gravatar â delwedd sydd wedi'i llwytho i fyny neu lun a dynnwyd gan ddefnyddio’r opsiwn Tynnu Llun.

Agor Ffeiliau

Agor Ffeiliau

I ddileu llun proffil, cliciwch y ddolen Ffeiliau (Files).

Agor Lluniau Proffil

Cliciwch y ffolder lluniau proffil (profile pictures).

Dileu Llun Proffil

Dileu Llun Proffil

Wrth ymyl y ffeil rydych chi am ei dileu [1], cliciwch yr eicon Opsiynau [2] wedyn clicio'r ddolen Dileu (Delete) [3].