Gallwch ychwanegu eich cwestiynau eich hun at eich cwisiau. Gallwch greu pob math o gwestiynau cwis. Hefyd, mae modd ychwanegu cwestiynau unigol at grwpiau o gwestiynau.
Pan fydd dogfen yn cael ei llwytho i fyny i’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog o gwis, mae’r ffeil yn cael ei chadw yn y ffolder Cyfryngau wedi’u Llwytho i Fyny yn Ffeiliau’r Cwrs ac yn ddiofyn bydd wedi’i guddio. Gall myfyrwyr weld y ffeil pan fydd y cwis ar gael iddynt. Dysgu mwy am opsiynau gweld ffeiliau.
Yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs (Course Navigation), cliciwch y ddolen Cwisiau (Quizzes).
Cliciwch y botwm Ychwanegu Cwis.
Os oes gan eich cwrs New Quizzes wedi’u galluogi, rhaid i chi ddewis peiriant cwis.
I greu cwis clasurol, cliciwch yr opsiwn Classic Quizzes [1].
I ddewis New Quizzes, cliciwch yr opsiwn New Quizzes [2].
I gadw eich dewis o beiriant cwis ar gyfer y cwrs hwn, cliciwch y blwch ticio Cofio fy newis ar gyfer y cwrs hwn (Remember my choice for this course) [3].
Yna cliciwch y botwm Cyflwyno (Submit) [4].
Nodyn:
Yn y tab Manylion, rhowch enw eich cwis [1]. Yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog [2], cyflwynwch eich cwis gyda delweddau, fideo, samplau o hafaliadau mathemategol, neu destun wedi’i fformatio. Gallwch hyd yn oed ddefnyddio’r adnodd gwneud sylw ar gyfryngau i recordio rhagarweiniad i'r cwis.
Llenwch weddill manylion y cwis [3].
Cliciwch y tab Cwestiynau (Questions) [1]. Gallwch greu cwestiwn cwis newydd eich hun drwy glicio’r botwm Cwestiwn Newydd (New Question) [2].
Dydy cwestiynau cwis ddim yn cael eu rhifo’n awtomatig ar gyfer addysgwyr. I ychwanegu enw personol at eich cwestiwn cwis, rhowch yr enw ym maes testun y cwestiwn. Gall enwau personol eich helpu chi i adnabod cwestiynau cwis yn haws.
Ni waeth beth yw enw’r cwestiwn, bydd y myfyrwyr bob amser yn gweld cwestiynau’r cwis mewn trefn rifol (hy Cwestiwn 1, Cwestiwn 2).
Yn y gwymplen math o gwestiwn, gallwch greu’r mathau canlynol o gwestiynau cwis:
Gallwch gysylltu cynnwys cyrsiau i greu cwestiynau Cwis, er enghraifft drwy gysylltu diagram.
I osod gwerth pwynt ar gyfer y cwestiwn, rhowch y pwyntiau yn y maes pwyntiau (pts).
Nodyn: Mae gwerthoedd pwynt cwis yn gallu delio â hyd at ddau le degol. Os byddwch chi’n rhoi mwy na dau le degol, bydd gwerth y pwynt yn cael ei dalgrynnu i’r canfed agosaf.
I gadw eich cwestiwn, cliciwch y botwm Diweddaru Cwestiwn (Update Question).
Gweld y cwestiynau yn eich cwis. I weld manylion cwestiynau, cliciwch y blwch Dangos Manylion Cwestiwn (Show Question Details).
Nodyn: Dydy manylion cwestiynau ddim ar gael mewn cwisiau sydd â mwy na 25 cwestiwn.
Cliciwch y botwm Cadw i gadw eich gwaith ac i weld rhagolwg o’r cwis.
Nodyn: Ni ddylech gyhoeddi eich cwis nes eich bod wedi’i gwblhau’n derfynol. Os ydych chi’n barod i gyhoeddi eich cwis a’i ddarparu i fyfyrwyr, cliciwch y botwm Cadw a Chyhoeddi.
Cliciwch y botwm Rhagolwg [1] i weld yr hyn fydd y myfyrwyr yn ei weld wrth wneud y cwis. Os ydych chi’n fodlon ar y rhagolwg o’r cwis, cliciwch y botwm Cyhoeddi (Publish) [2].
Nodyn: Er y gallwch wneud newidiadau i’r cwis ar ôl ei gyhoeddi, ni fydd y myfyrwyr sydd eisoes wedi agor neu gwblhau’r cwis yn gweld y newidiadau, a gallai hynny effeithio ar eu graddau.
Note: You can only embed guides in Canvas courses. Embedding on other sites is not supported.